Os ydych chi wedi cael profedigaeth, dylech roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) cyn gynted ag y bo modd. Bydd gwneud hynny yn golygu na fyddwch yn derbyn rhagor o ohebiaeth yn y dyfodol yn ymwneud â thrwydded yrru neu gerbyd y sawl a fu farw.
Bydd y wybodaeth isod yn rhoi cyngor am sut i roi gwybod i'r DVLA a beth i'w wneud gyda thrwydded yrru a dogfen neu dystysgrif gofrestru'r sawl a fu farw. Os oes angen i chi ddychwelyd y ddwy ddogfen i'r DVLA, fe allwch chi wneud hynny yn yr un amlen a'i hanfon i unrhyw un o'r cyfeiriadau a nodir isod. Nid oes angen i chi eu hanfon i'r gwahanol gyfeiriadau.
Dylid dychwelyd y drwydded yrru i'r DVLA gyda llythyr yn egluro'r amgylchiadau ac yn nodi'ch perthynas â'r sawl a fu farw. Os na allwch chi ddod o hyd i'r drwydded yrru, bydd angen i chi ysgrifennu gan nodi enw, cyfeiriad a dyddiad geni y sawl sydd wedi marw, a'ch perthynas (perthynas neu ysgutor) ag ef neu hi. Ysgrifennwch i DVLA, Abertawe, SA99 1AB.
Os oedd gan y sawl a fu farw gerbyd, mae sut y byddwch chi'n rhoi gwybod i'r DVLA yn dibynnu ar ddau beth: a fyddwch yn cadw neu'n gwerthu'r cerbyd a pha ddogfennau sydd gennych.
Bydd angen i chi lenwi adran B y V5 neu adran chwech y V5C i roi manylion y ceidwad newydd. Dylai'r ceidwad newydd lofnodi a rhoi'r dyddiad ar y datganiad ceidwad newydd. Peidiwch â llofnodi'r datganiad ceidwad cofrestredig. Dylid dychwelyd y V5 neu'r V5C i'r DVLA gyda llythyr yn egluro'r amgylchiadau ac yn nodi'ch perthynas â'r sawl a fu farw. Dylai'r ceidwad newydd gadw rhan werdd, V5/2 neu V5C/2, yr atodiad ceidwad newydd. Dylid anfon y llythyr a'r dogfennau wedyn i'r Tîm CR, DVLA, Abertawe SA6 7JL. Bydd y DVLA yn ceisio darparu tystysgrif gofrestru newydd ar gyfer y ceidwad newydd o fewn pedair wythnos.
Bydd angen i chi anfon llythyr i'r DVLA yn egluro'r amgylchiadau a'ch perthynas â'r sawl a fu farw. Anfonwch hwn i'r Tîm CR, DVLA, Abertawe SA6 7JL os gwelwch yn dda. Bydd angen i'r ceidwad newydd lenwi ffurflen V62 'Cais am dystysgrif gofrestru' a'i hanfon i'r DVLA, Abertawe, SA99 1DD. Mae’r ffurflen V62 ar gael ar-lein ar y ddolen ffurflenni cerbydau isod, o swyddfeydd DVLA lleol neu ganghennau Swyddfa'r Post®. Bydd y DVLA yn ceisio darparu tystysgrif gofrestru newydd ar gyfer y ceidwad newydd o fewn pedair wythnos. Gadewch i chwe wythnos fynd heibio cyn cysylltu â'r DVLA.
Gwerthu'n breifat
Bydd angen i chi lenwi adran B y V5 neu adran chwech y V5C i roi manylion y ceidwad newydd. Dylai'r ceidwad newydd lofnodi a rhoi'r dyddiad ar y datganiad ceidwad newydd. Peidiwch â llofnodi'r datganiad ceidwad cofrestredig. Dylid dychwelyd y V5 neu'r V5C i'r DVLA gyda llythyr yn egluro'r amgylchiadau ac yn nodi'ch perthynas â'r sawl a fu farw. Dylai'r ceidwad newydd gadw rhan werdd, V5/2 neu V5C/2, yr atodiad ceidwad newydd. Dylid anfon y llythyr a'r dogfennau wedyn i'r Tîm CR, DVLA, Abertawe SA6 7JL. Bydd y DVLA yn ceisio darparu tystysgrif gofrestru newydd ar gyfer y ceidwad newydd o fewn pedair wythnos. Dylech gofio cadw cofnod o enw a chyfeiriad y prynwr.
Gwerthu i werthwr ceir
Bydd angen i chi lenwi rhan V5/3 y V5 neu adran V5C/3 (adran naw) y V5C sy'n ymwneud â gwerthu/trosglwyddo i werthwr ceir. Peidiwch â llofnodi'r datganiad ceidwad cofrestredig. Bydd angen i'r gwerthwr ceir lofnodi a rhoi'r dyddiad ar y ddalen. Bydd angen i chi ddychwelyd y ddalen i'r DVLA yn egluro'r amgylchiadau a'ch perthynas â'r sawl a fu farw. Rhowch weddill y ddogfen neu'r dystysgrif gofrestru i'r gwerthwr ceir. Dylid anfon y llythyr a'r ddalen i'r Tîm CR, DVLA, Abertawe SA6 7JL.
Bydd angen i chi anfon llythyr i'r DVLA yn egluro'r amgylchiadau a'ch perthynas â'r sawl a fu farw. Dylech nodi'r union ddyddiad gwerthu ac enw a chyfeiriad y gwerthwr newydd. Bydd angen i'r ceidwad newydd lenwi ffurflen V62 'Cais am dystysgrif gofrestru' a'i hanfon i'r DVLA, Abertawe, SA99 1DD. Mae’r ffurflen V62 ar gael ar-lein ar y ddolen ffurflenni cerbydau isod, o swyddfeydd DVLA lleol neu ganghennau Swyddfa'r Post®. Bydd y DVLA yn ceisio darparu tystysgrif gofrestru newydd ar gyfer y ceidwad newydd o fewn pedair wythnos. Dylai'r ceidwad newydd adael i chwe wythnos fynd heibio cyn cysylltu â'r DVLA.