Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cadw rhif cofrestru a sut i wneud cais

Gellir symud rhif cofrestru oddi ar y cerbyd y’i haseiniwyd iddo a’i gadw ar ddogfen gadw am 12 mis cyn ei ail-aseinio i gerbyd arall. Gellir ymestyn y cyfnod cadw’n flynyddol, ar yr amod y gwneir hynny cyn y dyddiad dod i ben.

Pwy all wneud cais?

Dim ond ceidwad cofrestredig cerbyd sydd â'r hawl i wneud cais am gadw ei rif cofrestru. Gall y ceidwad cofrestredig hefyd enwebu person sydd â’r cerbyd y gallen nhw fod yn dymuno aseinio’r rhif iddo.

Y gofynion ar gyfer y cerbyd sy'n rhoi'r rhif

Rhaid i'r cerbyd sy'n rhoi'r rhif cofrestru fod wedi ei drethu ar y pryd, yn amodol ar brofion MOT a phrofion cerbyd nwyddau trwm (HGV) blynyddol, yn ogystal â bod ar gael i'w archwilio.

Fodd bynnag, er mwyn helpu unigolyn sy'n methu ail-drethu ei gerbyd am resymau annisgwyl, bydd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn fodlon parhau i ystyried ceisiadau pan nad yw'r ddisg dreth wedi dod i ben fwy na 12 mis ynghynt.

Noder: Er mwyn i gerbyd fod yn gymwys ar gyfer y consesiwn hwn, ni ellir cael toriad rhwng dyddiad dirwyn i ben naturiol y ddisg treth a dechrau'r Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol (HOS).

Nid yw'r consesiwn yn berthnasol os ydych chi wedi cyflwyno'ch disg treth er mwyn cael ad-daliad, neu os nad yw'r cerbyd sy'n rhoi'r rhif cofrestru yn ddigon hen i gael ei brofi, hynny yw, yn llai na thair blwydd oed ar gyfer ceir, beiciau modur ayb neu lai na blwyddyn ar gyfer cerbydau nwyddau trwm (HGV).

Dan yr amgylchiadau uchod, rhaid cwrdd â holl ofynion eraill y cyfleuster cadw rhif cyn i geisiadau gael eu hystyried.

Sut mae gwneud cais

Bydd angen i chi gwblhau ffurflen V778/1 'cais i gadw rhif cofrestru cerbyd'. Mae’n cynnwys dalen ymateb gyda nodiadau cyfarwyddyd ar ffurf cwestiwn ac ateb. Dylech ddarllen y rhain yn hynod ofalus a’u cadw’n ddiogel er mwyn gallu cyfeirio atynt yn y dyfodol. Dylid anfon y cais gorffenedig a'r dogfennau perthnasol i'ch swyddfa DVLA leol.

Pa ddogfennau y dylech eu cyflwyno neu eu hanfon i’r swyddfa DVLA leol

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • y ffurflen V778/1 'cais i gadw rhif cofrestru cerbyd', wedi'i chwblhau
  • y dystysgrif cofrestru ddiweddaraf (V5C) ar gyfer y cerbyd, neu atodiad ceidwad newydd (V5C/2), a ffurflen V62 'cais am dystysgrif cofrestru cerbyd V5C' wedi'i chwblhau
  • tystysgrif prawf ar gyfer y cerbyd os oes angen un arno (er y gallai’r cerbyd fod yn rhy newydd i fod angen un, rhaid iddo berthyn i ddosbarth o gerbyd sy'n cael profion MOT neu HGV fel rheol)
  • y ffi, sy'n £105 ar hyn o bryd - mae hyn yn cynnwys ffi cadw o £25 a ffi aseinio o £80

Noder: Os nad oes gennych V5C neu V5C/2, neu os yw'r V5C/2 wedi cael ei stampio gan y swyddfa DVLA leol, bydd angen i chi wneud cais am dystysgrif cofrestru drwy gwblhau ffurflen V62 'cais am dystysgrif cofrestru cerbyd' a thalu ffi o £25.

Os stampiwyd y V5C/2 ar ôl trosglwyddiad neu gais i gadw rhif blaenorol, mae'n bosib na fyddwch yn gallu gwneud cais nes bydd V5C newydd wedi ei chyflwyno i chi.

Os bydd arnoch angen trethu'r cerbyd ar yr un pryd, bydd gofyn i chi lenwi ffurflen V10 'cais am drwydded cerbyd' neu'r ffurflen atgoffa V11, a chyflwyno’r dystysgrif yswiriant neu nodyn gwarchodaeth dilys sy'n berthnasol i'r cerbyd a drethir, a’r tâl priodol am dreth cerbyd.

Gofalwch fod gennych chi fanylion eich disg dreth (dyddiad dod i ben a'r rhif cyfresol) a rhif adnabod eich cerbyd (VIN) neu rif y ffrâm os ydych chi'n bwriadu ymweld â'ch swyddfa DVLA leol.

Noder: Bydd yn rhaid cynnal prawf adnabod os yw cerbydau o Ogledd Iwerddon wedi'u cofrestru ar yr un pryd ym Mhrydain Fawr (GB) ac yn rhan o gais i gadw rhif.

Mae ffurflenni V778/1, V10 a V62 ar gael i'w llwytho oddi ar y we, neu gallwch ofyn amdanynt yn eich swyddfa DVLA leol agosaf.

Mae'r daflen INF46 'Rhifau Cofrestru a Chi' hefyd yn rhoi cyngor ychwanegol am y cynllun ac ar gael i'w llwytho oddi ar y we.

Beth sy’n digwydd nesaf

Efallai y bydd y swyddfa DVLA leol yn dymuno archwilio'r cerbyd. Os yw popeth yn iawn, rhoddir rhif cofrestru newydd ar sail ei oedran* i'r cerbyd, ac, os yw hynny'n briodol, bydd disg treth newydd yn cael ei rhoi a'r dystysgrif MOT yn cael ei haddasu i ddangos y rhif cofrestru newydd. Byddwch wedyn yn cael cyfarwyddiadau i newid y platiau rhif ar y cerbyd a dychwelyd unrhyw hen ddisg treth i’w chanslo.

*Os cofrestrwyd y cerbyd am y tro cyntaf cyn 1963 a bod angen iddo gael rhif newydd sy'n cyfeirio at ei oedran nad yw'n cynnwys dangosydd blwyddyn, mae'n bosib na fydd yn adlewyrchu'r union ddyddiad y cafodd y cerbyd ei gofrestru gyntaf.

Bydd y papurau yn cael eu hanfon i DVLA, Abertawe er mwyn diweddaru’r cofnodion. Fel rheol, byddwch yn derbyn dogfen cadw rhif (V778) sy'n dangos mai chi yw'r grantai (yn ddilys am 12 mis) a Thystysgrif Cofrestru V5C ar gyfer y cerbyd dan ei rif cofrestru newydd o fewn pedair wythnos i dderbyn eich llythyr cadarnhau gan y swyddfa leol. Fodd bynnag, os defnyddiwyd V62 i gefnogi'ch cais, gall y broses gymryd hyd at wyth wythnos. Rhaid i’r ddogfen cadw rhif gael ei chadw’n gwbl ddiogel oherwydd bydd ei hangen arnoch pan fyddwch yn aseinio’r rhif yn ddiweddarach. Bydd y nodiadau sydd ar y ddogfen cadw rhif yn egluro sut i fynd ati i aseinio’r rhif i gerbyd. Bydd hefyd yn egluro sut i ymestyn hawliad ac ychwanegu neu newid manylion enwebai. Y ffi ar hyn o bryd ar gyfer y gwasanaethau hyn yw £25.

Unwaith i'r dyddiad dirwyn i ben fynd heibio, collir yr hawliad. Er nad oes rhaid i DVLA wneud hynny, mae’n anfon llythyrau atgoffa o’r dyddiad dirwyn i ben, ond y grantai sy'n gyfrifol am wneud cais am estyniad mewn da bryd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU