Os yw'ch pensiwn yn dod o gynllun pensiwn a sefydlwyd cyn Gorffennaf 1988 fe'i gelwir yn 'flwydd-dal ymddeol'. Telir blwydd-daliadau ymddeol o Gontractau Blwydd-daliadau Ymddeol. Ar ôl Gorffennaf 1988 disodlwyd blwydd-daliadau ymddeol gan bensiynau personol, ond gall y rheini a ddechreuwyd cyn y dyddiad hwnnw barhau nes bydd yr unigolyn yn ymddeol
Cyn 5 Ebrill 2007 câi pob blwydd-dal ymddeol ei dalu gyda'r dreth wedi'i thynnu ar y gyfradd sylfaenol oni bai i chi lenwi ffurflen R89 'Cais i gael blwydd-dal heb dynnu treth' gan nad oedd gennych ddigon o incwm i orfod talu treth.
Erbyn hyn, dim ond i Flwydd-dal Oes a Brynwyd y mae'r system hon yn berthnasol, nid i Gontractau Blwydd-daliadau Ymddeol. Mae Blwydd-daliadau Oes a Brynwyd yn talu incwm wedi'i warantu am oes a gellir eu prynu ag arian o unrhyw ffynhonnell, nid incwm pensiwn yn unig.
Ar 6 Ebrill 2007, newidiodd y system. Bellach, trethir pob blwydd-dal ymddeol - heblaw am Flwydd-daliadau Oes a Brynwyd - drwy'r system Talu Wrth Ennill, yn union fel pensiynau personol neu bensiynau cwmni.
Sut mae'r system Talu Wrth Ennill yn gweithio os cewch flwydd-dal ymddeol
Bydd eich Swyddfa Dreth yn anfon cod treth i ddarparwr eich blwydd-dal, a fydd yn dweud wrthynt faint o dreth i'w thynnu cyn iddynt eich talu. Bydd y cod treth yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd gan Gyllid a Thollau EM am eich oed ac am eich incwm cyffredinol - ac fe allai ofyn am dynnu treth sy'n ddyledus ar eich Pensiwn gan y Wladwriaeth os nad ydych eisoes yn talu treth ar hyn mewn ffordd arall.
Cewch ffurflen Hysbysiad Cod P2 Talu Wrth Ennill yn dweud wrthych beth yw eich cod treth. Mae'n bwysig i chi gymryd golwg ar y ffurflen i wneud yn siŵr ei bod yn gywir - os ydych chi'n meddwl bod unrhyw ran o'r wybodaeth yn anghywir gallwch ofyn i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi edrych arni eto a chewch ad-daliad os ydych wedi talu gormod o dreth. Darllenwch erthyglau perthnasol dan 'Mwy o ddolenni defnyddiol' isod i gael gwybod mwy.
Ffurflen P60
Ar ddiwedd y flwyddyn dreth cewch Dystysgrif Diwedd Blwyddyn P60. Bydd hon yn dangos swm eich blwydd-dal a'r dreth a dynnwyd. Mae blwyddyn dreth yn mynd o 6 Ebrill un flwyddyn i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol. Cadwch y P60 mewn man diogel rhag ofn y bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth neu edrych faint o dreth yr ydych wedi'i thalu.
Os ydych chi'n bryderus eich bod wedi talu neu yn talu'r swm treth anghywir ar Gontract Blwydd-dal Ymddeol, gallwch ffonio Llinell Gymorth Cyllid a Thollau EM ar gyfer Contractau Blwydd-daliadau Ymddeol ar 0845 366 7868, sydd ar agor rhwng 8.30 am a 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Pan fyddwch yn ffonio'r llinell gymorth dylai'r wybodaeth ganlynol fod wrth law gennych:
Os byddai'n well gennych ysgrifennu i Gyllid a Thollau EM, dyma'r cyfeiriad:
HM Revenue & Customs (HMRC) RACS
Leicester and Northants LPO
Saxon House
1 Causeway Lane
Leicester
LE1 4AE
Ar ôl i chi gysylltu â hwy efallai y gofynnir i chi lenwi ffurflen P161 'Ymholiad Pensiwn'. Bydd y ffurflen hon yn eu helpu i benderfynu sut i drethu eich incwm - gan gynnwys yr incwm a gewch o'ch blwydd-daliadau.
Mae Cyllid a Thollau EM hefyd yn cynnig Cymorth i Bensiynwyr. Ymgynghoriad un-i-un gyda chi yn eich Swyddfa Dreth yw hyn - neu gallant drefnu i ddod draw i'ch cartref os oes angen. Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio'r gwasanaeth hwn ffoniwch y Llinell Gymorth ar gyfer Contractau Blwydd-daliadau Ymddeol ar 0845 366 7868.
Os ydych chi wedi bod yn talu gormod o dreth gallwch hawlio ad-daliad treth am hyd at chwe blwyddyn dreth cyn belled â'ch bod yn gwneud yr hawliad erbyn 31 Ionawr tua diwedd y chweched blwyddyn dreth.
Er enghraifft, os byddwch yn gwneud hawliad cyn 31 Ionawr 2009, bydd gennych hawl i gael ad-daliad o Ebrill 2003 ymlaen. Os byddwch yn hawlio ar 1 Chwefror 2009, ni chewch ddim ad-daliad sy'n ddyledus i chi hyd at Ebrill 2003, a dim ond yn ôl i Ebrill 2004 y bydd eich cais yn mynd.
Sut y bydd eich ad-daliad treth yn cael ei dalu
Ar gyfer hawliadau am dreth a or-dalwyd ar ôl Ebrill 2007, cewch eich ad-daliad drwy'r system Talu Wrth Ennill. Ar gyfer hawliadau am dreth a dalwyd iddynt cyn Ebrill 2007 bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon ad-daliad i chi. Cofiwch, efallai y bydd angen i chi anfon eich cyfriflenni blynyddol er mwyn iddynt allu cyfrifo faint sy'n ddyledus i chi
Os ydych chi'n cael Blwydd-dal Oes a Brynwyd mae'n debyg y bydd yn cael ei dalu i chi ar ôl i'r dreth gael ei thynnu ohono ar y gyfradd sylfaenol. Os nad ydych chi'n meddwl y dylech fod yn talu treth arno - neu os ydych yn meddwl y dylech fod yn talu llai o dreth - oherwydd eich bod ar incwm isel, bydd angen i chi lenwi ffurflen R89.
Gallwch gael ffurflen R89 gan y darparwr sy'n talu eich blwydd-dal neu drwy lwytho un isod. Pan fyddwch wedi'i llenwi, dylech ei hanfon at ddarparwr eich blwydd-dal.