Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Egluro pwysau cerbydau

Ynghyd â'ch oedran, mae'r gwahanol gategorïau cerbyd ar eich trwydded yrru yn nodi pa gerbydau gewch chi eu gyrru. Mae pwysau'r cerbyd hefyd yn penderfynu ar y categorïau hyn.

Pwysau heb lwyth

Pwysau heb lwyth unrhyw gerbyd yw pwysau'r cerbyd hwnnw pan na fydd ganddo unrhyw lwyth neu faich. Ystyr hyn yw:

  • yr holl gorff a'r darnau sy'n angenrheidiol neu'n cael eu defnyddio fel rheol gyda'r cerbyd neu ôl-gerbyd pan fydd ar y ffordd
  • dim dŵr, tanwydd neu groniaduron a ddefnyddir i ddarparu pŵer i yrru'r cerbyd yn ei flaen

Uchafswm màs awdurdodedig

Mae'r term uchafswm màs awdurdodedig (MAM), sydd hefyd yn cael ei alw'n bwysau gros a'r pwysau mwyaf a ganiateir, yn golygu'r pwysau mwyaf ar gyfer y cerbyd i'w ddefnyddio ar y ffordd gan gynnwys y pwysau mwyaf y gall y cerbyd ei ysgwyddo'n ddiogel. Dangosir hwn fel arfer ar blât sydd wedi ei osod ar y cerbyd.

Os yw'n annhebygol y bydd cerbyd yn cael ei ddefnyddio yn cario'i bwysau mwyaf, gellir israddio'r plât, h.y. gellir addasu sbringiau neu gydrannau eraill y cerbyd, er mwyn cario pwysau ysgafnach yn unig. Mae'r uchafswm màs awdurdodedig neu'r pwysau gros yn ffactor wrth benderfynu pa hawl gyrru sy'n angenrheidiol.

Pwysau ar y plât

Dylai'r uchafswm màs awdurdodedig fod wedi'i ddangos ar y plât gwneuthurwr sydd ar y cerbyd. Mae hyn yn golygu bod y marc ar gerbyd nwyddau, drwy blât adran o'r llywodraeth, yn dangos y pwysau mwyaf ar gyfer y cerbyd penodol hwnnw, e.e. uchafswm màs awdurdodeig, ac o dan rai amgylchiadau, y pwysau llusgo.

Pwysau llusgo

Y pwysau llusgo yw MAM y cerbyd a'r ôl-gerbyd mae'n ei dynnu gyda'i gilydd.

Rhagor o wybodaeth

Dylid cyfeirio pob ymholiad ynghylch uchafswm pwysau cerbydau undarn, ôl-gerbydau a cherbydau amaethyddol (ond nid categorïau trwydded yrru) i:

Trafnidiaeth, Adran Safonau a Pheirianneg Cerbydau
Adran Drafnidiaeth
Zone 2/01, Great Minster House
76 Marsham Street
Llundain
SW1P 4DR

E-bost:

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU