Mae gosod eiddo preswyl yn cael ei drin fel un busnes, hyd yn oed os ydych yn gosod mwy nag un eiddo. Os ydych yn gosod sawl eiddo, gallwch osod y colledion o un eiddo yn erbyn elw o un arall. Byddwch yn talu treth ar unrhyw elw fel rhan o'ch incwm cyffredinol.
Mae 'gosod eiddo preswyl' yn cyfeirio at eiddo yr ydych yn ei osod i bobl fyw ynddo fel eu cartref. At ddibenion treth maent yn cael eu hystyried yn wahanol i osod llety gwyliau sydd wedi'i ddodrefnu yn y DU.
Os byddwch yn gosod rhan o'ch cartref eich hun gellir ystyried hyn hefyd yn osod eiddo preswyl, ond gallwch fanteisio ar y cynllun 'Rhentu Ystafell'. Mae hyn yn gadael i chi gael incwm di-dreth o hyd at £4,250 o osod ystafelloedd yn eich cartref.
Cam un
Rydych yn cyfrifo'ch 'elw net' fel a ganlyn:
Os ydych yn gosod mwy nag un eiddo preswyl, rydych yn grwpio'r holl incwm a ffigurau'r holl gostau gyda'i gilydd.
I gyrraedd eich elw trethadwy, didynnwch unrhyw lwfansau y mae gennych hawl iddynt o'ch elw net:
Os ydych yn gosod eiddo wedi'i ddodrefnu, gallwch ddidynnu naill ai:
Hefyd, efallai y gallwch ddidynnu rhai lwfansau 'cyfalaf' ar gyfer cost offer sy'n gysylltiedig yn fwy cyffredinol â'ch busnes gosod - edrychwch ar y manylion yn ein herthygl gysylltiedig.
Os ydych yn gyflogedig, neu'n cael eich pensiwn trwy TWE a bod eich incwm trethadwy o osod eiddo yn llai na £2,500, gellir addasu eich cod treth TWE (PAYE) er mwyn casglu'r dreth ar eich incwm rhent bob blwyddyn. Gofynnwch i'ch Swyddfa Dreth anfon ffurflen P810 atoch i roi gwybod iddynt beth yw eich incwm bob blwyddyn. Mae manylion cysylltu eich Swyddfa Dreth ar eich slipiau cyflog neu gellir eu cael ar-lein.
Yn yr achos hwn, bydd rhaid ichi lenwi ffurflen dreth Hunanasesiad (efallai eich bod yn gwneud hyn eisoes, os na, cysylltwch â'ch Swyddfa Dreth).
Os yw eich incwm trethadwy o rent yn £15,000 neu fwy mewn blwyddyn dreth, rhaid ichi ei ddatgan ar dudalennau tir ac eiddo y ffurflen dreth Hunanasesiad lawn. Os yw o dan £15,000 efallai y gallwch lenwi'r ffurflen dreth bedair tudalen fyrrach.
Pan fyddwch yn llenwi'ch ffurflen dreth, cofnodwch y rhenti a'r costau ar gyfer y flwyddyn y maent yn berthnasol iddi - nid oes ots pryd yn union yr ydych yn eu derbyn a'u talu.
Mae gan y ddau fath o ffurflen nodiadau cymorth (gallwch lwytho'r rhain ar gyfer y ffurflen dreth lawn isod).
Os ydych yn llenwi'r ffurflen dreth lawn, mae'n gynt ac yn haws ei ffeilio ar-lein. Mae'r ffigurau y byddwch yn eu cofnodi'n cael eu hadio'n awtomatig. Mae'r dyddiadau cau ar gyfer ffeilio'ch ffurflen yn fwy hael hefyd os nad ydych eisiau cyfrifo'ch bil treth eich hun.
Mae eich elw trethadwy o osod eiddo'n cael ei ychwanegu at eich incwm cyffredinol. Os yw hyn yn fwy na'ch lwfansau treth, byddwch yn talu treth arno yn ôl eich cyfraddau Treth Incwm arferol.
Os ydych yn gosod eiddo gyda rhywun arall, pan fyddwch yn llenwi'ch ffurflenni treth, neu ffurflenni P810, dylai'r ddau ohonoch ddangos eich cyfran o'r:
Mae'r nodiadau cymorth ar gyfer eich ffurflen dreth yn esbonio sut i wneud hyn.
Bydd rhaid ichi gadw cofnodion o'ch busnes gosod eiddo am chwe blynedd ar ôl y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddi. Bydd eu hangen arnoch i ategu'r ffigurau y byddwch yn eu rhoi ar eich ffurflen dreth. Dylai'ch cofnodion gynnwys manylion: