Gellir trefnu profion ymarferol ar-lein, dros y ffôn a drwy'r post, ac, ar yr amod eich bod yn rhoi rhybudd i ni o dri diwrnod gwaith, gellir eu newid neu eu canslo ar-lein neu dros y ffôn.
I drefnu prawf ar-lein bydd arnoch angen:
I drefnu prawf ymarferol dros y ffôn gydag Asiant Canolfan Alw, bydd angen:
Mae modd i chi drefnu prawf ymarferol dros y ffôn gan ddefnyddio'r rhifau isod, rhwng 8.00am a 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Llinell drefnu prawf ymarferol - 0870 0101 372
Llinell drefnu Cymraeg – 0870 0100 372
Llinell drefnu Minicom – 0870 0107 372
Llinell drefnu ffacs – 0870 0102 372
I drefnu prawf ymarferol ar-lein bydd angen ffurflen gais arnoch. Gellir talu gyda siec neu archeb bost, ond ni dderbynnir arian parod. Gellir cael ffurflenni cais ar-lein neu drwy wneud cais drwy linell drefnu'r Asiantaeth Safonau Gyrru.
I lwytho ffurflen gais am brawf ymarferol, cliciwch ar y ddolen isod. Mae taflen wybodaeth hefyd ar gael i'w llwytho.
Os bydd angen unrhyw gyfleusterau ar gyfer anghenion arbennig arnoch yn ystod eich prawf ymarferol, bydd angen i chi ofyn amdanynt wrth wneud cais am brawf.
Fe allwch chi aildrefnu neu ganslo prawf ymarferol ar-lein neu dros y ffôn hyd at 10 diwrnod gwaith cyn y prawf, heb golli'r ffi. Mae'r gwasanaeth ar-lein ar gael rhwng 6.00 am a hanner nos, saith diwrnod yr wythnos. Pe bai'n well gennych ffonio, mae Gweithwyr Canolfan Alw'r DSA ar gael i ateb eich galwadau rhwng 8.00 am a 6.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ar wahân i Wyliau Cyhoeddus). Deialwch 0870 0101 372 a dilynwch y cyfarwyddiadau.
Os byddwch chi'n canslo neu'n aildrefnu prawf o fewn y deg diwrnod gwaith, byddwch yn colli ffi eich prawf.
Os byddwch chi wedi trefnu prawf ymarferol eisoes ond yn dymuno cael dyddiad cynharach, fe allwch chi ddefnyddio system adnabod llais datblygedig (ASR) yr Asiantaeth Safonau Gyrru drwy alw'r llinell drefnu a dilyn y cyfarwyddiadau.
Bydd yr ASR yn eich galluogi i newid dyddiad eich prawf ymarferol i ddyddiad cynharach os oes un ar gael, heb fod angen i chi siarad â gweithiwr mewn canolfan alw.
Mae'r system ar gael rhwng 6.30 am a 6.00 am, saith diwrnod yr wythnos. Rhaid i chi gael rhif tystysgrif pasio'ch prawf theori a chyfeirnod trefnu'ch prawf pan fyddwch chi'n galw. Deialwch 0870 0101 372 a dilynwch y cyfarwyddiadau.