Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Egluro'r prawf car ymarferol

Bydd eich prawf gyrru yn dechrau gyda phrawf golwg ac yna gofynnir rhai cwestiynau i chi am ddiogelwch cerbydau. Bydd eich prawf gyrru ymarferol wedyn yn dechrau, a hwnnw'n cynnwys rhai symudiadau penodol.

Bydd rhan gyrru eich prawf yn para tua 40 munud. Gydol y prawf bydd eich arholwr yn chwilio'n gyffredinol am safon yrru ddiogel, gan gynnwys pan fyddwch yn gwneud yr ymarferion penodol. Fe allwch chi wneud hyd at 15 gwall gyrru a phasio'r prawf (bydd 16 neu fwy yn golygu methu). Fodd bynnag, os byddwch chi'n gwneud un gwall difrifol neu beryglus, byddwch yn methu'r prawf.

Y prawf gyrru ymarferol (car)

Bellach, gall yr Asiantaeth Safonau Gyrru gynnig profion ar amseroedd gwahanol i'r rhai arferol mewn nifer o ganolfannau prawf. Mae hyn yn darparu ystod ehangach o apwyntiadau i gwsmeriaid dros gyfnod hwy y diwrnod gwaith.

Yn gyffredinol, mae profion ymarferol ar gael ymhob canolfan brawf barhaol. Cynigir profion gyda'r nos yn ystod yr wythnos ac ar ddydd Sadwrn am bris uwch, pan fydd adnoddau ar gael. Mae profion am y pris arferol ar gael ar amrywiol adegau rhwng 7.30 am a 3.27 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae'r prawf gyrru'n syml ac wedi'i gynllunio i weld a ydych:

  • yn gallu gyrru'n ddiogel
  • yn gwybod Rheolau'r Ffordd Fawr ac yn gallu dangos hyn wrth yrru

Beth fydd cynnwys y prawf?

Bydd y prawf yn cynnwys prawf golwg (os byddwch chi'n methu hwn, rhoddir y gorau i'r prawf). Yn y prawf golwg, bydd angen i chi ddarllen plât rhif o bellter penodol. Am ragor o wybodaeth ynghylch y prawf golwg, dilynwch y ddolen 'Gofynion golwg ar gyfer gyrru' isod.

Ar ôl y prawf golwg, gofynnir dau gwestiwn i chi ynghylch diogelwch cerbydau. Fe'ch arholir wedyn ar eich gyrru cyffredinol a dau ymarfer bacio'n ôl. Dewisir yr ymarferion bacio'n ôl o'r canlynol:

  • bacio'n ôl rownd cornel
  • troi ar ganol y ffordd
  • bacio'n ôl i barcio

Efallai hefyd y gofynnir i chi stopio ar frys.

Cwestiynau am ddiogelwch cerbydau

Mae profion diogelwch sylfaenol y dylai gyrwyr eu gwneud i sicrhau bod y cerbyd yn ddiogel i'w ddefnyddio. Er y bydd rhai profion yn golygu agor y boned i ddangos ble y dylid gwirio lefelau hylif, ni fydd gofyn i'r disgyblion gyffwrdd ag injan boeth neu wirio lefelau hylif.

Wrth i dechnoleg cerbydau ddatblygu, mae gan fwy a mwy o gerbydau systemau diagnostig electronig, sy'n rhoi gwybod i'r gyrrwr am gyflwr lefelau hylif yr injan a phwysedd y teiars. Bydd yn dderbyniol i'r ymgeisydd gyfeirio at system wybodaeth y cerbyd (os oes un) wrth ateb cwestiynau am lefelau hylif neu bwysedd teiars.

Gallwch ddod o hyd i ddeunydd crai yn y cyfrolau hyn gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru: 'The official guide to Driving - the essential skills' a 'The official DSA guide to learning to drive'. Mae cyngor a gwybodaeth am sut i archwilio diogelwch cerbyd i'w weld hefyd yn llawlyfr y gwneuthurwr.

Gofynnir dau gwestiwn i ymgeiswyr, un cwestiwn 'dangoswch i mi' ac un cwestiwn 'dywedwch wrtha' i'. Bydd ateb un neu'r ddau o'r cwestiynau yn anghywir yn golygu un gwall gyrru.

Beth sy'n digwydd yn ystod y prawf?

Yn ystod y prawf gyrru bydd yr arholwr yn rhoi cyfarwyddiadau i chi eu dilyn. Bydd llwybrau'r prawf yn cael eu cynllunio i fod mor debyg i'w gilydd â phosibl a byddant yn cynnwys yr amrywiaeth arferol o ffyrdd ac amodau traffig. Yn ystod y prawf, bydd yr arholwr yn gofyn i chi wneud ymarferion penodol.

Gydol y prawf, fe ddylech yrru yn yr un modd ag y dysgodd eich hyfforddwr chi i yrru. Os gwnewch chi gamgymeriad, peidiwch â phoeni. Mae'n bosibl nad yw'r gwall yn un difrifol ac na fydd yn amharu ar ganlyniad eich prawf. Bydd yr arholwr yn chwilio am safon gyffredinol ddiogel o yrru.

Fe allwch chi wneud hyd at 15 gwall gyrru a phasio'r prawf (bydd 16 neu fwy yn golygu methu). Fodd bynnag, os byddwch chi'n gwneud un gwall difrifol neu beryglus, byddwch yn methu'r prawf. Os yw eich arholwr ar unrhyw adeg yn ystyried eich bod yn peryglu defnyddwyr eraill ar y ffordd, fe gewch eich stopio.

Mae gennych hawl i fynd â rhywun gyda chi ar y prawf, ond mae'n rhaid i'r person hwn fod dros 16 oed ac ni all gymryd unrhyw ran yn y prawf.

Ar ôl y prawf ymarferol

Pan fydd y prawf gyrru ar ben, bydd yr arholwr yn dweud wrthych a ydych chi wedi llwyddo neu wedi methu. Gallwch ofyn am adborth gan yr arholwr, ac wedyn bydd yn dweud wrthych sut y gwnaethoch chi yn ystod y prawf.

Os byddwch yn pasio...

Os byddwch chi'n pasio a bod gennych drwydded gyrru cerdyn-llun a gyhoeddwyd ar ôl 1 Mawrth 2004, bydd yr arholwr yn gofyn i chi a ydych am gael eich trwydded yrru lawn yn awtomatig.

Os ydych am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, bydd yr arholwr yn cymryd eich hen drwydded oddi arnoch, yn sganio'r manylion ac yn eu hanfon ar fformat electronig i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Yna, fe gewch dystysgrif lwyddo sy'n profi eich bod wedi pasio'r prawf. Bydd DVLA yn anfon eich trwydded lawn newydd atoch drwy'r post o fewn pedair wythnos ar ôl i chi basio'ch prawf ymarferol.

Os byddwch yn pasio'r prawf ond nad ydych chi am ddefnyddio'r gwasanaeth awtomatig hwn, neu fod gennych drwydded a gyhoeddwyd cyn 1 Mawrth 2004, fe gewch chi dystysgrif lwyddo gan yr arholwr. Ar gefn y dystysgrif lwyddo, fe welwch beth fydd angen i chi ei wneud nesaf. Bydd hynny'n cynnwys anfon eich trwydded a'r ffi briodol i DVLA a fydd wedyn yn gwirio'ch cais ac yn anfon trwydded lawn newydd atoch.

Os byddwch yn methu...

Os byddwch yn methu'r prawf dylech ofyn i'r arholwr am rywfaint o adborth i'ch helpu i baratoi ar gyfer eich prawf nesaf. Bydd y ffurflen adroddiad gyrru hefyd yn dangos i chi pa gamgymeriadau wnaethoch chi. Gallwch sefyll prawf ymarferol arall 10 diwrnod ar ôl eich prawf gyrru car neu feic modur.

Safonau prawf gyrru

Hyfforddir pob arholwr i gynnal y prawf i'r un safon, ac ni fyddant yn cyfrif faint sy'n pasio neu'n methu. Cyn belled â'ch bod yn gyrru i'r safon angenrheidiol, byddwch yn pasio'ch prawf gyrru.

Y tywydd / problemau mecanyddol ayb

Nid yw'r DSA yn cynnal profion os bydd y golau'n wael neu'r tywydd yn anffafriol er diogelwch yr ymgeisydd a'r arholwr. Byddwn yn trefnu apwyntiad arall heb unrhyw gostau ychwanegol, ond nid oes modd talu iawndal. Dylai ymgeiswyr alw'r rhif ffôn sydd ar y llythyr apwyntiad er mwyn cael gwybod a fydd eu prawf yn cael ei gynnal.

Os na chaiff y prawf gyrru ei gwblhau am resymau sy'n ymwneud â chi neu'ch cerbyd, bydd rhaid i chi sefyll prawf arall a thalu amdano eich hun.

Pass Plus

Mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru yn argymell bod gyrwyr newydd sydd wedi'u pasio'u prawf yn ystyried sefyll Pass Plus. Cwrs chwe modiwl ychwanegol yw Pass Plus gyda hyfforddwr gyrru ar ôl i chi basio'ch prawf.

Am ragor o wybodaeth am Pass Plus, dilynwch y ddolen isod.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU