Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Treth ar gyfer y cyflogedig

Rydych yn talu treth ar eich cyflog drwy system o'r enw Talu Wrth Ennill (TWE - PAYE). Mae'ch cyflogwr yn defnyddio'r system hon i dynnu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol o'ch cyflog cyn iddynt ei dalu i chi.

Cyflog gros a net

Eich 'cyflog gros' yw'r swm y byddwch yn ei ennill cyn y didynnir treth ohono. Eich 'cyflog net' yw'r swm a gewch ar ôl didynnu treth ac Yswiriant Gwladol ohono. Pan dderbyniwch slip cyflog, fe welwch:

  • y cyflog gros yr ydych wedi'i ennill (gan gynnwys unrhyw fonws)
  • faint o Dreth Incwm sydd wedi'i didynnu
  • unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd wedi'u didynnu
  • unrhyw ad-daliadau benthyciad myfyrwyr, os yw’n berthnasol
  • eich cyflog mynd-adre, neu'r cyflog net yr ydych wedi'i dderbyn

Yn ogystal â chael eich trethu ar eich cyflog, rydych yn cael eich trethu hefyd ar unrhyw fuddion a ddarperir gan eich cyflogwr megis car cwmni, benthyciad llog isel neu yswiriant meddygol. Efallai hefyd y bydd yn rhaid ichi dalu treth ar dips yr ydych yn eu derbyn fel rhan o'ch swydd.

Treth Incwm

Gall pawb ennill swm penodol bob blwyddyn heb dalu unrhyw Dreth Incwm. Dyma'ch Lwfans Personol. £6,035 yw'r lwfans personol yn 2008-2009. Gall rhai pobl ennill ychydig yn fwy cyn dechrau talu treth, er enghraifft, os ydynt dros 65.

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gronni eich hawl i dderbyn Pensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau nawdd cymdeithasol eraill. Mae'r swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar faint yr ydych yn ei ennill. Mae'ch cyflogwr yn didynnu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 o'ch cyflog drwy'r system TWE.

Mae Cyllid a Thollau EM yn cadw golwg ar eich cyfraniadau trwy eich rhif Yswiriant Gwladol. Mae hwn yn debyg i rif cyfrif ac mae'ch rhif yn unigryw i chi.

Faint allwch chi ei ennill heb dalu treth ac Yswiriant Gwladol?

Treth Incwm

Gall pawb ennill swm penodol bob blwyddyn heb dalu unrhyw Dreth Incwm. Dyma'ch Lwfans Personol. £5,435 yw'r lwfans personol yn 2008-2009. Gall rhai pobl ennill ychydig yn fwy cyn dechrau talu treth, er enghraifft, os ydynt dros 65.

Yswiriant Gwladol

Gallwch ennill hyd at £105 yr wythnos (2008-2009) cyn i chi dalu unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Gelwir hyn yn 'drothwy sylfaenol'.

Dim ond eich bod yn ennill mwy na £90 yr wythnos (2008-2009) gallwch barhau i gronni eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth a rhai budd-daliadau eraill. Y 'terfyn enillion isaf' yw’r enw a roddir ar hwn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU