Uchafswm cyflymder moped yw 50 cya (tua 31 mya). Nid yw maint ei injan yn fwy na 50 cc a gellir ei symud gyda phedalau, os cafodd ei ddefnyddio am y tro cyntaf cyn 1 Awst 1977. Ni chaiff maint injan beic modur i yrwyr dan hyfforddiant fod yn fwy na 125 cc na'r pŵer fod yn fwy na 11 kW.
Mae dau fath o drwydded beic modur lawn:
Sylwch:
Nid yw'r beic modur BMW C1 yn beiriant addas ar gyfer prawf ymarferol.
Mae dewisiadau eraill gan yrwyr sy'n 21 oed neu'n hŷn, neu sy'n cael eu pen-blwydd yn 21 cyn i'r cyfyngiad dwy flynedd ddod i ben.
Ar ôl cwblhau CBT a'r prawf theori, gellir sefyll y prawf ymarferol ar feic modur sydd â phŵer sy'n o leiaf 35kW. Mae pasio'r prawf yn caniatáu chi i yrru beic o unrhyw faint. Gellir dilyn rhan neu'r cyfan o gwrs CBT ar feic dysgwr neu ar feic mawr. Efallai y gallech chi ymarfer ar gyfer y prawf ymarferol ar feiciau sydd â manyleb fwy na beic dysgwr ar yr amod:
Os yw gyrwyr yn 21 oed ond o fewn y cyfnod dwy flynedd lle mae'r cyfyngiad o 25 kW ar beiriannau mewn grym, a hwythau'n dymuno gyrru beiciau mwy, rhaid iddynt basio prawf pellach ar feic modur sydd ag o leiaf 35 kW. Gallant ymarfer ar feiciau sydd â dros 25 kW o dan yr un amodau â'r rheiny ar gyfer reidwyr mynediad uniongyrchol. Byddwch yn dychwelyd i statws gyrrwr dan hyfforddiant tra'n ymarfer (ar feic modur sydd â mwy na 25 kW), er na fydd methu'r prawf yn effeithio ar eich trwydded bresennol.
Gall gyrwyr sy'n dymuno gyrru gyda cherbyd ochr ymarfer ar gyfuniad gyda chymhareb pŵer/pwysau sydd heb fod yn fwy na 0.16 kW/kg. Ar ôl cael trwydded safonol, byddwch wedi'ch cyfyngu i gyfuniad gyda'r un gymhareb pŵer/pwysau am ddwy flynedd. Ar ôl cyrraedd 21 oed, gall dysgwyr, o fewn y cynlluniau mynediad uniongyrchol neu fynediad cyflym yn unig, ymarfer ar gyfuniad mwy, ond rhaid sefyll y prawf ar feic unigol (er y gall gyrwyr gydag anableddau corfforol ddefnyddio cyfuniad).