Byddwch yn well beiciwr - dilynwch gwrs hyfforddi i wella eich sgiliau ar gefn beic modur. Holwch hyfforddwr proffesiynol am ddilyn cwrs dan y Cynllun Gwell Beiciwr. Yn ogystal â meithrin sgiliau newydd, cewch hefyd ddisgownt ar gost eich yswiriant gan rai broceriaid yswiriant beiciau modur.
Mae gyrwyr beiciau modur yn cyfrif am lai nag un y cant o'r holl draffig ar ein ffyrdd, ond maent yn cyfrif am 18 y cant o farwolaethau ac anafiadau difrifol ar ein ffyrdd. Mae gyrwyr beiciau modur 45 gwaith yn fwy tebygol o gael eu lladd ar y ffordd na gyrwyr ceir - ac mae'r ffigyrau hyn yn codi.
Bydd y gyrwyr gorau yn canolbwyntio'n galetach na'r gyrrwr cyffredin ac yn edrych o'u cwmpas yn barhaus am unrhyw arwydd o berygl posib. Dydyn nhw ddim yn aros i rywbeth ddatblygu. Mae popeth wedi'i gynllunio, a byddant yn gyrru ar gyflymder diogel gyda'r beic yn y gêr cywir ac ar y safle mwyaf diogel ar y ffordd. Bydd y rhan fwyaf o'r gyrwyr hyn wedi dilyn cyrsiau gyrru'n bwyllog a byddant yn datblygu'r sgiliau hyn gyson.
Os ydych chi'n credu bod hyfforddi'n ddiflas, ceisiwch edrych arno fel ffordd o loywi eich sgiliau gyrru beic modur.
Siaradwch â hyfforddwr proffesiynol am ddilyn cyrsiau gyrru pellach. Mae'r hyfforddwyr hyn yn yrwyr beiciau modur brwd sy'n fwy na pharod i rannu eu gwybodaeth.
Cofrestr wirfoddol yw'r Gofrestr o Hyfforddwyr ar gyfer Beicwyr Modur sydd wedi pasio’u Prawf. Mae hi'n cynnwys rhestr o hyfforddwyr sy'n asesu ac yn darparu hyfforddiant datblygiadol i unrhyw yrrwr sydd wedi pasio'i brawf beic modur. Bwriad y cynllun yw gloywi sgiliau gyrru'r rheini sydd:
Mae'r gofrestr yn tyfu ac mae hyfforddwyr ar gael ledled y wlad, yn darparu hyfforddiant ac asesiadau cymeradwy i yrwyr beiciau modur, a'r rheini wedi'u teilwra'n arbennig i ddiwallu anghenion pob unigolyn.
Mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru wedi achredu Fast-Track i ddarparu hyfforddiant i hyfforddwyr sy'n dymuno ymuno â'r gofrestr. Fel y corff hyfforddi cyntaf i'w benodi, bydd y Gofrestr o Hyfforddwyr ar gyfer Beicwyr Modur sydd wedi pasio’u Prawf yn awr yn gallu hyfforddi ei hyfforddwyr ei hun i safon cofrestru'r Asiantaeth Safonau Gyrru. Disgwylir i eraill gael eu hachredu yn y man.
Dan y Cynllun Gwell Beiciwr, bydd pob hyfforddai yn cael hyfforddiant ac yn cael ei feithrin ar sail maes llafur y Gofrestr o Hyfforddwyr ar gyfer Beicwyr Modur sydd wedi pasio'u Prawf. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei deilwra i ddiwallu anghenion pob gyrrwr. Mae'n golygu y bydd y gyrrwr yn cael cyn lleied neu gymaint o gymorth ag y mae ei angen arno i ddatblygu, yn hytrach nag un pecyn llawn ar gyfer pawb.
Bydd pob hyfforddai sy'n ennill y safon ar gwrs asesu a hyfforddi, a roddir gan un o hyfforddwyr y Gofrestr o Hyfforddwyr ar gyfer Beicwyr Modur sydd wedi pasio'u Prawf a gymeradwywyd gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru, yn cael Tystysgrif Yswiriant Gwell Beiciwr. Bydd y dystysgrif hon yn rhoi hawl iddynt gael disgownt ar gost eu hyswiriant gyda llawer o'r prif froceriaid yswiriant beiciau modur. I gyd-fynd â hyn, mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru hefyd wedi trefnu disgownt drwy Gymdeithas Diwydiant y Beiciau Modur.