Os ydych yn talu rhywun i’ch hyfforddi i yrru, mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cofrestru a chymeradwyo â’r DSA. Hyfforddwr gyrru cymeradwy cymwys (ADI) yn unig sy’n gallu codi tâl am eich dysgu i yrru.
Rhaid i hyfforddwr gyrru cymeradwy cymwys llawn (ADI) ddangos tystysgrif werdd ar ffenestr flaen y car tra'u bod yn eich dysgu. Rhoddir trwydded i rai hyfforddwyr gyrru sydd dan hyfforddiant eu hunain fel y gallant gael profiad cyn eu harholiadau. Yn yr achos hwn, rhaid i'r hyfforddwr gyrru dan hyfforddiant ddangos tystysgrif binc ar ffenestr flaen y car.
Y DSA sy'n gyfrifol am gynnal ac archwilio safonau pob hyfforddwr gyrru cymeradwy (ADI), sy'n gorfod:
Nid yw'r DSA, fel un o asiantaethau'r llywodraeth, yn cael argymell hyfforddwyr. Rydym yn awgrymu eich bod yn gofyn i ffrindiau a pherthnasau argymell rhywun. Fe allwch chi hefyd edrych mewn cyfeiriadur busnes lleol am hyfforddwyr yn eich ardal chi. Ceisiwch ddewis hyfforddwr a fydd:
Mae'n rhaid i bawb sy'n dysgu gyrru beiciau modur a mopedau gwblhau cwrs hyfforddiant sylfaenol gorfodol (CBT) cyn gyrru ar y ffordd.
Dim ond hyfforddwyr sydd wedi'u cymeradwyo gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru sy'n cael dysgu ar gwrs CBT mewn corff hyfforddi cymeradwy (ATB). Rhaid i bob ATB gael hyfforddwyr sydd wedi cwblhau asesiad deuddydd yn llwyddiannus a chael safloedd sydd wedi'u cymeradwyo gan y DSA ar gyfer hyfforddi oddi ar y ffordd.