Os yw eich materion treth yn gymharol syml a'ch bod eisoes yn talu treth drwy Dalu Wrth Ennill (PAYE) mae'n debyg na fydd angen i chi lenwi ffurflen dreth. Ond os yw eich materion treth yn fwy cymhleth - neu os byddwch yn cael incwm o sawl ffynhonnell - efallai y bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen dreth.
Cofiwch, os oes gennych chi unrhyw incwm nad yw'n cael ei drethu yn y ffynhonnell, er enghraifft, rhenti neu enillion llawrydd, efallai y bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen dreth.
Gweithwyr a phensiynwyr gyda materion treth mwy cymhleth
Bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth:
Os ydych yn 65 oed neu'n hŷn, efallai y bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn gofyn i chi lenwi ffurflen dreth er mwyn iddynt allu cyfrifo faint o Lwfans Personol uwch neu Lwfans Pâr Priod y dylech ei gael.
Ceir gwahanol fathau o ffurflenni a thudalennau atodol ar gyfer gwahanol ffurflenni treth - er enghraifft, ceir ffurflenni ar gyfer unigolion a chyfarwyddwyr, partneriaethau ac ymddiriedolaethau. Bydd y ffurflen a'r tudalennau atodol y mae'n bosib y bydd angen i chi eu llenwi yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Dyma rai newidiadau arferol a allai olygu y bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth am y tro cyntaf fel unigolyn:
Os yw'n debygol y bydd angen i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf am flwyddyn dreth ac nad ydych wedi cael rhybudd i lenwi ffurflen dreth ar gyfer y flwyddyn honno dylech ofyn am un (gweler 'Sut i gael ffurflen dreth' isod).
Dylech ddweud wrth Gyllid a Thollau EM erbyn 5 Hydref ar ôl y flwyddyn dreth er mwyn osgoi cosb am fethu rhoi gwybod ei bod yn bosibl bod angen i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf. (Gweler 'Enillion cyfalaf a ffurflenni treth' isod).
Os ydych wedi cael rhybudd i lenwi ffurflen dreth ar gyfer 2007/08 bydd angen i chi lenwi'r tudalennau Crynodeb Enillion Cyfalaf, os yw'r canlynol yn wir am y flwyddyn dreth honno:
Wrth gyfrifo a oedd yr asedau a wariwyd yn werth mwy na £36,800 dylech ddefnyddio gwerth marchnad unrhyw asedau a roddwyd neu a werthwyd gennych am lai na'u gwerth llawn ac anwybyddu'r canlynol:
cael gwared ar eich cartref eich hun os yw'r canlynol yn wir:
Wrth gyfrifo eich cyfanswm, bydd eich enillion trethadwy yn cynnwys unrhyw enillion a briodolwyd i chi (er enghraifft, oherwydd eich bod yn setlwr neu'n fuddiolwr ymddiriedolaeth, neu mewn rhai achosion lle rydych yn aelod o gwmni di-breswyl).
Os nad ydych â'ch domisil yn y DU ac y gellir eich trethu ar sail taliadau, wrth nodi'r terfynau uwch yng nghyswllt asedau tramor, dylech gynnwys yr enillion a ddaeth yn ôl i'r DU yn y flwyddyn dreth.
Os nad ydych wedi derbyn ffurflen dreth ond yn teimlo y dylech fod yn llenwi un, cysylltwch â'ch Swyddfa Dreth. Cewch y manylion gan eich cyflogwr neu'ch darparwr pensiwn, neu gallwch chwilio ar-lein.
Gallwch ofyn am ffurflen dreth unrhyw bryd - er enghraifft, os ydych eisiau hawlio gostyngiad neu eithriad treth neilltuol. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai yr anfonir ffurflen dreth bedair tudalen fer atoch, neu ffurflen lawn. Gallwch lenwi'r ffurflen dreth lawn ar-lein.
Oes - hyd yn oed os ydych yn talu'ch holl dreth drwy TWE. Mae rhesymau eraill weithiau dros roi ffurflen dreth, er enghraifft i ganfod a yw'r dreth gywir wedi'i thalu'n gyffredinol. Felly, os byddwch yn derbyn ffurflen dreth, rhaid ichi ei llenwi a'i dychwelyd hyd yn oed os ydych o'r farn nad oes rhagor o dreth i'w thalu.
Gallwch arbed amser a gwaith papur drwy ffeilio eich ffurflen dreth ar-lein. Fe gewch gydnabyddiaeth awtomatig, a chewch hefyd ganfod faint sy'n ddyledus gennych neu faint sy'n ddyledus i chi yn syth gan fod y ffigurau'n cael eu cyfrifo ar unwaith. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.