Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gyrru yng Ngwledydd Prydain ar drwydded a roddwyd mewn gwlad sy'n rhan o'r Gymuned Ewropeaidd neu Ardal Economaidd Ewrop (CE/AEE)

Rhaid i bob gyrrwr fod yn ddigon hen i yrru yn ôl cyfraith Prydain. Yr oedrannau hyn yw 17 oed i yrru ceir a beiciau modur, 18 oed i yrru cerbydau o faint canolig a 21 oed i yrru lorïau mawr a bysiau.

Offeryn rhyngweithiol

Yr ydym wastad yn ceisio gwella ein gwasanaeth, ac yr ydym wedi creu ffordd i chi dderbyn y gwybodaeth fwyaf cywir sydd wedi ei selio ar eich anghenion unigol yn lle y cynnwys isod. Os yn bosib, defnyddiwch ein hofferyn rhyngweithiol a rhowch eich sylwadau i ni ar ôl i chi orffen os gwelwch yn dda.

Y Gymuned Ewropeaidd ac Ardal Economaidd Ewrop

Mae trwyddedau sy'n cael eu rhoi yn y Gymuned Ewropeaidd ac yn Ardal Economaidd Ewrop yn ffurfio dau grŵp sy'n cael eu trin yn gyfartal. Y rhestr lawn yw:

Yr Almaen, Awstria, Bwlgaria, Denmarc, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, Groeg, Gweriniaeth Cyprus, Gwlad Belg, Gwlad yr Iâ, Gwlad Pwyl, Hwngari, yr Iseldiroedd, Iwerddon, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Portiwgal, Rwmania, Slofenia, Slofacia, Sbaen, Sweden, y Weriniaeth Tsiec.

Ymwelwyr

Os oes gennych chi drwydded ddilys y gymuned a chithau'n ymweld â Gwledydd Prydain, fe gewch chi yrru unrhyw gerbyd os yw eich trwydded yn ddilys. Rhaid bod gennych hawl lawn i yrru'r cerbyd dan sylw a hynny wedi'i ddangos ar eich trwydded.

Preswylwyr

Os oes gennych chi drwydded ddilys y gymuned, fe nodir isod am ba mor hir y cewch chi yrru ym Mhrydain. Ar y llaw arall, fe gewch chi gyfnewid eich trwydded am un Brydeinig ar unrhyw adeg.

Ar yr amod bod eich trwydded yn parhau'n ddilys, cewch yrru ym Mhrydain

Deiliaid trwyddedau gyrru car, beic modur (trwydded yrru gyffredin):

  • tan eich bod yn 70 oed neu am dair blynedd ar ôl dod yma i fyw, pa un bynnag fo'r cyfnod hwyaf

Yn meddu ar drwydded yrru lori, bws mini neu fws (trwydded yrru alwedigaethol):

  • tan eich bod yn 45 oed neu am bum mlynedd ar ôl dod yma i fyw, pa bynnag un yw'r cyfnod hwyaf
  • os ydych chi'n 45 neu'n hŷn (ond o dan 65), tan eich pen-blwydd yn 66 neu am bum mlynedd ar ôl dod yma i fyw, pa un bynnag fo'r cyfnod byrraf
  • os ydych chi'n 65 oed neu'n hŷn am 12 mis ar ôl dod yma i fyw

Er mwyn parhau i yrru ar ôl hyn, rhaid i chi gael trwydded yrru Brydeinig.

Cofrestr o bwy sydd â thrwydded y gymuned

Mae'n rhaid i bawb sy'n byw yng Ngwledydd Prydain sydd â thrwydded y gymuned a hawl alwedigaethol gofrestru eu manylion gyda'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â hwy ar 0870 240 0009.

Gall gyrwyr cerbydau bach gofrestru hefyd, os ydynt yn dymuno. Er mwyn cofrestru, dylai gyrwyr roi gwybod i'r DVLA beth yw eu henw, eu cyfeiriad a'u hawliau gyrru. Bydd gyrwyr sy'n cofrestru yn derbyn eu trwydded yn ôl ynghyd â dogfen papur manylion y DU. Byddai hyn yn eu galluogi i ddefnyddio'r system cosb benodol ar gyfer troseddau traffig, yn hytrach na gorfod mynd i'r llys.

Rhoi gwybod am gyflyrau meddygol

Rhaid i chi roi gwybod i'r DVLA am gyflyrau a oedd arnoch cyn i chi ddod i Wledydd Prydain, hyd yn oed os ydych chi wedi rhoi gwybod i'r awdurdodau amdanynt eisoes, ynghyd ag am unrhyw gyflyrau rydych chi wedi dod yn ymwybodol ohonynt yn ddiweddar. Gan amlaf, bydd y rheolau'r un fath â'r rheolau yng ngwledydd eraill y GE/AEE, er y gall fod ambell wahaniaeth. Yn y gwledydd hyn, mae'r safonau ar gyfer y golwg yn uwch i yrwyr galwedigaethol.

Sefyll prawf gyrru

Os ydych chi'n dymuno sefyll prawf gyrru Prydeinig rhaid i chi fel rheol fod yn byw yng Ngwledydd Prydain. Fodd bynnag, os ydych chi wedi symud i Wledydd Prydain ar ôl bod yn byw'n barhaol mewn gwladwriaeth arall yn y GE/AEE, rhaid i chi fel rheol fod wedi byw ym Mhrydain am 185 diwrnod yn y 12 mis diwethaf cyn gwneud cais am brawf gyrru a thrwydded lawn.

Er mwyn sefyll prawf gyrru yng Ngwledydd Prydain mae'n rhaid i chi wneud un o'r canlynol:

  • gwneud cais am ddogfen papur manylion trwydded yrru (D58/2) drwy lenwi D9 (ar gael o'r llysgenadaethau neu gan y DVLA) ac amgáu trwydded yrru'r gymuned, a gaiff ei dychwelyd atoch. Rhoddir y ddogfen drwydded dros dro yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, rhaid talu'r ffi briodol a rhaid ildio trwydded y gymuned wrth ei chyfnewid am drwydded Brydeinig er mwyn cael hawliau llawn
  • cyfnewid eich trwydded gymuned am y drwydded gyfatebol Brydeinig a gofyn am yr hawl dros dro briodol

Cerbydau y gellir eu gyrru yng Ngwledydd Prydain gyda thrwydded y gymuned

Gall pawb sydd â thrwydded y gymuned gyda hawl categori B hefyd yrru cerbydau penodol yng Ngwledydd Prydain, sydd wedi'u heithrio o'r gofynion trwyddedu gyrwyr cerbydau mawr arferol. Mae'r rhain yn cynnwys bysiau mini nad ydynt yn rhai masnachol ac sy'n cael eu gyrru'n wirfoddol, bysiau mini gyda hawlen a cherbydau mawr fel cerbydau amaethyddol a cherbydau adeiladu ffyrdd. Ceir rhagor o fanylion am y cerbydau hyn a'r amodau sy'n berthnasol i'w gyrru yn y daflen ffeithiau "Trefniadau Trwyddedu Arbennig ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Mawr" sydd ar gael gan y DVLA.

Trwyddedau'r gymuned a roddir yn gyfnewid am drwyddedau o fannau eraill

Bydd trwydded y gymuned sy'n cael ei rhoi ar sail trwydded o wlad gymwys yn ddilys ar gyfer gyrru yng Ngwledydd Prydain am 12 mis yn unig ac yn dderbyniol i'w chyfnewid.

Bydd trwydded y gymuned sy'n cael ei rhoi ar sail trwydded o wlad nad yw'n gymwys yn ddilys ar gyfer gyrru yng Ngwledydd Prydain am 12 mis yn unig ond ni fydd yn ddilys i'w chyfnewid.

Bydd trwydded a roddir o unrhyw wlad y tu allan i'r GE/AEE, a oedd wedi'i rhoi'n wreiddiol fel trwydded y gymuned, yn ddilys ar gyfer gyrru yng Ngwledydd Prydain am 12 mis yn unig ac yn dderbyniol i'w chyfnewid. Rhaid darparu tystiolaeth o'r hawl wreiddiol gan y GE/AEE.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU