Ffurflenni Talu Wrth Ennill: P45, P46, P60, P11D
Os ydych yn gyflogai, rhaid i'ch cyflogwr roi dogfennau penodol i chi - ffurflenni P45 a P60 - am y dreth yr ydych yn ei thalu ar eich cyflogau. Os ydych yn derbyn buddion neu dreuliau, mae'ch cyflogwr yn anfon P11D at Gyllid a Thollau EM. Rydych yn cael copi o'r wybodaeth honno.
Rydych yn cael P45 gan eich cyflogwyr pan fyddwch yn stopio gweithio iddyn nhw. Dyma gofnod o'ch tâl a'r dreth sydd wedi'i thynnu ohono yn ystod y flwyddyn dreth. Mae'n dangos:
Mae pedair rhan i'r P45, Rhan 1, Rhan 1A, Rhan 2 a Rhan 3. Mae'ch cyflogwr yn anfon Rhan 1 i Gyllid a Thollau EM ac yn rhoi'r tair arall i chi. Pan fyddwch yn dechrau swydd newydd, neu'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, rydych yn rhoi Rhan 2 a Rhan 3 i'ch cyflogwr newydd neu i'r Ganolfan Gwaith. Rydych yn cadw'r rhan sy'n weddill (Rhan 1A) ar gyfer eich cofnodion eich hun.
Dylech gael P45 gan eich cyflogwyr yn awtomatig pan fyddwch yn stopio gweithio iddyn nhw. Os na, gofynnwch amdani - mae gennych hawl iddi dan y gyfraith.
Eich P60 yw'r crynodeb o'ch tâl a'r dreth sydd wedi'i thynnu ohono yn ystod y flwyddyn dreth.
Dylai eich cyflogwr roi P60 i chi i'w chadw fel cofnod ar ddiwedd bob blwyddyn dreth (sy'n mynd o 6 Ebrill i 5 Ebrill yn y flwyddyn ddilynol). Os na chewch chi P60 gan eich cyflogwr ar ddiwedd y flwyddyn dreth, gofynnwch amdani - mae gennych hawl i'w derbyn dan y gyfraith os ydych yn dal i weithio i’r cyflogwr ar 5 Ebrill.
Efallai y bydd ei hangen arnoch i wneud y canlynol:
Efallai y bydd ei hangen arnoch hefyd fel prawf o'ch incwm os byddwch yn gwneud cais am fenthyciad neu forgais - felly mae'n bwysig cadw'ch ffurflenni P60 i gyd yn ddiogel.
Mae'ch cyflogwr yn defnyddio P11D i ddweud wrth Gyllid a Thollau EM am werth unrhyw 'fuddion ymarferol' y maent wedi'u rhoi i chi yn ystod y flwyddyn dreth. Mae'r rhain yn cynnwys buddion neu dreuliau sy'n cynyddu'ch incwm mewn gwirionedd, megis:
Dim ond os ydych wedi ennill o leiaf £8,500 yn y flwyddyn, yn cynnwys gwerth y buddion, y bydd eich cyflogwr yn datgan y rhain. Byddant yn cyfrifo beth yw gwerth pob budd, ei gofnodi ar y ffurflen a'i hanfon at Gyllid a Thollau EM. Byddant yn rhoi copi i chi hefyd, y byddwch ei angen ar gyfer eich cofnodion neu os ydych yn llenwi ffurflen dreth.
Os byddwch yn gwneud cais am fenthyciad neu forgais, bydd banciau a chymdeithasau adeiladu'n derbyn P11D fel prawf o incwm ychwanegol.
Os ydych wedi colli'ch P60 gall eich cyflogwr roi copi i chi - ond rhaid nodi'n glir arno mai copi ydyw.
Os ydych wedi colli'ch P45, fyddwch chi ddim yn gallu cael un arall. Bydd eich cyflogwr newydd yn rhoi ffurflen P46 i chi i'w llenwi er mwyn i Gyllid a Thollau EM roi rhif cod ichi ar gyfer eich gwaith newydd.
Does dim rhaid i'ch cyflogwr roi copi o’r P11D i chi. Ond dywed y gyfraith fod yn rhaid iddynt ddweud wrthych pa fanylion y maent wedi'u cynnwys ar y ffurflen - hyd yn oed os ydych wedi gadael y swydd. Fel arfer mae'n haws iddynt roi copi o'r ffurflen ichi pan fyddant yn ei hanfon at Gyllid a Thollau EM.
Os byddwch yn colli'ch copi, dylai eich cyflogwr allu rhoi un arall ichi. Os na, gofynnwch i'ch Swyddfa Dreth am gopi.
Provided by HM Revenue and Customs