Telerau ac amodau eich gwaith sy'n pennu a ydych yn gyflogedig ynteu'n hunangyflogedig. Mae'n bwysig eich bod yn gwybod eich statws cyflogaeth oherwydd mae'n effeithio ar hawliau cyflogaeth a budd-daliadau, a hefyd faint o dreth ac Yswiriant Gwladol yr ydych yn ei dalu.
Fel arfer gallwch gyfrifo eich statws cyflogaeth drwy ofyn rhywfaint o gwestiynau syml.
Gallwch hefyd fod yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig yr un pryd, yn gweithio i gyflogwr yn ystod y dydd o bosibl ac yn rhedeg eich busnes eich hun gyda'r nos.
Ystyriwch bob contract ar wahân: efallai y gwelwch eich bod yn hunangyflogedig ar gyfer un ond yn gyflogedig ar gyfer un arall.
Gallwch gael canllawiau mwy manwl oddi ar wefan Cyllid a Thollau EM, gan gynnwys cael mynediad i'r Dangosydd Statws Cyflogaeth. Mae'r Dangosydd Statws Cyflogaeth yn rhoi syniad i chi a ydych yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig ar sail y wybodaeth y byddwch yn ei darparu'n unig.
Os ydych yn dal yn ansicr, dylech ofyn am gael siarad gyda'r Swyddog Statws yn eich Swyddfa Dreth. Nid oes diffiniad cyfreithiol o'r termau cyflogaeth a hunangyflogaeth, ac felly, os oes amheuaeth ynghylch statws person, gwneir y penderfyniad trwy gyfeirio at benderfyniadau blaenorol (a elwir yn 'gyfraith achosion'). Mae'r cwestiwn ynghylch a ydych yn gyflogedig ynteu'n hunangyflogedig yn dibynnu ar ffeithiau eich trefniadau gweithio, beth ddywed eich contract neu gyfuniad o'r ddau.
Chi sy'n gyfrifol am eich treth a'ch Cyfraniadau Yswiriant Gwladol eich hun. I wneud hyn rhaid ichi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM am eich incwm trwy lenwi ffurflen dreth Hunanasesiad.
Rhaid ichi gofrestru fel person hunangyflogedig gyda Chyllid a Thollau EM o fewn tri mis, neu efallai y bydd yn rhaid ichi dalu cosb.
Gallwch lwytho ffurflen gofrestru oddi ar wefan Cyllid a Thollau EM gan ddefnyddio'r ddolen isod, neu gallwch gofrestru drwy ffonio'r llinell gymorth ar gyfer y rhai sydd newydd ddod yn hunangyflogedig ar 08459 15 45 15 (ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8.00 am a 5.00 pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul).
Yn dibynnu ar y math o gyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ydych yn eu talu, fe allech chi golli'r hawl i rai budd-daliadau, taliadau statudol, hawliau cyflogaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.
Os ydych yn gyflogedig, eich cyflogwr sy'n gyfrifol am ddidynnu a thalu eich treth a'ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol drwy'r drefn Talu Wrth Ennill (TWE - PAYE). Mae gennych hawl i rai hawliau a budd-daliadau hefyd, megis absenoldeb mamolaeth neu dadolaeth, tâl salwch, Lwfans Ceisio Gwaith os collwch eich gwaith a Phensiwn gan y Wladwriaeth pan fyddwch yn ymddeol (gan gynnwys Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth).