Os byddwch chi'n ailadeiladu cerbyd, neu'n adeiladu cerbyd o git neu'n cael trawsnewidiad cit, bydd angen i'r car fodloni rhai meini prawf cyn y gellir ei gofrestru. Bydd y swyddfa Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) leol yn rhoi'r rhif gwreiddiol neu rif addas ar sail y dystiolaeth a ddarperir.
Er mwyn cadw'r rhif cofrestru gwreiddiol:
Y ffrâm wreiddiol neu gorff heb ei addasu (h.y. y corff a'r ffrâm fel un uned - ungragen); neu ffrâm newydd neu gorff ungragen o'r un manyleb â'r gwreiddiol gyda thystiolaeth o hynny gan y gwerthwr neu'r gwneuthurwr (e.e. derbynneb).
Dwy gydran ganolog arall o'r cerbyd gwreiddiol - h.y. yr hongiad (blaen a chefn); offer llywio; echelau (y ddwy); trawsyriant neu injan.
Os defnyddir ffrâm neu gorff ungragen ail-law, rhaid i'r cerbyd basio prawf cymeradwyaeth cerbyd sengl estynedig (ESVA) neu gymeradwyaeth cerbyd sengl (SVA), ac ar ôl hynny caiff rhif cofrestru gyda "Q"
yn llythyren flaen ei neilltuo.
Ffrâm heb ei haddasu (gwreiddiol neu newydd) a dwy gydran ganolog arall o'r cerbyd gwreiddiol: ffyrch, olwynion ac injan neu flwch gêr.
Os defnyddir ffrâm ail-law, mae'n rhaid i'r cerbyd basio prawf cymeradwyaeth cerbyd sengl i feiciau modur MSVA) ac ar ôl hynny caiff rhif cofrestru gyda 'Q' yn llythyren flaen ei neilltuo
Lle mae holl ddarnau'r cerbyd wedi eu cyflenwi'n newydd gan y gwneuthurwr. Ar yr amod bod derbynebau boddhaol a thystysgrif newydd-deb yn cael eu cyflwyno, cofrestrir y cerbydau hyn o dan rif cofrestru cyfredol.
Bydd ceir cit sydd wedi eu hadeiladu trwy ddefnyddio dim mwy nag un gydran wedi'i hailwampio hefyd yn cael eu cofrestru o dan rif cyfredol. Mae hyn yn dibynnu ar dderbyn tystiolaeth foddhaol bod y gydran dan sylw wedi'i hailwampio i safon "fel newydd"
. Bydd angen prawf ESVA, SVA neu MSVA arno.
Mae hyn yn golygu bod cit o ddarnau newydd wedi ei ychwanegu at gerbyd neu fod hen ddarnau wedi eu hychwanegu at git sy'n cynnwys corff, ffrâm neu gorff ungragen gan wneuthurwr. Bydd golwg gyffredinol y cerbyd yn newid ac yn arwain at newid ei ddisgrifiad ar y dystysgrif gofrestru.
Bydd cerbyd yn cadw'r rhif cofrestru a roddwyd iddo os defnyddir naill ai'r ffrâm neu'r corff ungragen wreiddiol, heb ei haddasu, ynghyd â dwy gydran ganolog arall. Os defnyddir ffrâm neu gorff ungragen newydd gan wneuthurwr citiau arbenigol (neu ffrâm neu gorff ungragen wedi'i addasu o gerbyd presennol) ynghyd â dwy gydran ganolog o gerbyd arall, rhoddir rhif i'r cerbyd ar sail ei oedran. Bydd y rhif hwn yn seiliedig ar oedran y cerbyd sy'n cyflenwi'r darnau. Bydd angen prawf ESVA, SVA neu MSVA er mwyn cofrestru'r cerbyd.
Os nad oes modd cael digon o ddarnau gan y cerbyd sy'n cyflenwi darnau, neu pan fydd y rhif cofrestru gwreiddiol yn anhysbys, bydd angen tystysgrif ESVA, SVA neu MSVA er mwyn cofrestru'r cerbyd a chaiff rhif cofrestru gyda 'Q' yn llythyren flaen ei neilltuo.