Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Deddf Gyrwyr Newydd

Bydd eich trwydded yrru'n cael ei diddymu'n awtomatig os byddwch yn cronni chwech neu ragor o bwyntiau cosb o fewn dwy flynedd i basio'ch prawf gyrru cyntaf. Mae hyn yn cynnwys unrhyw bwyntiau cosb yr oeddech wedi eu cael cyn pasio'r prawf, sy'n dal yn ddilys. Bydd yn rhaid i chi ail wneud cais am drwydded yrru fel gyrrwr sy'n dysgu, ac ail-sefyll eich prawf gyrru.

Ar bwy mae'r ddeddf yn effeithio

Mae'n berthnasol i yrwyr a beicwyr o Brydain, Gogledd Iwerddon, gwledydd y Gymuned Ewropeaidd ac Ardal Economaidd Ewrop (CE/AEE), Ynys Manaw, Ynysoedd y Sianel neu Gibraltar am ddwy flynedd ar ôl pasio’u prawf gyrru cyntaf yn y gwledydd hyn.

Gyrwyr o wledydd dynodedig

Mae'r ddeddf hefyd yn berthnasol i chi os ydych wedi cyfnewid trwydded yrru a roddwyd mewn gwlad ddynodedig am drwydded yrru DU.

Bydd y prawf gyrru cyntaf a basiwch yn y wlad hon ar gyfer math arall o gerbyd, ee cerbyd nwyddau trwm (HGV) yn cael ei drin fel eich prawf gyrru cyntaf. Os byddwch yn cronni chwe phwynt cosb neu ragor o fewn dwy flynedd i basio'r prawf hwn, diddymir eich trwydded yrru.

Dyma'r gwledydd dynodedig: Awstralia, Barbados, Ynysoedd British Virgin, Canada, Ynysoedd y Malfinas, Ynysoedd y Faroe, Hong Kong, Siapan, Monaco, Seland Newydd, Gweriniaeth Corea, Singapore, De Affrica, y Swistir a Zimbabwe.

Cael eich trwydded yrru lawn yn ôl

I adennill eich trwydded yrru lawn rhaid i chi ail-wneud cais am drwydded yrru dros dro, pasio'r prawf theori a'r prawf ymarferol eto, a hawlio'ch tystysgrif pasio.

Ail-wneud cais am drwydded yrru dros dro

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • llenwi ffurflen D1 - ‘Cais am drwydded yrru’ (ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni DVLA neu o ganghennau Swyddfa'r Post®)
  • rhoi tic yn y blwch adnewyddu - ‘Wedi'i diddymu dan Ddeddf Traffig y Ffyrdd (Gyrwyr Newydd) 1995’ - yn adran tri ffurflen D1
  • talu'r ffi (gweler ‘adnewyddu ar ôl diddymu’ ar gost trwydded yrru)
  • postio'r ffurflen D1 i DVLA, Abertawe SA99 1AB

Pasio'r prawf theori a'r prawf gyrru ymarferol

Bydd angen i chi dalu am y prawf theori a'r prawf gyrru ymarferol, ac ail-sefyll y ddau.



Hawlio'ch tystysgrif pasio

Ar ôl pasio'ch prawf gyrru, bydd angen i chi gyfnewid eich trwydded yrru dros dro am un lawn.

Eich hawl i yrru

Ar ôl i chi basio prawf gyrru mewn unrhyw un o'r categorïau o gerbydau yr oedd gennych hawl i'w gyrru o'r blaen, fe gewch yr hawl i yrru cerbydau ym mhob categori a oedd ar eich trwydded.

Os byddwch yn llwyddiannus wrth basio prawf i yrru cerbyd mewn categori lle nad oedd gennych hawl i yrru ynddo o'r blaen, cewch drwydded lawn ar gyfer y categori hwnnw'n unig.

Hefyd, dim ond ar ôl cymeradwyaeth y Comisiynydd Traffig y gallwch adennill eich hawl i yrru cerbydau nwyddau trwm a cherbydau gwasanaeth cyhoeddus, yr oedd gennych hawl i'w gyrru'n wreiddiol.

Ar ôl pasio'ch ail brawf

Ar ôl pasio'r ail brawf, mae’n bwysig cofio:

  • na fydd hynny'n tynnu'r pwyntiau cosb oddi ar eich trwydded yrru
  • bod y pwyntiau cosb yn dal yn ddilys

Dim ond un waith y gellir diddymu'ch trwydded yrru dan ddarpariaethau'r ddeddf.

Apelio yn erbyn diddymu'ch trwydded yrru

Dim ond yn erbyn yr euogfarn a arweiniodd at eich chwe phwynt cosb y cewch apelio. Cysylltwch â'r llys a ddyfarnodd eich bod yn euog i gael cyngor am sut i apelio.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU