Cyflwynwyd yr Hyfforddiant sylfaenol gorfodol (CBT) yn 1990 er mwyn helpu i ollwng y gyfradd damweiniau uchel ymysg gyrwyr beiciau modur dibrofiadRhaid cwblhau hyfforddiant sylfaenol gorfodol (CBT) cyn y caiff gyrrwr moped neu feic modur dan hyfforddiant yrru ei hun ar y ffordd gyda phlatiau L neu blatiau D yng Nghymru.
Cwrs hyfforddiant sylfaenol gorfodol ar gyfer beiciau modur yw CBT, a rhaid ei gwblhau cyn y caiff gyrrwr moped neu feic modur dan hyfforddiant yrru ei hun ar y ffordd gyda phlatiau L (platiau D yng Nghymru). Cyflwynwyd CBT yn 1990 er mwyn ceisio lleihau y gyfradd uchel iawn o ddamweiniau ymysg beicwyr modur amhrofiadol.
Mae pum elfen i'r cwrs CBT:
A. cyflwyniad
B. hyfforddiant ymarferol ar safle
C. gyrru ymarferol ar safle
D. hyfforddiant ymarferol ar y ffordd
E. gyrru ymarferol ar y ffordd
Rhaid cwblhau'r bum elfen yn eu trefn, er y gellir amrywio trefn yr ymarferion o fewn pob elfen. Dim ond pan fydd eich hyfforddwr yn fodlon eich bod wedi dysgu'r theori ac wedi dangos y sgiliau ymarferol hyd at lefel ddiogel sylfaenol y byddwch yn symud ymlaen i'r elfen nesaf. Mae'r gyfraith yn mynnu bod rhaid i yrwyr dan hyfforddiant yrru am o leiaf dwy awr ar y ffordd yn Elfen E.
Pan fydd y pum elfen wedi'u cwblhau yn llwyddiannus, bydd tystysgrif gwblhau, sef DL196, yn cael ei rhoi. Dogfen gyfreithiol yw hon sy'n dilysu'r hawliau perthnasol ar eich trwydded yrru. Mae'n bwysig fod person sydd â DL196 yn ystyried y pwyntiau canlynol:
Unwaith i chi gael eich tystysgrif, fe'ch cynghorir i gael hyfforddiant ychwanegol i basio'ch profion theori ac ymarferol a bod yn gymwys i gael trwydded moped neu feic modur. Rhaid i chi fynd â'ch tystysgrif DL196 gyda chi pan fyddwch chi'n sefyll eich prawf ymarferol.
Dim ond hyfforddwyr sydd wedi'u cymeradwyo gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) sy'n cael dysgu cwrs CBT mewn corff hyfforddi cymeradwy (ATB). Rhaid i bob ATB gael hyfforddwyr sydd wedi cwblhau asesiad deuddydd yn llwyddiannus a chael safloedd sydd wedi'u cymeradwyo gan y DSA ar gyfer hyfforddi oddi ar y ffordd.
Bydd cost y cwrs yn amrywio fel rheol rhwng tua £70 a £100. Mae'r rhan fwyaf o ganolfannau yn cynnig benthyg peiriannau a helmedi ar gyfer y cwrs. Gellir cynnwys cost y CBT o fewn cost cwrs hyfforddiant llawn sy'n arwain at brawf beic modur.