Os bydd cyfanswm eich enillion (elw) uwchben lefel arbennig pan fyddwch yn cael gwared ar asedau, gan gynnwys cyfranddaliadau, efallai y bydd yn rhaid ichi dalu Treth Enillion Cyfalaf (TEC). Mae rheolau arbennig yn berthnasol ar gyfer pennu cyfranddaliadau a brynwyd yn yr un cwmni ar adegau gwahanol - i sicrhau eich bod yn cyfrifo'r golled neu'r elw cywir.
Bydd yr angen i dalu TEC neu beidio pan fyddwch yn cael gwared ar gyfranddaliadau'n dibynnu ar gyfanswm eich enillion am y flwyddyn dreth. Mae hwn yn cynnwys yr elw ar y cyfranddaliadau a'r elw ar gael gwared ar unrhyw asedau eraill sy'n denu TEC.
Codir TEC ar gyfanswm yr enillion ar ôl:
Mae hyn yn dibynnu ar eich incwm cyffredinol.
I gael gwybod sut i gyfrifo TEC, gan gynnwys enghreifftiau ac i weld ar ba asedau eraill y mae'n rhaid talu TEC, darllenwch ein herthygl gysylltiedig.
Mae cyfranddaliadau'n wahanol i'r rhan fwyaf o asedau eraill sy'n denu TEC oherwydd nad oes modd adnabod pob cyfranddaliad yn unigol. Efallai y byddwch yn prynu cyfranddaliadau o'r un dosbarth mewn un cwmni ar wahanol adegau ac am wahanol brisiau. O ganlyniad, rhaid ichi ddefnyddio rheolau arbennig ar gyfer cyfrifo eu cost caffael at ddibenion TEC.
Mae rheolau TEC arbennig ar gyfer cyfranddaliadau sy'n cael eu prynu neu eu derbyn trwy gynllun cyfranddaliadau gweithwyr. Mae cynlluniau cymeradwy Cyllid a Thollau EM, megis Cynlluniau Cymhellion Cyfranddaliadau, cynlluniau Cynilo Wrth Ennill cymeradwy, Cynlluniau Opsiwn i Brynu Cyfranddaliadau mewn Cwmni a Chymhellion Rheoli Mentrau yn cynnig manteision treth.
Os dilynwch y rheolau, efallai na fyddwch yn talu TEC neu'n talu llai pan fyddwch yn gwerthu'r cyfranddaliadau.
Os ydych yn llenwi ffurflen dreth Hunasesiad fel arfer
Os na ddywedwch wrth eich Swyddfa Dreth am enillion y dylid eu cynnwys ar eich ffurflen dreth, efallai y byddwch yn wynebu cosbau ariannol a/neu achos llys.
Os nad ydych yn llenwi ffurflen dreth fel arfer ond bod Treth Enillion Cyfalaf yn daladwy
Does dim rhaid ichi dalu TEC os ydych yn gwerthu neu'n rhoi cyfranddaliadau i'ch partner priod a chithau'n briod yn gyfreithlon neu mewn partneriaeth sifil ac yn byw gyda'ch gilydd. Ond os ydynt hwy'n rhoi neu'n gwerthu'r cyfranddaliadau'n ddiweddarach, efallai y bydd yn rhaid iddynt dalu TEC ar yr elw - yn seiliedig ar yr hyn y taloch chi amdanynt yn wreiddiol.
Does dim gostyngiad arbennig os ydych yn gwerthu neu'n rhoi cyfranddaliadau i'ch plant.
Os ydych yn rhoi cyfranddaliadau i ffwrdd - fel nad ydych yn cael dim byd amdanynt - mae eich enillion yn seiliedig ar eu gwerth. Mae'r un peth yn wir pan fyddwch yn eu gwerthu am lai na'u gwerth llawn. Felly mae'n rhaid ichi gyfrifo'r enillion yn seiliedig ar werth llawn y cyfranddaliadau pan roesoch hwy i ffwrdd.