Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dogfennau i'w dangos yn eich prawf gyrru theori

Bydd disgwyl i chi ddangos dwy ran eich trwydded yrru ddilys (y cerdyn-llun a'r papur manylion) yn y ganolfan arholi. Os mai'r hen fath o drwydded heb lun sydd gennych, bydd rhaid i chi hefyd ddod â phasport dilys. Os na fyddwch yn dangos y dogfennau sy’n ofynnol ni chewch chi sefyll y prawf a byddwch chi’n colli eich ffi.

Yr hen fath o drwyddedau gyrru

Un ddogfen bapur yw'r hen fath o drwydded, heb eich llun arni. Os oes gennych chi drwydded bapur o'r hen fath, rhaid i chi hefyd ddod â phasport dilys gyda chi - ni dderbynnir unrhyw ffurf arall ar brawf ffotograffig.

Yn y ganolfan brawf

Ar ôl i chi gael eich cofrestru yn y dderbynfa, byddwch yn mynd drwodd i'r ystafell brawf. Chewch chi ddim mynd â dim byd i'r ystafell gyda chi; rhaid cadw'ch holl eiddo personol yn y loceri a ddarperir.

Unwaith y byddwch chi yn yr ystafell brawf, chewch chi ddim sgwrsio gydag unrhyw ymgeisydd arall na thynnu eu sylw. Ar sgrîn y cyfrifiadur, fe welwch eich enw a chategori'r prawf rydych chi'n ei sefyll.

Os bydd unrhyw broblem yn ystod y prawf theori, dylech godi'ch llaw i dynnu sylw'r arolygwr.

Allweddumynediad llywodraeth y DU