Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cofrestru cerbyd sydd wedi'i fewnforio

Dylai cerbyd sy'n cael ei fewnforio i'w ddefnyddio yng Ngwledydd Prydain am byth gael ei gofrestru a'i drethu cyn gynted â phosibl ar ôl iddo gyrraedd y wlad. Ni ddylid cadw na defnyddio'r cerbyd ar ffyrdd cyhoeddus hyd nes bydd y cerbyd wedi'i gofrestru a'i drethu yn ffurfiol a'r holl broses wedi'i chwblhau.

Fodd bynnag, os oes angen i'r cerbyd gael prawf cymeradwyaeth cerbyd sengl (SVA) neu brawf MOT er mwyn ei gofrestru, gellir gyrru'r cerbyd i'r apwyntiad prawf ac oddi yno os yw hynny wedi'i drefnu ymlaen llaw. Wedi hynny, dylid cadw'r cerbyd oddi ar y ffordd hyd nes bydd y broses gofrestru ffurfiol wedi'i chwblhau.

Dylid gwneud cais am gofrestru i'ch swyddfa Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) leol agosaf. Nid oes modd cynnig 'gwasanaeth dros y cownter', a bydd cofrestru fel arfer yn cymryd rhwng 48 a 72 awr.

Cofrestru'r cerbyd fel cerbyd 'newydd'

Gellir gyrru cerbyd 'newydd sbon' i Brydain a'i gofrestru fel cerbyd 'newydd' cyn belled â bod:

  • y cerbyd yn cael ei gofrestru ym Mhrydain yn fuan ar ôl ei gasglu - gan amlaf o fewn 14 diwrnod ond gellir ei ymestyn i gyfnod o fis ar adegau prysur (e.e. cyn 1 Mawrth ac 1 Medi)
  • nifer y milltiroedd ar y cloc yn rhesymol
  • y cerbyd heb ei gofrestru'n barhaol o'r blaen

Dan gyfraith y DU, mae rhaid trethu a chofrestru cerbyd yn y DU cyn y gellir ei ddefnyddio ar y ffordd. I osgoi anawsterau, cynghorir unrhyw un sy'n mewnforio cerbydau i'w cludo yn hytrach na'u gyrru o'r porthladd i'w cartrefi neu i'w cyrchfan gyntaf, ac i gadw'r cerbydau oddi ar y ffordd hyd nes y byddant wedi'u trwyddedu a'u cofrestru'n gywir.

Ar gyfer y rhan fwyaf o gerbydau newydd, rhaid i chi ddangos tystiolaeth o gymeradwyaeth math gan ddarparwr neu adeiladwr y cerbyd, fel rheol ar ffurf tystysgrif cydymffurfio. Bydd angen i gerbydau gyriant llaw chwith o'r Gymuned Ewropeaidd (CE) fod wedi derbyn tystysgrif gan yr Asiantaeth Trwyddedu Cerbydau (VCA) dan y Cynllun Cyd-gydnabyddiaeth. Bydd y dystysgrif hon yn dangos fod y newidiadau a oedd eu hangen ar y cerbyd i'w wneud yn addas ar gyfer ffyrdd y DU wedi'u gwneud.

Os nad yw'r cerbyd wedi cael cymeradwyaeth math Ewropeaidd (pan fwriedir ei werthu mewn gwlad y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd), rhaid iddo basio prawf cymeradwyaeth cerbyd sengl (SVA).

Cofrestru cerbyd ail law

Fel rhan o'r broses gofrestru, bydd DVLA angen sicrhau bod cerbyd ail law sydd wedi'i fewnforio ac yn llai na 10 mlwydd oed yn bodloni safonau Cymeradwyaeth Math Ewropeaidd a deddfwriaethau Gwneuthuriad a Defnydd a Goleuo Cerbydau'r Ffordd y DU.

Bydd angen i geir, beiciau modur a cherbydau nwyddau ysgafn a gofrestrwyd gyntaf mewn aelod wlad Ewropeaidd arall fod â thystysgrif a gyflwynwyd gan yr Asiantaeth Trwyddedu Cerbydau (VCA) dan y Cynllun Cyd-gydnabyddiaeth. Bydd cerbydau nwyddau mawr angen Cymeradwyaeth Math llawn y DU cyn cael eu cofrestru.

Bydd angen i geir, beiciau modur a cherbydau nwyddau ysgafn a gofrestrwyd gyntaf mewn gwlad y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd basio'r prawf cymeradwyaeth cerbyd sengl (SVA).

Cofrestru cerbyd

Bydd angen anfon y dogfennau canlynol i swyddfa DVLA leol, ac ni dderbynnir llungopïau.

  • ffurflen gais V55/4 (ar gyfer cerbydau newydd) neu V55/5 (ar gyfer cerbydau ail-law) wedi'i chwblhau, ynghyd â ffi cofrestru o £55.00 (os yn berthnasol)
  • y ffi ofynnol am y drwydded
  • tystysgrif yswiriant Brydeinig gyfredol
  • dogfen gofrestru dramor ac unrhyw bapurau eraill sy'n berthnasol i'r cerbyd
  • tystiolaeth yn dangos dyddiad casglu'r cerbyd (fel arfer yr anfoneb gan y darparwr)
  • tystiolaeth o gymeradwyaeth math
  • ffurflen gywir Cyllid a Thollau EM
  • tystysgrif MOT Brydeinig gyfredol (os yw'n berthnasol)
  • datganiad o newydd-deb cerbyd V267 (os yw'n berthnasol) y gellir ei lwytho drwy ddilyn y ddolen i ffurflenni cerbydau isod neu drwy gysylltu â swyddfa DVLA leol.
  • dogfennau yn cadarnhau eich enw a'ch cyfeiriad (ceir rhestr o'r dogfennau adnabod derbyniol drwy ddilyn y ddolen isod)

Gwnewch eich siec neu archeb bost yn daladwy i DVLA Abertawe.

Ni fydd modd cofrestru na thrwyddedu oni bai eich bod wedi darparu'r dogfennau angenrheidiol. Efallai mewn rhai achosion y bydd y swyddfa DVLA leol yn dymuno gweld y cerbyd er mwyn gofalu fod y manylion yn gywir.

Gofynion Gwneuthuriad a Defnydd

Rhaid i gerbydau a gedwir neu a ddefnyddir ar y ffordd fawr yn y DU gydymffurfio â'r Rheoliadau Cerbydau (Gwneuthuriad a Defnydd) 1986 (fel y'i diwygiwyd) bob amser. Gellir cael gwybodaeth am reoliadau 1986 drwy gysylltu â:

Yr Adran Drafnidiaeth
Trafnidiaeth, Technoleg a Safonau
Zone 2/01
Great Minster House
76 Marsham Street
LLUNDAIN
SW1P 4DR

Ebost: tts.enquiries@dft.gsi.gov.uk

Nid oes copïau o'r rheoliadau ar gael gan yr Adran Drafnidiaeth na gan y DVLA. Gellir eu cael o unrhyw lyfrgell neu gallwch eu harchebu gan Y Llyfrfa Ltd (TSO). Gallwch gyflwyno archeb i TSO:

  • ar-lein yn www.opsi.gov.uk trwy siop lyfrau ar-lein TSO
  • drwy e-bost at customer.services@tso.co.uk
  • drwy'r post at: TSO, Blwch Post / PO Box 29, Norwich, NR3 1GN
  • Ffôn: 0870 600 5522. Ffacs: 0870 600 5533

Pecyn gwybodaeth am fewnforio

Mae 'pecyn mewnforio' y DVLA yn darparu'r holl wybodaeth a'r ffurflenni angenrheidiol sydd eu hangen arnoch i gofrestru cerbyd sydd wedi'i fewnforio, ac fe ellir cael gafael ar y pecyn hwn drwy ddefnyddio gwasanaeth archebu ffurflenni'r DVLA.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU