Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Treth ar geir cwmni a buddion eraill

Os yw'ch cyflogwr yn darparu buddion anariannol i chi - megis car cwmni neu yswiriant meddygol - efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth arnynt.

Pwy sy'n gorfod talu treth ar fuddion gan gwmni?

Os ydych yn gyfarwyddwr cwmni, neu os yw eich cyflog - gan gynnwys gwerth eich buddion - yn £8,500 neu fwy mewn blwyddyn, bydd yn rhaid ichi dalu treth ar unrhyw fuddion bob tro.

Efallai y bydd yn rhaid ichi dalu treth ar rai buddion - megis lle i fyw a ddarperir gan eich cyflogwr - faint bynnag yw eich cyflog ac os ydych yn gyfarwyddwr cwmni neu beidio.

Buddion y bydd angen i chi dalu treth arnynt o bosibl

Ceir cwmni

Fel arfer, os bydd eich cyflogwr yn darparu car i chi, bydd yn rhaid i chi dalu treth ar werth y budd. Bydd y gwerth yn dibynnu ar amryw o bethau, megis:

  • pris rhestr y car, gan gynnwys unrhyw ategolion
  • ei allyriadau carbon deuocsid
  • y math o danwydd y mae'n ei ddefnyddio

Efallai y bydd gwerth y budd yn llai os nad yw'r car ar gael am ran o'r flwyddyn neu os ydych yn talu rhywbeth tuag at ei gost.

Os yw'ch cyflogwr yn darparu tanwydd i chi ar gyfer defnyddio'r car at ddefnydd preifat, bydd yn rhaid i chi dalu treth ar hwn fel budd gwahanol.

Benthyciadau ar gyfraddau llog isel

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar y budd hwn os yw'ch cyflogwr yn benthyca mwy na £5,000 yn ddi-log i chi, neu os yw'n codi llai na'r gyfradd llog swyddogol ar fenthyciad. Gwerth y budd y bydd yn rhaid i chi dalu treth arno fel arfer yw'r gwahaniaeth rhwng:

  • y llog yr ydych yn ei dalu
  • a'r llog y byddech wedi'i dalu ar y gyfradd swyddogol

Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd dalu treth ar y budd os yw'ch cyflogwr yn benthyca arian i un o'ch perthnasau.

Ni fydd yn rhaid i chi dalu treth ar fudd benthyciad llog isel neu ddi-log gan eich cyflogwr os yw cyfanswm yr holl fenthyciadau a gafwyd mewn blwyddyn yn £5,000 neu lai.

Lle i fyw

Os yw'ch cyflogwr yn rhoi lle i fyw i chi - neu i un o'ch perthnasau - efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar y budd. Mae gwahanol ffyrdd o gyfrifo gwerth y budd y bydd yn rhaid i chi dalu treth arno, yn dibynnu ar a yw'r lle byw yn costio mwy na £75,000 ai peidio.

Efallai na fydd yn rhaid i chi dalu treth ar y budd os darperir lle i fyw er mwyn i chi wneud eich swydd - neu oherwydd ei fod yn eich helpu i wneud eich gwaith yn well.

Yswiriant meddygol

Os yw'ch cyflogwr yn talu am eich yswiriant meddygol, byddwch fel arfer yn gorfod talu treth ar werth y budd. Fel arfer, cost y premiymau yswiriant yw hwn.

Gall eich cyflogwr roi rhai buddion i chi na fydd yn rhaid i chi dalu treth arnynt, megis:

  • yswiriant ar gyfer triniaeth pan fyddwch yn gweithio dramor
  • archwiliadau blynyddol i chi

Buddion di-dreth

Mewn rhai amgylchiadau gallwch gael rhai buddion heb dalu treth arnynt. Gall y buddion di-dreth gynnwys:

  • prydau a ddarperir ar gyfer y gweithwyr i gyd mewn ffreutur staff
  • diodydd a byrbrydau yn y gwaith
  • ffôn symudol
  • parcio yn eich gweithle neu mewn man cyfagos
  • partïon Nadolig
  • gofal plant

Sut mae'r dreth yn cael ei thalu

Rhaid i chi a'ch cyflogwr ddweud wrth eich Swyddfa Dreth am unrhyw fuddion yr ydych yn eu cael. Bydd yn rhaid i chi ddangos y buddion ar eich ffurflen dreth Hunanasesu (os byddwch yn llenwi un) a bydd yn rhaid i'ch cyflogwr lenwi ffurflen P11D, Treuliau, taliadau a buddion neu ffurflen P9D Treuliau, taliadau ac incwm na ellir tynnu treth ohonynt.

Efallai y bydd eich Swyddfa Dreth yn anfon cod treth atoch i gasglu'r dreth sy'n ddyledus gennych drwy'r system Talu Wrth Ennill.

Eich cyfrifoldebau chi

Bydd eich cyflogwr yn rhoi i chi fanylion y buddion y maent wedi rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM amdanynt ar ffurflen P11D neu P9D. Bydd angen i chi gadw'r manylion hyn am ddwy flynedd ar ôl y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddi. Bydd angen y wybodaeth hon arnoch i lenwi'ch ffurflen dreth.

Cofiwch ei bod yn rhaid i chi ddweud wrth eich Swyddfa Dreth am unrhyw fuddion yr ydych chi neu eich teulu'n eu cael gan eich cyflogwr hyd yn oed os ydych eisoes wedi talu treth arnynt drwy'r system Talu Wrth Ennill.

Ble i gael cymorth

Gall eich cyflogwr eich helpu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y buddion yr ydych yn eu cael gyda'ch swydd. Os bydd angen cymorth arnoch i lenwi'ch ffurflen dreth gallwch gysylltu â'ch Swyddfa Dreth neu ffonio llinell gymorth Hunanasesiad Cyllid a Thollau EM ar 0845 900 0444. Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm, saith diwrnod yr wythnos gan gynnwys gwyliau banc.

Allweddumynediad llywodraeth y DU