Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) union ddyddiad gwerthu neu drosglwyddo'ch cerbyd gan ddefnyddio'r ddogfen neu'r dystysgrif gofrestru. Dylech chi a'r prynwr ddilyn y drefn gywir neu chi fydd yn atebol am y cerbyd hyd nes y bydd cofnodion y DVLA wedi'u diweddaru.
Dylech chi roi gwybod i'r DVLA gan ddefnyddio'r rhan briodol o'r ddogfen neu'r dystysgrif gofrestru. Mae pa ran yn dibynnu ar y math o ddogfen sydd gennych chi. Dylech hefyd gadw cofnod ar wahân o enw a chyfeiriad y prynwr.
Os ydych yn gwerthu i werthwr ceir, dilynwch y ddolen isod am ragor o wybodaeth.
Os oes gennych chi ddogfen gofrestru ddwy ran, llenwch y rhan isaf am roi gwybod ynghylch gwerthu neu drosglwyddo cerbyd, datgysylltwch y rhan honno a'i hanfon ar unwaith i DVLA, Abertawe, SA99 1AR. Nid yw hyn yn golygu y bydd tystysgrif gofrestru newydd yn cael ei rhoi, ond os na wnewch chi hyn, efallai y byddwch chi'n dal i gael ymholiadau ynghylch y car o hynny allan.
Rhowch ran uchaf y ddogfen gofrestru i'r prynwr, ac os yw'r cerbyd yn cael ei werthu'n breifat, atgoffwch y prynwr y dylent roi gwybod ar unwaith i'r DVLA mai ganddynt hwy mae'r cerbyd bellach.
Os oes gennych chi ddogfen gofrestru dair rhan, mae'n rhaid i chi gwblhau'r rhan las, V5, a rhaid i chi a'r prynwr ill dau ei harwyddo a'i hanfon ar unwaith i DVLA, Abertawe, SA99 1BA. Mae angen i chi hefyd roi'r rhan werdd, V5/2, i'r prynwr, a honno wedi'i llenwi'n gywir. Fodd bynnag, os byddwch chi'n gwerthu'r cerbyd i 'werthwr ceir' (gweler y canllawiau ar gefn y ddogfen gofrestru am ddiffiniad), mae'n rhaid i chi gwblhau'r rhan goch, V5/3, cael manylion a llofnod y gwerthwr ceir a'i phostio i DVLA, Abertawe, SA99 1BD. Dylai'r rhannau glas a gwyrdd, V5 a V5/2 (heb eu cwblhau), gael eu trosglwyddo wedyn i'r gwerthwr ceir.
Os oes gennych chi dystysgrif gofrestru, rhaid i chi gwblhau rhan 6, 'manylion y ceidwad newydd neu'r enw newydd/cyfeiriad newydd' ar y V5C. Rhaid i chi a'r prynwr lofnodi rhan 8 ac anfon y V5C ar unwaith i DVLA, Abertawe SA99 1BA. Mae angen i chi hefyd roi'r rhan werdd, V5C/2, i'r prynwr, a honno wedi'i llenwi'n gywir. Fodd bynnag, os byddwch chi'n gwerthu'r cerbyd i 'werthwr ceir' (gweler y canllawiau ar gefn y V5C/3 am ddiffiniad), mae'n rhaid i chi lenwi'r rhan felen, V5C/3, cael manylion a llofnod y gwerthwr ceir a'i phostio i DVLA, Abertawe, SA99 1BD. Dylai'r rhannau glas a gwyrdd, V5C a V5C/2 (heb eu cwblhau), gael eu trosglwyddo wedyn i'r gwerthwr ceir. Mae canllawiau, INS 160, ar gael i gyd-fynd â'r dystysgrif gofrestru. Gellir llwytho'r canllawiau hyn o'r ddolen isod.
Unwaith y byddwch wedi rhoi gwybod i'r DVLA, byddwch yn derbyn llythyr yn cydnabod hynny o fewn pedair wythnos a fydd yn cadarnhau nad ydych yn atebol am y cerbyd mwyach. Gadewch i bedair wythnos fynd heibio cyn cysylltu â'r DVLA os nad ydych wedi derbyn y llythyr.