Rhaid i unrhyw gerbyd neu gyfuniad o gerbyd ac ôl-gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio mewn prawf fodloni safonau gofynion sylfaenol ar gyfer cerbyd prawf. Mae'r safonau hyn yn rhan o ddeddfwriaeth y Gymuned Ewropeaidd ar drwyddedu gyrwyr. Mae'n rhaid i Wledydd Prydain, fel aelod o'r Undeb Ewropeaidd, gydymffurfio â'r gofynion hyn.
Ar bob cerbyd a ddefnyddir ar gyfer profion Categorïau C1, C1 + E, C a C + E, rhaid bod gwregys diogelwch a drychau allanol wedi'u gosod ar ochr y gyrrwr a'r teithiwr at ddefnydd yr arholwr neu unrhyw un sy'n goruchwylio'r prawf.
Rhaid bod tacograff a system brecs gwrth-gloi (ABS) wedi'u gosod ym mhob cerbyd a ddefnyddir mewn prawf. Does dim angen gosod system brecs gwrth-gloi ar ôl-gerbydau.
Rhaid i bob cyfuniad o gerbydau gael breciau gwasanaeth addas a threfniant bachu cydnerth sy'n addas i'r pwysau
Nid yw uned tractor yn gerbyd addas ar gyfer prawf categori C neu C1.
Categori C1
Lori o faint canolig gydag uchafswm màs awdurdodedig (MAM) sy'n o leiaf 4 tunnell, yn o leiaf 5 metr o hyd, yn gallu cyrraedd 80 km/awr (50 mya) ac sydd ag adran gargo blwch caeedig sydd o leiaf yr un mor llydan a'r un mor uchel â'r cab.
Categori C1 + E
Ceir dau fath o gerbyd prawf yng nghategori C1 + E.
Categori C
Cerbyd nwyddau undarn gyda MAM sy'n o leiaf 12 tunnell, yn o leiaf wyth metr o hyd ac yn o leiaf 2.4 metr o led, ac yn gallu cyrraedd 80 km/awr (50 mya). Dylai'r cerbyd fod ag o leiaf wyth cymhareb gêr ymlaen, adran gargo blwch-caeedig sydd o leiaf yr un mor llydan a'r un mor uchel â'r cab.
Categori C + E
Ceir dau fath o gerbyd prawf yng nghategori C + E.
Categori D1
Cerbyd Cludo Teithwyr (PCV) gyda rhwng 9 ac 16 o seddi teithwyr ac Uchafswm Màs Awdurdodedig (MAM) sy'n o leiaf bedair tunnell, yn o leiaf pum metr o hyd ac yn gallu cyrraedd 80 km/awr (50 mya). Tacograff, ABS, gwregys diogelwch a drychau'r arholwr.
Categori D1 + E
Cerbyd categori D1 yn tynnu ôl-gerbyd gyda MAM sy'n o leiaf 1.25 tunnell, gydag ôl-gerbyd blwch caeedig sy'n o leiaf dwy fetr o uchder ac yn ddwy fetr o led. Tacograff, ABS, gwregys diogelwch a drychau'r arholwr.
Categori D
PCV gyda mwy nag wyth o seddi teithwyr, sy'n o leiaf 10 metr o hyd, yn o leiaf 2.4 metr o led ac yn gallu cyrraedd 80 km/awr (50mya). Tacograff, ABS, gwregys diogelwch a drychau'r arholwr.
Categori D + E
Cerbyd categori D yn tynnu ôl-gerbyd gyda MAM sy'n o leiaf 1.25 tunnell, gydag ôl-gerbyd blwch caeedig sy'n o leiaf dwy fetr o uchder ac yn ddwy fetr o led. Tacograff, ABS, gwregys diogelwch a drychau'r arholwr.
Nodiadau:
Nid yw cerbydau limosîn estynedig a faniau carchar sy'n seiliedig ar ffram lori yn gerbydau addas ar gyfer prawf PCV (categori D).
Mae cerbydau PCV lle mae'n anodd i'r gyrrwr weld beth sy'n digwydd y tu ôl iddo yn gerbydau addas ar gyfer y prawf, gan y gwneir yr ymarfer brecio oddi ar y ffordd
Rhaid i bob cyfuniad o gerbydau gael breciau gwasanaeth addas a threfniant bachu cydnerth sy'n addas i'r pwysau.