Mae'r tablau'n rhestru'r disgrifiadau o gategorïau cerbydau ar gyfer profion gyrru a basiwyd ar ôl 1 Ionawr 1997, a'r oedran angenrheidiol i'w gyrru. Mae pob pwysau yn cyfeirio at yr uchafswm màs awdurdodedig (MAM) oni ddywedir fel arall. Dyma gyfanswm pwysau'r cerbyd a'r llwyth trymaf gall ei gludo.
| Disgrifiad | Categori | Oedran ieuengaf |
|---|---|---|
| Mopedau gydag injan heb fod yn fwy na 50cc a chyflymder uchaf heb fod yn fwy na 50km/awr | P | 16 |
| Beiciau modur ysgafn gyda chynhwysedd ciwbig heb fod yn fwy na 125cc ac allbwn pŵer heb fod yn fwy na 11kW (14.6bhp) | A1 | 17 |
| Beiciau modur hyd at 25kW(33bhp) a chymhareb pŵer i bwysau heb fod yn fwy na 0.16kW/kg. Cyfuniad beic modur gyda chymhareb pŵer i bwysau heb fod yn fwy na 0.16kW/kg | A | 17 |
| Beic modur o unrhyw faint gyda neu heb gerbyd ochr | A | 21* |
* 21 oed os pasiodd gyrrwr y beic modur y prawf ar gyfer beiciau modur mawr fel rhan o'r cynllun Mynediad Uniongyrchol, neu ddwy flynedd o ddyddiad pasio'r prawf os pasiodd gyrrwr y beic modur y prawf ar feic modur A safonol (allbwn pŵer hyd at 25 kW (33 bhp) neu gymhareb pŵer i bwysau heb fod yn fwy na 0.16kW/kg).
| Disgrifiad | Categori | Oedran ieuengaf |
|---|---|---|
|
Beiciau modur neu gerbydau tair neu bedair olwyn yn pwyso hyd at 550kg heb lwyth |
B1 |
17* |
|
Disgrifiad |
Categori |
Oedran ieuengaf |
|---|---|---|
| Cerbydau modur gyda MAM sydd heb fod yn fwy na 3500kg, heb fwy nag wyth o seddi i deithwyr ac ôl-gerbyd hyd at 750kg. Cyfuniadau o gerbydau tynnu yng nghategori B ac ôl-gerbydau, lle nad yw MAM y cyfuniad yn fwy na 3500kg, a lle nad yw MAM yr ôl-gerbyd yn fwy na màs y cerbyd tynnu heb lwyth |
B |
17* |
|
Fel ceir, ond â thrawsyriant awtomatig |
B |
17* |
| Cyfuniadau o gerbydau sy’n cynnwys cerbyd yng nghategori B ac ôl-gerbyd, lle nad yw’r cyfuniad yn perthyn i gategori B |
B+E |
17 |
*16 mlwydd oed os ydych chi ar hyn o bryd yn cael Lwfans Byw i’r Anabl ar y gyfradd uwch (elfen symudedd)
|
Disgrifiad |
Categori | Oedran ieuengaf |
|---|---|---|
|
Cerbydau rhwng 3500kg a 7500kg gydag ôl-gerbyd hyd at 750kg |
C1 |
18* |
|
Cyfuniadau o gerbydau lle bo’r cerbyd sy’n tynnu yn is-gategori C1 a MAM ei ôl-gerbyd dros 750kg, cyn belled nad yw MAM cyfanswm y cyfuniad hwn dros 12,000kg, ac nad yw MAM yr ôl-gerbyd yn fwy na màs di-lwyth y cerbyd sy’n ei dynnu. (Os gwnaethoch basio eich prawf categori B cyn 1.1.1997, cewch eich cyfyngu i gyfanswm pwysau heb fod dros 8250kg) |
C1+E |
21* |
*18 oed os w'r cyfuniad pwysau yn llai na 7,500 kilogram, e.e. os yw'r cerbyd yn pwyso 5500kg a'r ôl-gerbyd yn pwyso 1999kg, mae'r cyfanswm pwysau yn 7499kg.
| Disgrifiad | Categori |
Oedran ieuengaf |
|---|---|---|
|
Cerbydau dros 3500kg gydag ôl-gerbyd hyd at 750kg |
C |
21* |
|
Cerbydau dros 3500kg gydag ôl-gerbyd dros 750kg |
C+E |
21* |
*17 oed os yw'n aelod o'r lluoedd arfog neu 18 oed os yw'n aelod o'r cynllun gyrwyr ifanc
|
Disgrifiad |
Categori | Oedran ieuengaf |
|---|---|---|
|
Unrhyw fws gyda mwy nag wyth o seddau teithwyr gydag ôl-gerbyd hyd at 750kg |
D |
21* |
|
Unrhyw fws gyda mwy nag wyth o seddau teithwyr gydag ôl-gerbyd dros 750kg |
D+E |
21 |
*17 oed os yw'n aelod o’r lluoedd arfog
*18 oed:
1) yn dysgu dreifio neu'n sefyll eich prawf cerbyd cludo teithwyr (PCV) neu gymhwyster cychwynnol Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol (CPC)
2) ar ôl pasio prawf PCV a chymhwyster cychwynnol CPC, gallwch yrru dan unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol:
3) ar ôl pasio prawf PCV cyn 10 Medi 2008 a gyrru dan drwydded cwmni bysiau, trwydded bws mini, neu drwydded bws cymunedol, gallwch yrru dan unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol:
I gael rhagor o gyngor gallwch gysylltu â'r Asiantaeth Safonau Gyrru drwy ffonio 0300 200 1122 neu anfon e-bost at:
| Disgrifiad |
Categori |
Oedran ieuengaf |
|---|---|---|
|
Tractorau Amaethyddol |
F |
17* |
|
Rholeri ffordd |
G |
21** |
|
Cerbydau trac |
H |
21*** |
|
Peiriant torri gwair neu gerbyd a reolir gan rywun ar droed |
K |
16 |
|
Mopedau |
P |
16 |
*16 oed ar gyfer tractorau sy'n llai na 2.45m o led, yn tynnu ôl-gerbydau sy’n llai na 2.45m o led gyda dwy olwyn, neu bedair o olwynion clos cwpledig
**17 oed ar gyfer cerbydau rholio ffordd bach gyda rholeri metel neu galed, ni chânt fod yn cael eu gyrru gan stêm, yn pwyso mwy na 11.69 tunnell nac wedi eu gwneud i gario llwythi
***17 oed, os nad yw MAM y cerbyd trac dros 3500kg
Mae'n bosibl y bydd eich trwydded yn cynnwys codau gwybodaeth sy'n dangos pa gyfyngiadau (os oes rhai) sydd ar eich hawl i yrru. Ceir rhestr o ddisgrifiadau llawn o'r codau gwybodaeth sy'n ymddangos ar eich trwydded yrru drwy ddilyn y ddolen isod.