Ar ôl i chi roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ynghylch cyflwr meddygol neu anabledd, bydd ymghynghorwyr meddygol y DVLA yn penderfynu a ydych chi'n bodloni'r canllawiau meddygol cenedlaethol a gofynion y gyfraith. Caiff trwydded ei rhoi, ei diddymu neu ei gwrthod ar sail hynny.
Mae'r holiadur meddygol y byddwch yn ei ddefnyddio i roi gwybod i'r DVLA yn eich galluogi i ddarparu manylion penodol am eich cyflwr meddygol neu eich anabledd. Mae'r holiadur hefyd yn eich galluogi i roi caniatâd i ymgynghorwyr meddygol y DVLA holi am wybodaeth amdanoch gan eich meddyg os bydd angen. Os yw hynny'n bosibl, y DVLA fydd yn gwneud y penderfyniad ynghylch eich trwydded yrru. Fodd bynnag, os oes angen rhagor o wybodaeth arnynt, yna mae'n bosibl y bydd yr ymgynghorwyr meddygol:
Mae'r DVLA yn ceisio cwblhau eu hymholiadau cyn gynted â phosibl. Bydd yr amser y byddant yn ei dreulio ar eich achos penodol chi yn dibynnu ar y cyflwr meddygol sydd gennych ac ar y wybodaeth y mae'n rhaid iddynt ei chasglu. Os gall y DVLA wneud penderfyniad wedi'i seilio ar y wybodaeth a roesoch chi yn y lle cyntaf, byddant yn ceisio gwneud penderfyniad am 88 canran o achosion o fewn 15 diwrnod gwaith.
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnynt am eich cyflwr meddygol, naill ai gennych chi, eich meddyg neu o ffynonellau eraill, neu os ydych yn gwneud cais am drwydded lori neu fws, maent yn ceisio penderfynu ar 85 canran o achosion o fewn 90 diwrnod gwaith.
Unwaith y bydd yr ymgynghorwyr meddygol yn fodlon bod yr holl wybodaeth feddygol berthnasol ar gael a'u bod yn gallu cwblhau eu hymchwiliadau, bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch eich trwydded yrru yn unol â’r safonau meddygol o ffitrwydd i yrru. Dyma'r gwahanol benderfyniadau posibl:
Os caiff eich trwydded yrru ei diddymu neu ei gwrthod gan ymgynghorydd meddygol yn y DVLA: