Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gofynion sylfaenol ar gyfer cerbyd prawf – prawf car a char ac ôl-gerbyd

Mae'r safonau gofynnol ar gyfer cerbyd prawf hefyd yn berthnasol ar gyfer prawf car ac ôl-gerbyd, gyda gofynion ychwanegol ar gyfer yr ôl-gerbyd a'r cerbyd sy'n ei dynnu. Nid yw cerbydau nad ydynt yn bodloni'r safonau gofynnol ar gyfer cerbyd prawf yn addas ar gyfer sefyll prawf, ac efallai y caiff eich prawf ei ganslo ac y byddwch yn colli'ch ffi.

Categori B - ceir a faniau

Rhaid i geir neu faniau a gaiff eu defnyddio ar gyfer prawf fodloni'r amodau canlynol:

  • cerbyd pedair olwyn heb fod dros 3500 cilogram (kg) mewn uchafswm màs awdurdodedig
  • yn gallu teithio ar gyflymder o leiaf 100 cilomedr yr awr (km/a) neu 62.5 milltir yr awr (mya)

Hefyd, rhaid gosod y canlynol ar y car neu'r fan:

  • gwregys diogelwch i'r arholwr
  • gorffwysfan pen i'r teithiwr, nid oes angen gallu ei symud, ond dylai fod wedi'i osod fel rhan annatod o'r sedd - ni chaniateir gorffwysfan pen 'llithro ymlaen'
  • drych mewnol ar gyfer yr arholwr
  • Platiau L wedi'u dangos ar flaen ac ar gwt y cerbyd ond heb amharu ar olwg y gyrrwr na'r arholwr
  • cloc cyflymder sy'n mesur cyflymder mewn milltiroedd yr awr a chilometrau yr awr

Rhaid i'r cerbyd fod yn gyfreithlon ac yn ddiogel i fod ar y ffordd, heb ddim goleuadau rhybudd yn y golwg, e.e. golau rhybudd y bag awyr

Cerbydau to meddal

Mae rhai cerbydau â tho meddal yn anaddas ar gyfer y prawf gyrru, e.e. y Ford KA â tho meddal a'r Mini â tho meddal, am na all yr arholwr weld yn ddigon da i bob cyfeiriad. Os ydych chi'n bwriadu defnyddio cerbyd to meddal ar gyfer y prawf gyrru, gwnewch yn siŵr ei fod yn addas wrth archebu.

Addasrwydd cerbydau ar gyfer profion Categori B

Mae'r mwyafrif helaeth o geir salŵn, ceir cefn codi, a cheir ystad yn addas ar gyfer y prawf, ond mae mwy a mwy o ddylunwyr ceir yn cynhyrchu modelau â llinellau ysgubol sy'n galluogi gweld ymlaen yn dda ond yn achosi mannau dall mawr tuag yn ôl, sy'n peri problemau i arholwyr o ran arsylwi pethau.

Mae faniau paneli hefyd yn peri problemau golwg, a byddant yn aml yn anaddas ar gyfer prawf.

Yn aml mae cerbydau a gyflenwir gan wneuthurwyr moduron wedi bod drwy'r broses cymeradwyo math, ond mae'r gymeradwyaeth hon yn canolbwyntio ar gerbydau o safbwynt gyrrwr, ac nid yw'r broses o reidrwydd yn golygu bod y cerbyd yn addas at ddibenion y prawf.

Rhaid i gerbydau prawf alluogi arholwyr i weld i bob cyfeiriad fel y gallant weld cerbydau sy'n agosáu, yn enwedig pan fydd y car ar ongl i gerbydau eraill yn ystod symudiadau bacio'n ôl a hefyd wrth ddod allan o gyffordd gyda'r cerbyd ar ongl i'r brif ffordd.

Galw cerbydau'n ôl a hysbysiadau diogelwch

Weithiau, ni fydd cerbydau'n addas ar gyfer prawf gyrru ymarferol am fod gwneuthurwr wedi'u galw'n ôl, neu am bod nam wedi'i ganfod a bod angen i'r gwneuthurwr/deliwr ei gywiro.

Dan yr amgylchiadau hyn, nid yw'r cerbydau hyn yn addas ar gyfer prawf gyrru ymarferol oni all yr ymgeisydd ddangos tystiolaeth ddogfennol gan ddeliwr, neu wneuthurwr y cerbyd, i brofi bod eu cerbyd prawf yn bodloni un o'r meini prawf isod:

  • bod y gwaith galw'n ôl wedi ei wneud
  • bod y cerbyd wedi'i wirio ac nid oes angen gwaith
  • bod y cerbyd wedi'i eithrio rhag y gwaith galw'n ôl

Categori B1

Rhaid i gerbyd tair neu bedair olwyn sy'n cael ei yrru gan fodur gael pwysau heb lwyth nad yw'n fwy na 550kg a rhaid iddo allu cyrraedd o leiaf 60cya (37.25mya).

I reidio beic modur pedair olwyn, bydd angen trwydded categori B (car) neu B1 arnoch; fodd bynnag, nid yw beiciau modur pedair olwyn yn gerbydau addas at ddibenion y prawf am nad ydynt yn gynrychioliad rhesymol o'r dosbarth y maent yn perthyn iddo.

Categori B + E

Rhaid i gerbydau prawf car ac ôl-gerbyd:

  • fod â drychau allanol ar yr ochr agos a'r ochr bell i'w defnyddio gan yr arholwr neu unrhyw berson sy'n goruchwylio'r prawf
  • fod yn gerbyd categori B heb lwyth yn tynnu ôl-gerbyd heb lwyth gyda breciau addas gyda MAM sy'n un dunnell o leiaf. Gall yr arholwr ofyn am dystiolaeth o MAM yr ôl-gerbyd, e.e. plât gwneuthurwr.

Rhaid i bob cyfuniad o gerbydau gael breciau addas a threfniant bachu sy'n addas i'r pwysau.

Rhaid i ran cargo yr ôl-gerbyd fod yn flwch caeëdig sydd yr un mor llydan ac uchel â'r cerbyd sy'n ei dynnu; dylai fod modd gweld y tu ôl i'r cerbyd gyda drychau mewnol y cerbyd sy'n tynnu yn unig.

Allweddumynediad llywodraeth y DU