Archwiliad cyn-cofrestru yw'r cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl ar gyfer ceir a cherbydau nwyddau ysgafn sydd heb gael eu cymeradwyo yn ôl math i safonau Prydeinig neu Ewropeaidd. Prif bwrpas y cynllun yw sicrhau bod y cerbydau hyn wedi cael eu dylunio a'u hadeiladu i safonau diogelwch priodol cyn y gellir eu defnyddio ar ffyrdd cyhoeddus.
Bydd eich cerbyd yn cael prawf Cymeradwyaeth os yw'n un o'r canlynol:
Mae'r prawf Cymeradwyaeth hefyd yn berthnasol i garafanau modur ac ambiwlansys.
Mae'r prawf Cymeradwyaeth Uwch yn gofyn am dystiolaeth ychwanegol o gydymffurfiaeth â safonau Cymeradwyaeth Math y CE (neu rai safonau cyfatebol eraill) ar gyfer deg prif ran allweddol y cerbyd. Maent i gyd yn berthnasol i gerbydau cludo teithwyr a dim ond rhai ohonynt sy'n berthnasol i gerbydau nwyddau. Rhaid i gerbydau a gafodd eu hadeiladu ar ôl y dyddiad a nodwyd gael y prawf Uwch.
Meysydd Allweddol
Dangos Cydymffurfiaeth
Mae pum ffordd sylfaenol o ddangos cydymffurfiaeth:
Dangos bod y Safonau Cymeradwyo Ewropeaidd wedi'u bodloni - drwy, er enghraifft, y rhif Cymeradwyo Math ar y plât Rhif Adnabod Cerbyd neu dystiolaeth ddogfennol gan y gwneuthurwr (Cydymffurfio â Chyfarwyddeb)
Defnyddir Adroddiad Model ar gyfer prawf Cymeradwyaeth Uwch pan fo ymgeisydd eisiau dangos cydymffurfiaeth ar gerbyd arall, ar sail un neu nifer o Brofion Cyfarwyddeb neu Brofion Cymhariaeth a gynhaliwyd yn wreiddiol ar "brif"
gerbyd.
Er mai'r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) sy'n llunio'r adroddiad, mae'n defnyddio data a gynhyrchwyd gan Labordy Profi y talwyd amdano gan berchennog yr Adroddiad Model a hwnnw hefyd wnaeth ddarparu'r "prif"
gerbyd i'r labordy. Bydd y rhan fwyaf o berchnogion Adroddiadau Model yn eu llogi i ymgeiswyr sydd ddim eisiau ysgwyddo'r gost o gynnal eu profion labordy eu hunain.
Ers 17eg Mehefin 2003 bu'n rhaid i feiciau modur, cerbydau tair-olwyn a cherbydau pedair-olwyn ysgafn gydymffurfio â chynllun Cymeradwyaeth Math Cerbyd Cyfan y Gymuned Ewropeaidd (ECWVTA). Heb gydymffurfio, ni ellir cofrestru cerbydau i'w defnyddio yng Ngwledydd Prydain. Oni ellir dangos Tystysgrif Cydymffurfio â ECWVTA, yna bydd y cerbyd yn gorfod cael prawf cynllun Cymeradwyo Cerbyd Sengl i Feiciau Modur cyn y gellir rhoi'r drwydded gyntaf. Pe na bai'r Cymeradwyaeth i Feiciau Modur ar gael, yr unig ffordd i gofrestru ym Mhrydain fyddai Cymeradwyaeth Math lawn, sy'n broses ddrudfawr a llafurus ac a fyddai i bob pwrpas yn rhoi diwedd ar gofrestru cerbydau os nad ydynt yn cydymffurfio â'r ECWVTA (e.e. cerbydau wedi'u haddasu'n arbennig, wedi'u hadeiladu gan amaturiaid ac wedi'u mewnforio o'r tu allan i AEE).
Am ragor o wybodaeth am y Cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl a'r Cynllun cyfatebol i Feiciau Modur, ewch i wefan yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA). Yno hefyd gallwch ddarllen y newyddion diweddaraf am y cynllun, cael atebion i rai cwestiynau cyffredin a chael canllawiau i'r prawf.