Aseinir rhifau cofrestru i gerbydau. Dim ond fel ceidwad y cerbyd y cewch chi wneud cais i drosglwyddo neu gadw ei rif. Dylech gofio nad oes modd trosglwyddo a chadw rhifau cofrestru ar bob cerbyd ac nad oes modd trosglwyddo pob un rhif.
Pan fydd modd trosglwyddo rhif, rhaid i'r cerbyd y mae'n cael ei drosglwyddo iddo fodloni rhai meini prawf penodol. Mae'r ffurflenni trosglwyddo a chadw V317 a V778/1 (yn y drefn honno) yn nodi gofynion y cynlluniau ac yn rhoi cyngor pellach ar ffurf cwestiwn ac ateb.
Mae’r ffurflen, Rhifau Cofrestru a Chi INF46, hefyd yn cynnig rhagor o wybodaeth ar y cynlluniau ac mae ar gael i lwytho. Mae hefyd yn cael ei chynnwys pryd rydych yn archebu’r pecynnau trosglwyddo rhif neu gadw o’r gwasanaeth archebu’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).
Mae'r ffurflenni ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) drwy ddilyn y ddolen isod neu o'ch swyddfa DVLA leol.
Dim ond ceidwad cofrestredig cerbyd sydd â'r hawl i wneud cais am drosglwyddo ei rif cofrestru.
Rhaid i gerbydau sy'n cymryd rhan yn y cynllun Trosglwyddo Rhif fod â thrwydded gyfredol, gael prawf blynyddol (MOT/HGV) yn ogystal â bod ar gael i'w harchwilio. Fodd bynnag, i helpu pobl sy’n methu ail-drwyddedu eu cerbydau oherwydd rhesymau annisgwyl, bydd ceisiadau'n parhau i gael eu hystyried gan y DVLA:
Dan yr amgylchiadau hynny, rhaid bodloni holl ofynion eraill y broses drosglwyddo rhifau cyn i geisiadau gael eu hystyried. Dylai cerbydau sy'n derbyn rhif fod â threth arnynt er mwyn gallu cymryd rhan yn y broses drosglwyddo rhif.
Nac oes, fe all beiciau modur a mopedau gymryd rhan lawn yn y broses drosglwyddo rhifau, a bwrw eu bod yn bodloni'r gofynion trosglwyddo arferol.
Os nad oes rhaid i gerbyd gael prawf, ni chânt gymryd rhan yn y cynllun, e.e. tractorau, cerbydau a yrrir gan drydan a.y.b.
Oes, ar yr amod bod y naill gerbyd a'r llall yn bodloni gofynion y cynllun trosglwyddo. Dylech gysylltu â'ch swyddfa DVLA leol am ragor o wybodaeth.
Rhaid i unrhyw gais am drosglwyddo rhif cofrestru gael ei wneud ar ffurflen gais trosglwyddo V317 sydd ar gael o'ch swyddfa DVLA leol neu gan y DVLA, Abertawe.