Rhaid i chi gael trwydded newydd yn lle un sydd ar goll, wedi ei dwyn, ei difetha neu ei dinistrio. Gallwch wneud hyn ar-lein, dros y ffôn, drwy'r post, neu fe allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth gwirio premiwm.
Gallwch gyfnewid eich trwydded yrru am un newydd gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein diogel yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).
Mae'r DVLA hefyd yn darparu gwybodaeth yn seiliedig ar eich anghenion unigol fel dewis arall i'r cynnwys isod.
Gwneud cais dros y ffôn
Gallwch wneud cais dros y ffôn os ydy un neu ddau ran eich trwydded cerdyn-llun ar goll neu wedi'u dwyn ac nad yw'ch manylion wedi newid o gwbl. Mae'r DVLA yn derbyn y cardiau credyd a debyd canlynol - Mastercard, Visa, Eurocard neu Maestro. Mae'r ffi yn £17.50. Y rhif ffôn yw 0870 240 0009 rhwng 8.00 am a 8.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener neu rhwng 8.00 am a 5.30pm ar ddydd Sadwrn.
Ni fyddwch yn gallu gwneud cais dros y ffôn os ydych chi'n ddeilydd trwydded bapur neu os yw oes eich llun ar fin dod i ben neu wedi dod i ben.
Gwneud cais drwy'r post
Bydd angen i chi wneud y canlynol:
Bydd angen i chi hefyd ddarparu dogfennau adnabod gwreiddiol i gadarnhau eich enw newydd os yw wedi newid ers i'ch trwydded ddiwethaf gael ei rhoi i chi.
Os oes angen i chi adnewyddu eich llun
Gallwch adnewyddu eich llun unrhyw adeg, er hynny, os yw oes eich llun yn dod i ben o fewn yn fuan iawn, bydd angen ei adnewyddu cyn y dyddiad daw i ben. Ni fydd yn bosib i chi adnewyddu eich llun gan ddefnyddio'r ffôn neu'r gwasanaeth ar-lein.
Gwneud cais yn bersonol neu drwy’r post
Bydd angen i chi wneud y canlynol:
Rhaid i chi ddychwelyd eich hen drwydded i'r DVLA gyda llythyr eglurhaol os byddwch yn dod o hyd iddi ar ôl gwneud cais am eich trwydded yrru cerdyn-llun ddyblyg newydd, neu ar ôl cael y drwydded honno.
Nod DVLA yw sicrhau eich bod yn cael eich trwydded yrru newydd o fewn tair wythnos i dderbyn eich cais. Bydd yn cymryd mwy o amser os bydd yn rhaid iddynt archwilio cyflwr eich iechyd neu'ch manylion personol. Gadewch o leiaf dair wythnos i’ch trwydded yrru gyrraedd cyn cysylltu â'r DVLA.
Pan fyddwch yn cael eich trwydded, bydd ganddi nifer o nodweddion diogelwch ychwanegol. Un o'r prif newidiadau ar y drwydded yw'r llun du a gwyn ohonoch a grëir gan laser.
Cewch yrru cyn cael eich trwydded, cyn belled â bod y canlynol yn wir: