Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Adnewyddu’r llun ar eich trwydded yrru

Gan mai dim ond am 10 mlynedd y mae'r llun ar drwydded yrru'n ddilys, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, bydd angen i chi adnewyddu'r llun ar eich trwydded yrru cyn i'w oes ddod i ben. Os ydych chi'n ddeilydd trwydded cyfnod byr (yn hŷn na 70 oed, neu â thrwydded cyfnod byr am resymau meddygol) dim ond pan fydd eich hawl i yrru'n dod i ben y bydd angen i chi adnewyddu eich llun.

Adnewyddu eich llun

Gyda ffurflen gais i adnewyddu

Bydd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn anfon pecyn gwneud cais i adnewyddu atoch ddeufis cyn y dyddiad y bydd oes y llun yn dod i ben. Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • llenwi'r ffurflen amgaeedig
  • cynnwys llun newydd o fath pasport ohonoch eich hun, a hwnnw wedi'i dynnu yn y mis diwethaf (does dim angen llofnodi cefn y llun)
  • dychwelyd dwy ran eich trwydded yrru (cerdyn-llun a'r ddogfen manylion)
  • amgáu siec neu archeb bost am £20.00 does dim angen talu ffi os oes gennych drwydded cyfnod byr am resymau meddygol neu os ydych yn 70 oed neu'n hŷn)
  • anfon eich ffurflen gais wedi'i llenwi a'r ffi i DVLA, Abertawe SA99 1DH.

Os ydych chi wedi newid eich enw, bydd angen i chi hefyd ddarparu dogfennau i brofi pwy ydych chi.

Heb ffurflen gais i adnewyddu

Os na fyddwch, am unrhyw reswm, yn cael y ffurflenni cais i adnewyddu, gallwch ddefnyddio ffurflen D1, sef ‘cais am drwydded yrru’. Mae hon ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni DVLA, ac o ganghennau Swyddfa'r Post®. Gallwch weld ar ba ddyddiad y bydd oes eich llun yn dod i ben yn adran 4b ar flaen eich trwydded yrru.

Llythyrau atgoffa eraill

Bydd y DVLA hefyd yn rhoi gwybod i chi os yw'n amser adnewyddu'ch llun pan fydd yn anfon llythyr atgoffa atoch i adnewyddu'ch hawl i yrru. Anfonir llythyr atgoffa atoch pan fydd yn amser i chi:

  • adnewyddu ar ôl gwaharddiad
  • adnewyddu pan fyddwch yn 70 oed neu'n hŷn
  • adnewyddu eich hawl i yrru lori neu fws
  • adnewyddu am resymau meddygol

Pryd fydd eich trwydded yn cyrraedd

Nod DVLA yw sicrhau eich bod yn cael eich trwydded yrru newydd o fewn tair wythnos i dderbyn eich cais. Bydd yn cymryd mwy o amser os oes rhaid iddynt archwilio cyflwr eich iechyd neu'ch manylion personol. Gadewch o leiaf dair wythnos i’ch trwydded yrru gyrraedd cyn cysylltu â'r DVLA.

Pan fyddwch yn cael eich trwydded, bydd ganddi nifer o nodweddion diogelwch ychwanegol. Un o'r prif newidiadau ar y drwydded yw'r llun du a gwyn ohonoch a grëir gan laser.

Gyrru cyn i'ch trwydded gael ei dychwelyd

Cewch yrru cyn cael eich trwydded, cyn belled â bod y canlynol yn wir:

  • mae gennych drwydded Gwledydd Prydain neu drwydded Gogledd Iwerddon, neu drwydded gyfnewid arall, a honno gennych er 1 Ionawr 1976
  • nid ydych wedi'ch gwahardd rhag gyrru
  • nid yw DVLA wedi gwrthod rhoi trwydded i chi am resymau meddygol neu am fethu â chydymffurfio ag ymholiadau meddygol
  • ni fyddai DVLA yn gwrthod rhoi trwydded i chi am resymau meddygol (os oes gennych amheuaeth, holwch eich meddyg)
  • rydych yn bodloni unrhyw amodau arbennig sy’n berthnasol i'r drwydded

Allweddumynediad llywodraeth y DU