Mae'r cyfraddau treth a dalwch ar ddifidendau'r DU (incwm o gyfranddaliadau cwmnïau o'r DU, ymddiriedolaethau buddsoddi-drwy-unedau a chwmnïau buddsoddi penagored) yn wahanol i'r hyn a dalwch ar fathau eraill o incwm gan gynnwys cyflog, elw o hunangyflogaeth, pensiynau a llog o gynilion, megis llog banciau a chymdeithasau adeiladu.
Mae dau fath gwahanol o gyfraddau Treth Incwm ar ddifidendau'r DU. Mae'r gyfradd yr ydych yn ei thalu'n dibynnu ar a yw eich incwm trethadwy cyffredinol (ar ôl lwfansau) yn dod o fewn terfyn y gyfradd Dreth Incwm sylfaenol ynteu a yw'n uwch na hynny.
Terfyn y gyfradd Dreth Incwm sylfaenol yw £34,800 ar gyfer blwyddyn dreth 2008-2009.
| Incwm difidend mewn perthynas â'r band treth cyfradd sylfaenol | Y gyfradd dreth a ddefnyddir ar ôl didynnu'r lwfans personol ac unrhyw lwfans person dall |
|---|---|
| Incwm difidend sy'n dod o fewn terfyn y gyfradd dreth sylfaenol o £34,800 | 10% |
| Incwm difidend sy'n uwch na therfyn y gyfradd dreth sylfaenol o £34,800 | 32.5% |
Nid oes ots pa un a ydych yn cael difidendau gan gwmni, ymddiriedolaeth fuddsoddi neu gwmni buddsoddi penagored, gan y trethir pob difidend yn yr un ffordd.
(Ond cofiwch fod 'llog a ddosberthir' o ymddiriedolaethau buddsoddi a chwmnïau buddsoddi penagored yn cael ei drethu yn ôl y cyfraddau ar gyfer incwm o gynilion - gweler isod.)
Ceir dau brif fath o gyfraddau Treth Incwm ar incwm o gynilion (yn gyffredinol, llog banciau a chymdeithasau adeiladu): 20 y cant (y gyfradd sylfaenol) neu 40 y cant (y gyfradd uwch). Bydd y gyfradd/cyfraddau a dalwch yn dibynnu ar eich incwm trethadwy cyffredinol. Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau personol, efallai y gellir trethu rhywfaint o'ch incwm cynilion ar y gyfradd ddechreuol arbennig o 10 y cant ar gyfer cynilion.
Pan fyddwch yn cael eich difidend, byddwch hefyd yn cael taleb sy'n dangos:
Os ydych wedi cytuno i'ch difidendau gael eu talu'n electronig, efallai y cewch eich taleb ar ffurf papur neu electronig.
Bydd cwmnïau'n talu difidendau i chi o elw y maent eisoes wedi talu treth arno - neu elw y maent yn mynd i dalu treth arno. Mae'r credyd treth yn rhoi ystyriaeth i hyn ac mae ar gael i'r cyfranddaliwr i'w osod yn erbyn unrhyw Dreth Incwm a all fod yn ddyledus ar eu 'hincwm difidend'.
Wrth adio'ch incwm trethadwy cyffredinol, bydd angen i chi gynnwys y difidend(au) a dderbyniwyd ynghyd â'r credyd(au) treth. Eich 'incwm difidend’ yw'r enw ar yr incwm hwn.
Mae'r difidend a delir i chi yn cynrychioli 90 y cant o'ch 'incwm difidend'. Credyd treth yw'r 10 y cant sy'n weddill o'r incwm difidend. O'i roi fel arall, mae'r credyd treth yn cynrychioli 10 y cant o'r 'incwm difidend'.
Incwm difidend sydd ar y gyfradd dreth sylfaenol o £34,800 neu sy'n is na'r terfyn hwnnw
|
Difidend a delir i chi (yn cynrychioli 90% o'r incwm difidend) |
Credyd treth (10 y cant o'r incwm difidend) |
Incwm difidend (difidend a dalwyd ynghyd â chredyd treth) |
|---|---|---|
| £63 | £7 | £70 |
| £54 | £6 | £60 |
| £90 | £10 | £100 |
Does dim treth i'w thalu ar eich incwm difidend oherwydd yr atebolrwydd treth yw 10 y cant - yr un maint â'r credyd treth - fel a ddangosir yn y tablau.
Rydych yn talu cyfanswm o 32.5 y cant o dreth ar incwm difidend sydd uwchben y terfyn ar gyfer y gyfradd Dreth Incwm sylfaenol (£34,800 ar gyfer blwyddyn dreth 2008-2009). Ond oherwydd bod 10 y cant cyntaf y dreth sy'n ddyledus ar eich incwm difidend eisoes wedi'i gyflenwi gan y credyd treth, dim ond 22.5 y cant sydd arnoch chi mewn gwirionedd.
Dylid cofio bod incwm difidend, fel incwm o enillion, yn cael ei drethu ar ôl eich incwm nad yw’n dod o’ch cynilion - er enghraifft, cyflogau ac elw hunangyflogaeth - ar eich cyfradd dreth uchaf. Os bydd yn disgyn y naill ochr i derfyn y dreth gyfradd uwch o £34,800, bydd yn cael ei drethu'n rhannol ar 10 y cant (a'i gyflenwi gan y credyd treth) ac yn rhannol ar 32.5 y cant (llai 10 y cant credyd treth).
Na. Chewch chi ddim hawlio'r credyd treth o 10 y cant, hyd yn oed os yw eich incwm trethadwy'n llai na'ch Lwfans Personol a chithau ddim yn talu treth. Y rheswm yw nad oes Treth Incwm wedi'i didynnu o'r difidend a dalwyd ichi - yr unig beth yr ydych wedi'i gael yw credyd o 10 y cant yn erbyn unrhyw Dreth Incwm sy'n ddyledus.
Os ydych yn llenwi ffurflen dreth fel arfer, byddwch yn llenwi tri blwch:
Byddwch yn talu unrhyw dreth ychwanegol naill ai drwy Hunanasesiad neu drwy'r system Talu Wrth Ennill, yn ddibynu ar sut yr ydych yn talu treth fel arfer