Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Hawlio trwydded ar ôl pasio prawf gyrru

Unwaith y byddwch chi wedi pasio'ch prawf gyrru (rhaid pasio'r prawf theori a'r prawf ymarferol), bydd angen i chi roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) er mwyn cyfnewid eich tystysgrif pasio prawf a'ch trwydded yrru dros dro am drwydded yrru lawn newydd cyn gynted ag y bo modd.

Mae'r un peth yn wir os oes gennych chi drwydded yrru lawn ac wedi pasio prawf ar gyfer cerbyd arall, megis lori neu fws. Bydd angen i chi ddychwelyd eich tystysgrif pasio prawf ynghyd â'ch trwydded yrru er mwyn ychwanegu'r hawl gyrru newydd i'ch trwydded.

Gwyliwch y dyddiad cau!

Os na fyddwch chi'n hawlio ar ôl pasio o fewn dwy flynedd i ddyddiad eich prawf, bydd yr hawl a gawsoch i yrru drwy basio'r prawf yn cael ei cholli. Bydd yn rhaid i chi sefyll a phasio dwy ran y prawf gyrru eto ar gyfer y categori cerbyd hwnnw os ydych chi'n dymuno ei gael ar eich trwydded yrru.

Trwyddedau Gyrru Cerdyn-llun

Gwneud cais drwy'r post

Er mwyn rhoi gwybod i'r DVLA eich bod wedi pasio prawf gyrru, rhaid i chi gwblhau'r datganiad ar eich tystysgrif pasio prawf a'i hanfon, ynghyd â'ch trwydded yrru cerdyn-llun, y papur manylion D750 a'r ffi priodol i'r DVLA, Abertawe, SA99 1BJ.

Os yw eich enw wedi newid ers eich trwydded ddiwethaf bydd angen hefyd i chi lenwi ffurflen gais D1 sydd ar gael drwy wasanaeth archebu ffurflenni'r DVLA neu o ganghennau Swyddfa'r Post®. Bydd angen i chi hefyd ddarparu dogfennau gwreiddiol yn cadarnhau eich enw newydd.

Mae'r un peth yn wir os oes gennych chi drwydded yrru lawn ac wedi pasio prawf ar gyfer cerbyd gwahanol. Fodd bynnag, nid oes ffi ychwanegol ar gyfer hyn.

Trwyddedau gyrru papur

Gwneud cais personol yn Swyddfa'r Post®

Nid yw'r DVLA bellach yn rhoi trwyddedau gyrru papur a bydd eich trwydded newydd ar ffurf cerdyn-llun. Os oes gennych chi drwydded bapur dros dro, bydd angen i chi lenwi'r datganiad ar eich tystysgrif pasio prawf a'r ffurflen gais D1 sydd ar gael drwy wasanaeth archebu ffurflenni'r DVLA neu o ganghennau Swyddfa'r Post®. Bydd gofyn i chi hefyd ddarparu dogfennau gwreiddiol i gadarnhau pwy ydych chi, ffotograff lliw ar ffurf llun pasport a'r ffi briodol.

Pan fyddwch chi'n sicr fod gennych chi'r hyn sydd ei angen arnoch, ewch â hwy i Swyddfa'r Post® lle bydd eich cais yn cael ei wirio, eich dogfennau adnabod yn cael eu rhoi'n ôl i chi a'r ffurflenni'n cael eu hanfon i'r DVLA i'w prosesu (codir ffi o £4.00 am y gwasanaeth hwn).

Mae'r un peth yn wir os oes gennych chi drwydded yrru bapur lawn ac wedi pasio prawf ar gyfer cerbyd gwahanol. Fodd bynnag, nid oes ffi ychwanegol ar gyfer hyn ar wahân i ffi'r gwasanaeth gwirio.

Gwneud cais drwy'r post

Os ydych chi am anfon eich tystysgrif pasio prawf drwy'r post, rhaid i chi ei hamgáu gyda'r cais wedi'i lenwi, dogfennau adnabod, llun a’ch trwydded yrru bapur, a'u hanfon i'r DVLA, Abertawe, SA99 1BJ.

Pa mor gyflym y caiff eich trwydded ei dychwelyd?

Nod y DVLA yw sicrhau eich bod yn derbyn eich trwydded yrru o fewn tair wythnos i ni dderbyn eich cais. Gallai gymryd mwy o amser os oes rhaid archwilio cyflwr eich iechyd a'ch manylion personol. Gadewch o leiaf dair wythnos i'ch trwydded gyrraedd cyn cysylltu â'r DVLA.

Ydw i'n cael gyrru cyn i'm trwydded gael ei dychwelyd?

Unwaith y bydd y DVLA wedi derbyn cais dilys gennych, mae'r gyfraith yn caniatáu i chi yrru cyn i'r drwydded gyrraedd dan yr amodau hyn:

  • bod gennych drwydded Gwledydd Prydain neu drwydded Gogledd Iwerddon, neu drwydded gyfnewid arall, er 1 Ionawr 1976
  • nad ydych chi wedi'ch gwahardd rhag gyrru (mae rheolau gwahanol i yrwyr cerbydau canolig neu fawr, bysiau mini neu fysiau - comisiynydd traffig eich ardal fydd yn penderfynu a fydd gennych hawl i yrru'r cerbydau hyn)
  • nad ydych wedi cael gwrthod trwydded ac na fyddech yn cael gwrthod trwydded oherwydd rhesymau meddygol
  • eich bod yn bodloni unrhyw amodau arbennig sy'n berthnasol i'r drwydded

Waledi plastig

Sylwch os gwelwch yn dda, os byddwch chi'n dychwelyd eich trwydded yrru mewn waled blastig, na fydd y waled yn cael ei hanfon yn ôl. Nid yw'r DVLA bellach yn rhoi waledi plastig gyda thrwyddedau gyrru cerdyn-llun. Gwnaed y penderfyniad hwn yn bennaf er mwyn helpu i leihau costau cyflwyno trwyddedau i'r cyhoedd. Derbyniodd yr asiantaeth hefyd nifer o gwynion gan aelodau'r cyhoedd ynghylch maint y waled blastig. O ganlyniad, roedd llawer o yrwyr yn taflu'r waled ac yn defnyddio dull arall o gadw'r drwydded yn ddiogel.

Rhagor o wybodaeth

Gellir cael cymorth a chanllawiau ar gyfer cwblhau'r ffurflen gais D1 yn y llyfryn INF1D, sydd ar gael yn y rhan fwyaf o ganghennau Swyddfa'r Post®.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU