Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cynilion a buddsoddiadau treth-effeithlon

Os ydych yn cynilo neu'n buddsoddi arian, fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu treth ar y llog neu'r incwm yr ydych yn ei gael, ond does dim rhaid talu treth gyda rhai mathau o gynilion a buddsoddiadau. Os ydych chi ar incwm isel, mae'n bosibl na fydd yn rhaid i chi dalu treth o gwbl.

ISAs (Cyfrifon Cynilo Unigol)

Cyfrifon cynilo a buddsoddi di-dreth yw Cyfrifon Cynilo Cenedlaethol (ISAs). Gallwch eu defnyddio i gynilo arian, neu i fuddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau. Allwch chi ddim rhoi mwy na £7,200 mewn ISA mewn un flwyddyn dreth.

Nid ydych yn talu treth ar y llog na'r difidendau o ISA a does dim Treth Enillion Cyfalaf (TEC) i'w thalu ar unrhyw elw o'r buddsoddiadau. Ond mae hyn yn golygu na allwch chi ddefnyddio colledion ar fuddsoddiadau ISA i ostwng y Dreth Enillion Cyfalaf ar elw o fuddsoddiadau y tu allan i'r ISA.

Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol

Mae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn cynnig ffordd gwbl ddiogel o gynilo a buddsoddi arian oherwydd caiff ei gefnogi gan y Trysorlys.

Mae'r cynnyrch buddsoddi a chynilo di-dreth a gynigir ar hyn o bryd gan Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn cynnwys:

  • Mini ISA arian - ar gyfer cynilwyr 16 oed a throsodd
  • Tystysgrifau Cynilo Mynegrifol a Chyfradd Sefydlog - ar gyfer cynilwyr saith oed a throsodd
  • Bondiau Bonws Plant - gellir eu buddsoddi am bum mlynedd ar ran plant o dan 16 oed

Mae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn cynnig Bondiau Premiwm hefyd. Os ydych yn prynu Bondiau Premiwm, fyddwch chi ddim yn cael llog, ond gallwch ennill gwobrau di-dreth.

Cronfa Ymddiriedolaeth Plant

Os ganed eich plentyn ar neu ar ôl 1 Medi 2002 ac yn gymwys i gael Budd-dal Plant, byddwch yn cael taleb £250 gan y llywodraeth – a thaliad ychwanegol o £250 os yw eich incwm o dan lefel arbennig - i sefydlu cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Unwaith ichi sefydlu'r gronfa, gall rhieni, teulu a ffrindiau ychwanegu hyd at £1,200 i'r cyfrif bob blwyddyn.

Does dim treth i'w thalu ar incwm o'r cronfeydd hyn nac ar unrhyw elw a wneir hyd nes y bydd eich plentyn yn cyrraedd 18 oed.

Llog di-dreth ar gyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu

Mae banciau a chymdeithasau adeiladu fel arfer yn tynnu treth o'r llog ar gyfradd o 20 y cant cyn iddynt ei dalu i chi. Ond os yw eich incwm trethadwy yn llai na'ch lwfansau treth gallwch gofrestru i gael eich llog wedi'i dalu'n 'gros' (heb i dreth gael ei didynnu). Os ydych o dan 16 oed, bydd rhaid i'ch rhiant neu warcheidwad gofrestru ar eich rhan. Gallwch hefyd hawlio'r dreth yr ydych wedi'i thalu ar eich cynilion yn ôl.

Dilynwch y dolenni isod i weld y manylion a'r camau nesaf.

Gostyngiad treth ar gynilion pensiwn

Mae'r llywodraeth yn eich annog i gynilo ar gyfer eich ymddeoliad trwy roi 'gostyngiad treth' ichi ar gyfraniadau pensiwn. Mae gostyngiad treth yn lleihau eich bil treth neu'n cynyddu eich cronfa bensiwn.

Pan fyddwch yn ymddeol, gallwch fel arfer gymryd hyd at 25 y cant o'ch cronfa bensiwn fel un taliad di-dreth. Mae eich incwm pensiwn rheolaidd wedyn yn cael ei drethu yn yr un ffordd â gweddill eich incwm.

Gyda'r cyfreithiau pensiwn newydd sy'n dod i rym ym mis Ebrill 2006 byddwch yn gallu cynilo faint a fynnoch mewn unrhyw nifer o bensiynau - a chael gostyngiad treth ar gyfraniadau o hyd at 100 y cant o'ch enillion bob blwyddyn, yn amodol ar 'Lwfans Blynyddol' uchaf. (Bydd rhaid talu treth ar gynilion dros 'Lwfans Oes' ar wahân.) Darllenwch ein herthygl gysylltiedig i gael mwy o fanylion.

Allweddumynediad llywodraeth y DU