Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dileu ardystiadau sydd wedi dod i ben oddi ar eich trwydded yrru

I ddileu ardystiadau sydd wedi dod i ben oddi ar eich trwydded yrru, bydd angen i chi wneud cais am gyfnewid eich trwydded am un newydd. Gallwch wneud cais drwy'r post, neu os oes gennych drwydded yrru bapur, gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth gwirio premiwm.

Os oes gennych drwydded yrru cerdyn-llun

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • llenwi ffurflen D1 - ‘cais am drwydded yrru’, ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) neu yng nganghennau Swyddfa'r Post®
  • amgáu eich trwydded yrru cerdyn-llun, y papur manylion a'r ffi briodol (does dim angen cynnwys llun newydd)
  • os yw'ch enw wedi newid, bydd angen i chi hefyd ddarparu dogfennau gwreiddiol yn cadarnhau eich enw newydd
  • anfon yr holl ddogfennau i DVLA, Abertawe SA99 1BU

Os oes gennych drwydded yrru bapur

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • llenwi ffurflen D1 - ‘cais am drwydded yrru’, ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) neu mewn rhai o ganghennau Swyddfa'r Post®
  • darparu dogfennau gwreiddiol yn cadarnhau pwy ydych chi
  • amgáu llun maint pasport, eich trwydded yrru bapur a'r ffi briodol
  • anfon eich holl ddogfennau at DVLA, Abertawe, SA99 1BU neu gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth gwirio premiwm a geir yng nghanghennau Swyddfa'r Post® neu mewn swyddfeydd DVLA lleol

Pryd i ddisgwyl eich trwydded yrru newydd

Nod DVLA yw sicrhau eich bod yn derbyn eich trwydded yrru o fewn tair wythnos i ni dderbyn eich cais. Bydd yn cymryd mwy o amser os oes rhaid archwilio cyflwr eich iechyd a'ch manylion personol. Gadewch o leiaf dair wythnos i’ch trwydded yrru gyrraedd cyn cysylltu â DVLA.

Pan fyddwch yn derbyn eich trwydded, bydd sawl nodwedd newydd arni o ran diogelwch. Un o'r prif newidiadau ar y drwydded fydd y llun du a gwyn ohonoch a grëir gan laser.

Gyrru cyn i'ch trwydded gael ei dychwelyd

Cewch yrru cyn cael eich trwydded, cyn belled â bod y canlynol yn wir:

  • mae gennych drwydded Gwledydd Prydain neu drwydded Gogledd Iwerddon, neu drwydded gyfnewid arall, a honno gennych er 1 Ionawr 1976
  • nid ydych wedi'ch gwahardd rhag gyrru
  • na fyddai DVLA yn gwrthod rhoi trwydded i chi am resymau meddygol neu am fethu â chydymffurfio ag ymholiadau meddygol
  • ni fyddai DVLA yn gwrthod rhoi trwydded i chi am resymau meddygol (os oes gennych amheuaeth, holwch eich meddyg)
  • rydych yn bodloni unrhyw amodau arbennig sy’n berthnasol i'r drwydded

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU