Os byddwch yn mynd â'ch cerbyd o'r wlad am byth bydd angen i chi ddweud wrth yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Os byddwch chi'n mynd â'ch cerbyd, neu gerbyd sydd wedi'i logi, o'r wlad dros dro, rhaid i chi fynd â'r dogfennau angenrheidiol gyda chi.
Pan eir â cherbyd a gofrestrwyd yn y DU o'r wlad am 12 mis neu ragor, fe'i hystyrir yn gerbyd sydd wedi'i allforio am byth o'r DU.
Gallwch ddweud wrth DVLA eich bod yn mynd â'ch cerbyd o'r DU am byth drwy lenwi'r adran borffor, 'Hysbysiad Allforio am Byth' (V5C/4), ar y Dystysgrif Cofrestru Cerbyd (V5C), a'i hanfon i DVLA, Abertawe SA99 1BD. Dylech gadw gweddill ffurflen V5C oherwydd efallai y bydd ei hangen arnoch er mwyn ailgofrestru'r cerbyd dramor. Ar ôl allforio'ch cerbyd, bydd wedyn yn rhwym wrth ofynion cyfreithiol y wlad newydd.
Os nad oes gennych dystysgrif cofrestru, bydd angen tystysgrif allforio am byth arnoch (V561). Dylech lwytho a llenwi 'Cais am dystysgrif allforio am byth' – ffurflen V756, a'i hanfon i DVLA, Abertawe, SA99 1AG.
Gan fod eich cerbyd yn aros yn y Deyrnas Unedig, yr unig beth y mae angen i chi ei wneud yw llenwi'r adran newid cyfeiriad ar eich ffurflen V5C (symud rhwng Gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon) a'i hanfon i Swyddfa DVLA Leol, neu ar eich ffurflen V5CNI (symud o Ogledd Iwerddon i Wledydd Prydain) a'i hanfon i Swyddfa DVLA Leol.
Nid yw ffurflen V561 yn berthnasol mwyach pan fo cerbydau'n symud rhwng Gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon.
Os eir â cherbyd a gofrestrwyd yn y DU dramor dros dro, mae'n dal yn rhwym wrth gyfraith y DU. Mae hyn yn golygu ei bod yn rhaid i chi (y ceidwad), yn ôl y gyfraith, wneud yn siŵr bod y cerbyd yn dal wedi'i drethu tra caiff ei ddefnyddio dramor. A bwrw bod gan y cerbyd yswiriant a thystysgrif MoT gyfredol, bydd yn bosib i chi drethu'r cerbyd.
Os na fyddwch yn trethu'r cerbyd ac yn dod ag ef yn ôl i'r DU heb ei drethu, dylid cludo'r cerbyd yn ôl i'r DU (nid ei yrru) a datgan Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol arno ar unwaith.
Gallwch drethu cerbyd neu ddatgan HOS arno drwy lwybrau trwyddedu cerbydau'n electronig DVLA, dros y rhyngrwyd neu'r ffôn, ond cofiwch na ellir datgan HOS pan nad yw'r cerbyd yn y DU. Dylai ceidwaid sy'n mynd â'u cerbydau dramor dros dro wneud yn siŵr bod y cerbyd yn dal wedi'i drethu tra bydd yn cael ei ddefnyddio dramor.
Os nad oes gennych ffurflen V5C a'ch bod yn mynd â'r cerbyd o'r wlad dros dro, gallwch gael un newydd gan DVLA drwy ffonio neu wneud cais am un drwy'r post.
Gall y dystysgrif cofrestru gymryd hyd at bedair wythnos i gyrraedd. Os byddwch chi'n teithio yn ystod y cyfnod hwn, bydd angen i chi wneud cais am dystysgrif cofrestru dros dro (V379), sydd ar gael mewn swyddfa DVLA leol. Bydd angen i chi ddarparu prawf o bwy ydych chi, a chodir tâl am y gwasanaeth hwn.
Dylech sicrhau eich bod yn bodloni unrhyw amodau rhyngwladol a chenedlaethol o ran trwyddedu a threthu.
Fel arfer, bydd tystysgrif cofrestru cerbyd sydd wedi’i logi, ei hurio neu ei rentu, yn cael ei chadw'n ddiogel gan y cwmni sy'n darparu'r cerbyd. Os byddwch yn teithio dramor, mae'n bwysig eich bod yn gallu dangos bod gennych hawl i ddefnyddio'r cerbyd. Mae tystysgrif Cerbyd ar Log (VE 103) ar gael fel tystiolaeth o hyn. Gellir cael y dystysgrif gan y cyrff canlynol (mae ffi weinyddol fechan i'w thalu):