Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Newid enw a chyfeiriad ar eich trwydded yrru

Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ar unwaith am unrhyw newidiadau i'ch enw, eich cyfeiriad neu'r ddau. Gallwch ddiweddaru'ch trwydded yrru ar-lein neu ei hanfon i DVLA i'w newid. Rhoddir trwydded newydd am ddim i chi onid yw'n amser adnewyddu'ch llun.

Cadw'ch manylion yn gywir

Bydd rhoi gwybod i'r DVLA am newid yn eich manylion yn sicrhau bod eich cofnod yn cynnwys eich manylion diweddaraf ac y bydd yr holl lythyrau atgoffa a anfonir atoch yn y dyfodol ynghylch eich trwydded yrru yn cael eu hanfon i'r cyfeiriad cywir.

Cofiwch, os ydych yn symud i wlad arall yn barhaol, ni chewch gofrestru'ch cyfeiriad newydd ar eich trwydded yrru Brydeinig. Bydd angen i chi gysylltu â'r awdurdod sy'n rhoi trwyddedau gyrru yn y wlad y byddwch yn preswylio ynddi.

Gwneud cais ar-lein

Gallwch newid eich cyfeiriad ar-lein, ond, os bydd arnoch angen newid eich enw neu'ch enw a'ch cyfeiriad bydd angen i chi anfon eich trwydded yrru at DVLA i'w newid.

Os oes gennych drwydded yrru cerdyn-llun

Pan fyddwch yn newid eich cyfeiriad bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • llenwi'r adran ‘newidiadau’ ar eich papur manylion, ei lofnodi, a rhoi'r dyddiad arno
  • anfon dwy ran eich trwydded yrru, hynny yw, y cerdyn-llun a'r papur manylion i DVLA, Abertawe, SA99 1BN

Pan fyddwch yn newid eich enw, p'un a ydych yn newid cyfeiriad neu beidio, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • llenwi ffurflen D1, sef ‘cais am drwydded yrru’, sydd ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni DVLA neu o ganghennau Swyddfa'r Post®
  • darparu dogfennau adnabod gwreiddiol yn cadarnhau'ch enw newydd
  • amgáu eich trwydded yrru cerdyn-llun a'r papur manylion (does dim angen cynnwys llun newydd)
  • anfon yr holl ddogfennau i DVLA, Abertawe SA99 1BN.

Os oes angen i chi adnewyddu eich llun

Gallwch adnewyddu eich llun unrhyw adeg, fodd bynnag, os yw oes eich llun yn dod i ben o fewn yn fuan iawn bydd angen ei adnewyddu cyn y dyddiad y daw i ben. Gellir gweld y dyddiad y bydd eich llun yn dod i ben yn adran 4b ar flaen eich trwydded yrru.

Ni fydd yn bosib i chi adnewyddu eich llun gan ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein

Os oes gennych drwydded yrru bapur

Pan fyddwch chi'n newid eich enw neu'ch cyfeiriad (neu'r ddau) bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • llenwi ffurflen D1, sef ‘cais am drwydded yrru’, sydd ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni DVLA neu o ganghennau Swyddfa'r Post®
  • darparu dogfennau gwreiddiol yn cadarnhau pwy ydych chi
  • amgáu llun maint pasport a'ch trwydded yrru
  • anfon eich holl ddogfennau i DVLA, Abertawe, SA99 1BN neu ddefnyddio'r gwasanaeth gwirio premiwm sydd ar gael mewn rhai canghennau Swyddfa'r Post®, neu o swyddfeydd DVLA lleol

Trwydded ar goll neu wedi'i dwyn

Os ydych wedi colli'ch trwydded yrru, neu os nad oes gennych un rhan, neu ddwy ran, eich trwydded yrru cerdyn-llun, bydd angen i chi wneud cais am drwydded arall i gymryd ei lle, a rhoi gwybod am unrhyw newidiadau yr un pryd..

Pryd fydd eich trwydded yn cyrraedd

Nod DVLA yw sicrhau eich bod yn cael eich trwydded yrru newydd o fewn tair wythnos i dderbyn eich cais. Bydd yn cymryd mwy o amser os oes rhaid archwilio cyflwr eich iechyd neu'ch manylion personol. Gadewch o leiaf dair wythnos i’ch trwydded yrru gyrraedd cyn cysylltu â DVLA.

Pan fyddwch yn derbyn eich trwydded, bydd sawl nodwedd newydd arni o ran diogelwch. Un o'r prif newidiadau ar y drwydded fydd y llun du a gwyn ohonoch a grëir gan laser.

Gyrru cyn i'ch trwydded gael ei dychwelyd

Cewch yrru cyn cael eich trwydded, cyn belled â bod y canlynol yn wir:

  • mae gennych drwydded Gwledydd Prydain neu drwydded Gogledd Iwerddon, neu drwydded gyfnewid arall, a honno gennych er 1 Ionawr 1976
  • nid ydych wedi'ch gwahardd rhag gyrru
  • nid yw DVLA wedi gwrthod rhoi trwydded i chi am resymau meddygol neu am fethu â chydymffurfio ag ymholiadau meddygol
  • ni fyddai DVLA yn gwrthod rhoi trwydded i chi am resymau meddygol (os oes gennych amheuaeth, holwch eich meddyg)
  • rydych yn bodloni unrhyw amodau arbennig sy’n berthnasol i'r drwydded

Diweddaru'ch Tystysgrif Cofrestru (V5C)

Cofiwch y bydd angen i chi hefyd o bosib newid eich enw a'ch cyfeiriad ar eich Tystysgrif Cofrestru.

Rhoi gwybod am newidiadau a chithau wedi'ch gwahardd rhag gyrru

Gallwch roi gwybod i DVLA am newid enw a chyfeiriad pan rydych wedi'ch gwahardd rhag gyrru. Bydd angen i chi ysgrifennu at DVLA, Abertawe, SA99 1AB yn rhoi manylion eich hen gyfeiriad a'ch cyfeiriad newydd, eich enw os yw wedi newid, rhif eich trwydded yrru (os ydych yn gwybod beth ydyw) a'ch dyddiad geni.

Bydd eich cofnod gyrrwr yn cael ei ddiweddaru, a 56 diwrnod cyn i'ch gwaharddiad ddod i ben cewch ffurflen adnewyddu trwydded yrru D27.

Provided by the DVLA

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU