Os byddwch chi'n prynu cerbyd yn breifat, ac y canfyddir yn ddiweddarach ei fod wedi'i ddwyn, efallai na fydd gennych hawl i fod yn berchen arno. Os brynwch chi gerbyd newydd sydd wedi cael ei gofrestru yn barod, mae’n rhaid i’r deliwr dychwelyd y Dystysgrif Cofrestru (V5c) ar unwaith er mwyn i chi allu cofrestru’r cerbyd yn eich enw chi. Fe allech chi golli'r cerbyd ynghyd â'r arian a daloch chi amdano. Gallai'r cyngor canlynol eich helpu i osgoi troseddau sy'n ymwneud â cherbydau
Gellir cael rhagor o wybodaeth a chyngor yn y taflenni rhad ac am ddim, 'The Car-Buyer's Guide' a 'Steer Clear of Car Crime', sydd ar gael o swyddfeydd DVLA lleol neu gan eich Swyddog Atal Troseddu lleol (cysylltwch â'ch gorsaf heddlu leol am ragor o wybodaeth).