Os ydych chi'n prynu eiddo yn y DU dros bris penodol, bydd rhaid i chi dalu Treth Stamp ar Dir. Caiff ei godi wrth brynu unrhyw dai, fflatiau ac adeiladau a thir arall.
Daeth Treth Stamp ar Dir i gymryd lle'r Dreth Stamp ym mis Rhagfyr 2003 ac mae'n dreth ar brynu tir ac adeiladau. Pan fyddwch yn prynu eiddo, mae'n bosibl y bydd rhaid i chi dalu Treth Stamp ar Dir.
Cyflwynwyd trothwyon newydd ar 3 Medi 2008, sy'n golygu os prynwch eiddo a bod y pris prynu yn £175,000 neu lai, does dim rhaid i chi dalu unrhyw Dreth Stamp ar Dir.
Os yw'r pris yn fwy na £175,000, byddwch yn talu rhwng un a phedwar y cant o'r pris prynu llawn. Y trothwy blaenorol ar gyfer cyfradd gychwynnol Treth Stamp ar Dir oedd £125,000.
| Pris prynu eiddo preswyl | Cyfradd Treth Stamp ar Dir (canran o gyfanswm y pris prynu) |
|---|---|
| £0 - £175,000 (tan 2 Medi 2009 ac yn cynnwys y dyddiad hwnnw) | 0% |
| £175,001 - £250,000 | 1% |
| £250,001 - £500,000 | 3% |
| £500,001 neu fwy | 4% |
Gallwch wirio cyfraddau presennol Treth Stamp ar Dir ar wefan Cyllid a Thollau EM.
Ni fydd y Gostyngiad Ardaloedd Difreintiedig (lle bydd trothwy Treth Stamp ar Dir eiddo a brynir mewn ardaloedd sy'n 'ddifreintiedig' yn ôl y llywodraeth yn uwch nag eiddo arall) yn berthnasol i brynu eiddo rhwng 3 Medi 2008 a 2 Medi 2009, gan gynnwys y dyddiadau hyn.
Yn hytrach, bydd trothwy Treth Stamp ar Dir yr un fath ag ar gyfer pob eiddo preswyl arall, fel y dangosir uchod. Mae'r trothwy newydd yn uwch na trothwy blaenorol y Gostyngiad Ardaloedd Difreintiedig, sef £150,000.
Gallwch edrych ar wefan Cyllid a Thollau EM i weld os yw'r eiddo rydych chi'n ei brynu mewn ardal ddifreintiedig; fodd bynnag, cofiwch na fydd y Gostyngiad Ardaloedd Difreintiedig yn berthnasol o 3 Medi 2008 ymlaen, fel y disgrifir uchod.
(Bydd angen i chi sgrolio i lawr i ddefnyddio'r cyfleuster chwilio am god post).
Rhaid i gartref carbon sero fod yn 'garbon sero' dros gyfnod o flwyddyn. Gall y tŷ fod wedi'i gysylltu â'r prif gyflenwadau trydan a nwy, ond mae angen iddo fod â digon o bŵer adnewyddadwy ychwanegol i bweru defnydd cyfartalog tŷ mewn blwyddyn.
Er mwyn cyflawni hyn, bydd angen insiwleiddio ffabrig yr adeilad a'i adeiladu at safonau uchel iawn, a bydd angen i'r tŷ ddefnyddio technolegau ynni adnewyddadwy.
Cyhoeddodd Cyllideb 2007 y byddai gostyngiadau Treth Stamp ar Dir ar gyfer cartrefi carbon sero yn cael eu cyflwyno o 1 Hydref 2007 ymlaen. Bydd pob tŷ cymwys dan £500,000 wedi'i eithrio, a bydd bil Treth Stamp ar Dir tai dros £500,000 yn cael ei leihau £15,000.
Fel prynwr yr eiddo, chi sy'n gyfrifol am gwblhau ffurflen prynu a gwerthu'r tir a thalu'r Dreth Stamp ar Dir.
Ond, yn ymarferol, eich cyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig fydd yn gwneud hyn ichi fel arfer a'i anfon at Gyllid a Thollau EM ar eich rhan.
Dylech sicrhau bod y wybodaeth ar y ffurflen yn gywir ac yn gyflawn cyn llofnodi'r datganiad.