Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Treth ar bensiwn y byddwch yn ei drosglwyddo neu'n ei etifeddu

Os ydych chi'n dymuno cynnwys pensiwn yn eich ewyllys, neu os cewch bensiwn gan rywun sydd wedi marw, efallai y bydd angen talu treth, ac efallai ddim. Mae'n dibynnu ar yr amgylchiadau unigol ac ar y math o bensiwn neu bensiynau.

Budd-daliadau Marwolaeth o Bensiwn y Wladwriaeth

Dim ond i chi y caiff Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth ei dalu, ac ni ellir fel arfer ei drosglwyddo i rywun arall pan fyddwch chi'n marw. Ond, os dewisoch ohirio cael eich Pensiwn gan y Wladwriaeth ar ôl cyrraedd yr oed priodol, efallai y bydd gan eich partner neu’ch teulu hawl i rai o fuddion eich Pensiwn gan y Wladwriaeth.

Os ydych chi wedi cyfrannu at Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth - Cynllun Pensiwn ar Sail Enillion y Wladwriaeth neu Ail Bensiwn y Wladwriaeth yn flaenorol - gall eich gŵr/gwraig neu eich partner sifil gael rhywfaint o'r pensiwn ychwanegol hwn ar ôl i chi farw.

Treth os byddwch yn trosglwyddo Pensiwn y Wladwriaeth/Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth

Os byddwch yn trosglwyddo Pensiwn y Wladwriaeth neu Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth, ni cheir canlyniadau o safbwynt y Dreth Etifeddu.

Treth ar fudd-daliadau marwolaeth a gafwyd o Bensiwn y Wladwriaeth/Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth

Bydd unrhyw incwm o bensiwn a gewch gan rywun sydd wedi marw yn cael ei gyfrifo fel rhan o'ch incwm trethadwy ar ôl ymddeol.

Budd-daliadau marwolaeth o bensiwn cwmni, pensiwn personol neu bensiwn cyfranddeiliaid

Yn dibynnu ar reolau'ch pensiwn, mae'n bosibl y bydd nifer o fuddion yn daladwy pan fyddwch yn marw, gan gynnwys:

  • cael eich cyfraniadau yn ôl
  • cyfandaliad
  • pensiwn ar gyfer eich gŵr/gwraig , partner sifil neu ddibynnydd arall

Os oes cyfandaliad i'w dalu ac nad ydych yn enwi rhywun i'w gael pan fyddwch yn marw bydd yn dod yn rhan o'ch ystad ac efallai y bydd angen talu Treth Etifeddu arno. Ceir crynodeb o enghreifftiau eraill o atebolrwydd treth isod.

Treth ar fudd-daliadau marwolaeth o bensiwn cwmni

Os byddwch yn marw cyn dechrau cael eich pensiwn cwmni

Mae'r rhan fwyaf o bensiynau cwmni yn darparu budd 'Marwolaeth mewn Gwaith', sy'n debyg i bolisi aswiriant bywyd. Mae hyn yn golygu, os byddwch yn marw cyn i chi ddechrau cael eich pensiwn cwmni, y telir cyfandaliad i unigolyn o'ch dewis (a elwir yn 'fuddiolwr').

Gellir talu'r arian heb dynnu Treth Incwm ohono os nad yw'n hwy na'r 'Lwfans Oes' sydd ar gael i ddeilydd y pensiwn (£1.65 miliwn ym mlwyddyn dreth 2008 -09).

Codir treth Lwfans Oes o 55 y cant ar unrhyw swm uwchben y Lwfans Oes. Y buddiolwr fydd yn talu'r dreth hon.

Gall budd-daliadau marwolaeth gael eu darparu hefyd ar ffurf pensiynau dibynyddion y gellir eu talu os byddwch yn marw yn ystod eich gwasanaeth. Mae unrhyw incwm pensiwn o'r fath yn cyfrif fel incwm trethadwy i'r buddiolwr.

Treth ar fudd-daliadau marwolaeth o bensiwn personol neu bensiwn cyfranddeiliaid

Os byddwch yn marw cyn i chi fod yn 75 oed a chyn cymryd unrhyw fudd-daliadau

Os byddwch yn marw cyn eich bod yn 75 oed a chyn cymryd unrhyw fudd-daliadau, yn gyffredinol, telir y budd-daliadau marwolaeth fel cyfandaliad fel arfer, a hwnnw fel arfer yn cynnwys adenillion y gronfa bensiwn ynghyd ag enillion o unrhyw aswiriant bywyd.

Os yw swm y cyfandaliad a delir yn uwch na'r Lwfans Oes (£1.65 miliwn ym mlwyddyn dreth 2008-09) trethir y swm sy'n weddill ar gyfradd o 55 y cant ac mae'n rhaid i'r buddiolwr dalu hyn.

Hefyd, yn hytrach na chymryd budd-daliadau marwolaeth fel cyfandaliad, gellir eu defnyddio i ddarparu pensiwn i ddibynyddion. Os darperir pensiwn i ddibynnydd mae hyn yn cyfrif fel incwm trethadwy ar gyfer y dibynnydd hwnnw.

Os byddwch yn marw cyn i chi fod yn 75 oed ond ar ôl cael budd-daliadau

Os byddwch yn marw cyn i chi fod yn 75 oed ond ar ôl cael budd-daliadau, byddai unrhyw fudd-daliadau marwolaeth a delir fel incwm pensiwn i ddibynnydd yn cael eu trethu fel incwm yn y ffordd arferol.

Os oedd y cynllun pensiwn yn darparu ar gyfer cyfandaliad byddai'n rhaid i weinyddwr y cynllun dalu cyfradd arbennig Treth Incwm ar gyfandaliad budd-dal marwolaeth, sy'n 35 y cant, fel y crybwyllwyd uchod.

Os byddwch yn marw ar ôl dechrau cael eich pensiwn personol, ond pan fyddwch yn 75 oed neu'n hŷn

Os prynir blwydd-dal sy'n darparu ar gyfer pensiwn dibynnydd, bydd hyn yn cael ei drethu fel incwm yn y ffordd arferol.
O ran treth yng nghyswllt Pensiynau wedi'u Sicrhau, edrychwch ar yr adran isod.

Treth ar fudd-daliadau marwolaeth o 'Bensiynau wedi'u Sicrhau mewn Ffordd Arall'

Mae Pensiynau wedi'u Sicrhau mewn Ffordd Arall wedi bod ar gael er 6 Ebrill 2006 fel dewis arall i brynu blwydd-dal erbyn i chi fod yn 75 oed. Yn awr, yn hytrach na phrynu blwydd-dal yn 75 oed, gallwch barhau i fuddsoddi eich cynilion pensiwn a chael incwm o'ch cronfa o fewn terfynau penodol y cytunwyd arnynt fel rhan o delerau Pensiynau wedi'u Sicrhau mewn Ffordd Arall.

Mae'r incwm hwn yn drethadwy fel incwm pensiwn yn y ffordd arferol.

Ar gyfer marwolaethau ar 6 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny, fel arfer, nid oes angen talu treth ar unrhyw gronfeydd Pensiynau wedi'u Sicrhau mewn Ffordd Arall sy'n weddill os ydynt yn cael eu defnyddio i ddarparu pensiwn i ddibynyddion neu os ydynt yn cael eu rhoi i elusen gan nad oes dim dibynyddion. Fodd bynnag, byddai Treth Incwm yn cael ei thynnu o bensiwn y dibynnydd yn y ffordd arferol.

Ond, os bydd unrhyw un o'r cronfeydd hynny'n cael eu defnyddio at ddibenion etifeddiaeth (er enghraifft, i drosglwyddo cyfalaf nad yw wedi cael ei ddefnyddio i aelodau eraill o'r cynllun, megis plant neu wyrion/wyresau, ar ôl y farwolaeth) rhaid talu Treth Incwm o hyd at 70 y cant. Caiff rhywfaint o hwn ei dalu gan yr unigolyn a fydd yn 'etifeddu' yr arian a rhywfaint gan weinyddwr y cynllun. Mae'n bosib y bydd angen tynnu Treth Etifeddu oddi ar yr arian hefyd.

Cyfrifir unrhyw Dreth Etifeddu a godir ar ôl i'r band dim treth gael ei osod yn erbyn ystad yr ymadawedig, heblaw am arian o Bensiynau wedi'u Sicrhau mewn Ffordd Arall. Mewn achosion lle mae swm o'r band dim treth ar gael i'w dynnu o arian Pensiynau wedi'u Sicrhau mewn Ffordd Arall, bydd rheolau Treth Etifeddu arbennig yn berthnasol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU