Fel arfer, bydd 20 y cant o dreth wedi'i ddidynnu o'r llog ar gynilion cyn i chi ei dderbyn. Os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch (40 y cant), mae treth yn ddyledus gennych ar y gwahaniaeth. Os oes gennych incwm isel, efallai y gallech hawlio treth yn ôl.
Caiff incwm cynilion ei ychwanegu at eich incwm arall a'i drethu ar ôl ystyried eich lwfansau, fel a ganlyn:
Bydd incwm cynilion y rhan fwyaf o bobl yn parhau i fod yn drethadwy ar 20 y cant (a 40 y cant i drethdalwyr cyfradd uwch), ond gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau personol, bydd incwm cynilion rhai unigolion yn drethadwy ar 10 y cant.
Mae Cyllid a Thollau EM wedi cyhoeddi cyfarwyddyd manwl i egluro pryd y bydd gan rywun incwm cynilion yn drethadwy ar gyfradd ddechreuol 10 y cant ar gyfer cynilion.
Fel arfer, bydd 20 y cant o dreth wedi'i ddidynnu o incwm cynilion cyn i chi ei dderbyn. Caiff hyn ei gadarnhau gan y cofnod 'llog net' ar eich datganiad banc neu gymdeithas adeiladu.
Os yw'r cofnod yn dangos 'llog gros' yn unig - ac nid 'llog net' - nid oes treth wedi'i didynnu. Fel arfer, bydd rhaid i chi gofrestru i gael llog gros - i gael gwybod mwy am hyn, gweler 'Os nad ydych chi'n drethdalwr' yn yr adran isod.
Os yw eich lefel incwm yn golygu nad oes angen i chi dalu treth, gallwch lenwi ffurflen R85 i dderbyn llog heb dreth wedi'i ddidynnu. Os oes treth eisoes wedi'i dynnu oddi ar eich llog, efallai y gallech ei hawlio'n ôl.
Os yw'r gyfradd ddechreuol ar gyfer cynilion (10 y cant) yn berthnasol i chi
Caiff y gyfradd Treth Incwm a dalwch ar gynilion ei chyfrifo ar ôl ystyried unrhyw incwm ar wahân i gynilion. Felly, os yw eich incwm ar wahân i'ch cynilion yn llai na therfyn y gyfradd ddechreuol ar gyfer cynilion (£2,320) - neu os mai cynilion a buddsoddiannau yw eich unig ffynhonnell incwm - dylid trethu eich incwm cynilion ar y gyfradd ddechreuol o 10 y cant hyd at y terfyn.
Bydd eich llog wedi'i drethu ar 20 y cant, felly byddwch yn gallu hawlio rhywfaint o'r dreth yn ôl.
Os ydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol, does dim rhaid i chi wneud dim byd. Does dim treth ychwanegol yn ddyledus.
Os ydych chi'n drethdalwr cyfradd uwch, rhaid i chi adael i'ch Swyddfa Dreth wybod faint o log rydych chi wedi'i gael fel y gallant gasglu'r dreth ychwanegol sy'n ddyledus:
Yna, anfonir ffurflen P810 atoch i wirio faint o gynilion sydd gennych.
Beth bynnag yw eich band Treth Incwm presennol, os nad ydych chi fel arfer yn llenwi ffurflen dreth a bod newid sylweddol i'ch cynilion neu incwm arall, rhaid i chi gysylltu â'ch Swyddfa Dreth ar unwaith fel y gallant gyfrifo a oes angen i chi dalu mwy neu lai o dreth. Drwy gysylltu â hwy'n gynnar, gallwch:
Os ydych chi'n llenwi ffurflen dreth bydd angen i chi ddangos (ar gyfer eich cynilion banc/cymdeithas adeiladu gyda'i gilydd):
Mae tri blwch gwahanol ar gyfer y wybodaeth hon.
Hefyd, mae yna flwch ar wahân i'w lenwi ar gyfer unrhyw log a dderbyniwyd gennych heb dreth wedi'i didynnu.
Efallai y bydd eich banc/cymdeithas adeiladu'n anfon 'Tysytsgrif o Dreth a Ddidynnwyd' atoch neu ddatganiad yn cynnwys y wybodaeth hon ar ddiwedd pob blwyddyn dreth (Ebrill 5). Os oes angen un arnoch ond nad ydych wedi derbyn un, gofynnwch. Yn aml, gallwch hefyd gael y ffigurau sydd eu hangen arnoch o'ch llyfr cyfrif neu o'ch datganiadau cyfrif.
Os oes gennych chi gyfrif ar y cyd gyda gŵr, gwraig neu bartner sifil, dylech ddatgan bod hanner yr incwm yn eiddo i chi. Dylai'r hanner arall gyfrif tuag at eu hincwm nhw.
Mae llog o gynilion arian ISA yn ddi-dreth. O ganlyniad, ni chaiff dim treth ei didynnu yn y ffynhonnell.