Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut mae creu plât rhif

Er mwyn creu plât rhif ar gyfer eich cerbyd, bydd angen i chi gysylltu â darparwr platiau rhif cofrestredig. Cyn y gellir creu'r plât rhif, bydd angen i chi ddarparu prawf bod gennych hawl i'r rhif a dangos dogfennau'n profi pwy ydych chi.

Cofrestr darparwyr platiau rhif

Dim ond darparwr platiau rhif cofrestredig ddylai greu platiau rhif. Defnyddiwch y ddolen isod i ddod o hyd i ddarparwr platiau rhif yn eich ardal chi.

Yr hyn y mae'n rhaid i chi ei wneud

Bydd angen i chi gyflwyno o leiaf un ddogfen o'r ddwy restr isod fel y gall cyflenwr y plât rhif gadarnhau eich enw, eich cyfeiriad a'ch hawl i'r rhif. Dylai pob dogfen fod yn wreiddiol - nid copïau.

Dogfennau derbyniol i gadarnhau pwy ydych chi

  • trwydded yrru, boed hi wedi ei chyhoeddi yn y Deyrnas Unedig neu beidio (gyda llun neu heb lun). Mae hon yn ddogfen dda i'w chyflwyno oherwydd ei bod yn ddogfen ddiogel sy'n cael ei rhoi gan y llywodraeth ac yn dangos yr enw a'r cyfeiriad
  • bil a roddir gan gyflenwr dŵr, nwy neu drydan, bil llinell ffôn ddaearol neu fil treth gyngor (cyfredol o fewn y chwe mis diwethaf)
  • cyfriflen gan fanc neu gymdeithas adeiladu
  • pasport (boed y pasport wedi ei chyhoeddi yn y Deyrnas Unedig neu beidio)
  • cerdyn adnabod cenedlaethol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth gwladwriaeth neu diriogaeth arall heblaw'r Deyrnas Unedig
  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd gan fanc neu gymdeithas adeiladu
  • cerdyn gwarant yr heddlu
  • cerdyn adnabod y lluoedd arfog

Dogfennau derbyniol i sefydlu hawl i gael y rhif cofrestru

  • Tystysgrif Cofrestru Cerbyd (V5C) - dyma'r ddogfen orau i'w chyflwyno
  • bonyn rhwygo-i-ffwrdd V5C/2 (adran 10) y V5C
  • tystysgrif hawl i rif (V750)
  • dogfen cadw rhif arbennig (V778)
  • ffurflen adnewyddu trwydded cerbyd (V11).
  • tystysgrif cofrestru dros dro (V379)
  • tystysgrif awdurdodi (V948) gyda stamp swyddogol DVLA
  • llythyr awdurdodi gan reolwr fflyd (gan gynnwys cwmni prydlesu/llogi) - rhaid dyfynnu cyfeirnod y ddogfen V5C (nid rhif adnabod y cerbyd) ar y llythyr

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU