Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Eich ffurflen dreth - dyddiadau cau a chosbau

Yn ystod y flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill yn y flwyddyn ganlynol) ceir rhai dyddiadau allweddol sy'n nodi erbyn pryd y mae angen i chi anfon eich ffurflen dreth i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi a/neu wneud taliadau penodol. Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o'r dyddiadau hyn oherwydd gall Cyllid a Thollau EM roi cosbau a chodi taliadau ychwanegol os byddwch yn eu methu.

Cyflwyno ffurflenni treth Hunanasesu

Yn fuan ar ôl bob blwyddyn dreth newydd (6 Ebrill), bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon Rhybudd i gwblhau Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol i bawb y gwyddant sy'n gorfod llenwi ffurflen. Os byddwch yn dewis cyflwyno'ch ffurflen ar bapur, y Rhybudd Ffeilio ei hun yw'r ffurflen y mae angen i chi ei llenwi.

Os byddwch fel arfer yn cyflwyno'ch ffurflen ar-lein, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon llythyr atoch, sef 'Rhybudd Ffeilio', yn dweud wrthych am lenwi'r ffurflen ar-lein.

Eich ffurflen dreth - dyddiadau cau a chosbau am ei dychwelyd yn hwyr

31 Hydref: dychwelyd ffurflenni papur

Os anfonir rhybudd atoch i lenwi Ffurflen Dreth cyn neu ar 31 Gorffennaf a'ch bod am anfon ffurflen bapur rhaid i chi anfon y ffurflen wedi'i llenwi i Gyllid a Thollau EM erbyn 31 Hydref.

Os anfonir rhybudd atoch i lenwi ffurflen dreth ar ôl 31 Gorffennaf rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen dreth bapur wedi'i llenwi erbyn 31 Hydref ar yr hwyraf neu dri mis ar ôl dyddiad cyflwyno'r rhybudd.

Pan fydd ffurflenni papur yn cyrraedd Cyllid a Thollau EM erbyn y dyddiad hwn:

  • cyfrifir eich treth i chi (er y gallwch gyfrifo eich treth eich hun os ydych yn dymuno)
  • dywedir wrthych beth i'w dalu erbyn y 31 Ionawr dilynol
  • cesglir treth drwy eich cod treth (os yw'n bosib) os oes llai na £2,000 yn ddyledus gennych, oni fyddwch yn eu hysbysu'n wahanol

Os bydd y ffurflen dreth bapur yn cyrraedd ar ôl y dyddiad cau hwn, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb o £100 yn awtomatig.

(Os dychwelir ffurflenni treth Partneriaeth yn hwyr, bydd y partneriaid yn wynebu cosb o £100 yr un. Codir £100 ar yr ymddiriedolaeth neu ar yr ystad os bydd ffurflenni treth Ymddiriedolaethau ac Ystadau yn cael eu dychwelyd yn hwyr).

(Prin iawn yw'r achosion lle na ellir cyflwyno ffurflenni treth ar-lein. Yn yr achosion hyn rhaid i'r ffurflen dreth bapur gyrraedd Cyllid a Thollau EM erbyn 31 Ionawr fan bellaf. Gweler 'Dyddiadau cau ar gyfer ffurflenni treth na ellir eu hanfon ar-lein' isod).

30 Rhagfyr: ffurflenni treth ar-lein (i'r dreth gael ei chasglu drwy'ch cod treth)

Os byddwch yn anfon eich ffurflen dreth i Gyllid a Thollau EM ar-lein, rhaid i chi ei dychwelyd erbyn y dyddiad hwn os ydych am i Gyllid a Thollau EM gasglu'r dreth drwy eich cod treth (os yw hynny'n bosib) pan fydd llai na £2,000 yn ddyledus gennych. Fel arall, bydd gennych tan 31 Ionawr i'w dychwelyd.

31 Ionawr: ffurflenni ar-lein

Pan gyflwynir ffurflen dreth bapur neu rybudd i gwblhau ffurflen dreth cyn 31 Gorffennaf dyma'r dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ffurflen dreth ar-lein.

Pan gyflwynir ffurflen dreth bapur neu rybudd i gwblhau ffurflen dreth cyn 31 Gorffennaf y dyddiad ar gyfer ffeilio ar-lein yw'r mis olaf o'r tri mis ar ôl dyddiad cyflwyno'r ffurflen neu 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn asesu.

Os bydd y ffurflen dreth bapur yn cyrraedd ar ôl y dyddiad cau hwn, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb o £100 yn awtomatig.

(Hwn hefyd yw'r dyddiad cau ar gyfer ffurflenni papur lle nad yw'n bosib ffeilio'r ffurflen ar-lein. Gweler 'Dyddiadau cau ar gyfer ffurflenni treth na ellir eu hanfon ar-lein' isod).

(Os dychwelir ffurflenni treth Partneriaeth yn hwyr, bydd y partneriaid yn wynebu cosb o £100 yr un. Codir £100 ar yr ymddiriedolaeth neu ar yr ystad os bydd ffurflenni treth Ymddiriedolaethau ac Ystadau yn cael eu dychwelyd yn hwyr).

Cydnabod eich bod wedi cael ffurflen dreth

Ni ddarperir derbynebau ar gyfer ffurflenni treth papur. Os byddwch yn ffeilio ffurflen dreth ar-lein bydd Cyllid a Thollau EM yn cydnabod ar unwaith ar y sgrîn ei fod wedi derbyn eich ffurflen.

Hunanasesu - dyddiadau cau ar gyfer talu a chosbau am daliadau hwyr

31 Ionawr

Os anfonwyd rhybudd i chi lenwi ffurflen dreth erbyn y 31 Hydref blaenorol, yna mae'n rhaid i chi dalu'r hyn sy'n weddill o unrhyw dreth sy'n ddyledus gennych i Gyllid a Thollau EM erbyn 31 Ionawr. Cyfeirir at hwn fel 'taliad o'r gweddill'. Bydd Cyllid a Thollau EM yn codi llog dyddiol arnoch ar ôl y dyddiad hwn, nes iddynt gael eich taliad.

Hefyd erbyn y dyddiad hwn, efallai y gofynnir i chi wneud y 'taliad ar gyfrif' cyntaf ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol. Er enghraifft, ar 31 Ionawr 2009 efallai y bydd yn rhaid i chi dalu'r ddau isod:

  • gweddill y dreth sy'n ddyledus ar gyfer y flwyddyn 2007-08
  • y 'taliad ar gyfrif' cyntaf ar gyfer 2008-09

28 Chwefror

Os byddwch yn dal heb dalu'r taliad o'r gweddill sy'n ddyledus erbyn 31 Ionawr, codir tâl ychwanegol o 5 y cant arnoch yn awtomatig ar ben y swm sy'n dal yn ddyledus. Mae hyn yn ychwanegol i unrhyw daliadau llog.

31 Gorffennaf

Os oes disgwyl i chi wneud taliadau ar gyfrif, hwn yw'r dyddiad olaf i wneud ail 'daliad ar gyfrif' ar gyfer y dreth sy'n ddyledus ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol.

Os ydych yn dal heb dalu treth yr oeddech i fod i'w thalu erbyn y 31 Ionawr blaenorol, codir ail dâl ychwanegol o 5 y cant yn awtomatig arnoch ar ben y swm sy'n ddyledus gennych.

Ffurflenni treth a dderbynnir ar ôl 31 Hydref

Os ydych chi wedi cael eich ffurflen dreth (neu'r Rhybudd i ffeilio os byddwch yn ffeilio ar-lein) ar ôl 31 Hydref, rhaid i chi ei chwblhau a'i hanfon i Gyllid a Thollau EM o fewn tri mis i'r dyddiad y'i cawsoch. Fel rheol, mae gennych 30 diwrnod o'r dyddiad ar y cais am daliad (sef y 'Datganiad Hunanasesu').

Taliadau ar gyfrif a phryd y gallwch ofyn i'w haddasu

Gofynnir i chi wneud dau 'daliad ar gyfrif' ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol os yw cyfanswm y dreth sy'n ddyledus yn y flwyddyn dreth flaenorol yn llai na 80 y cant o'r dreth a dynnwyd yn y ffynhonnell drwy'r system Talu Wrth Ennill a bod eich bil treth Hunanasesu ar gyfer y flwyddyn flaenorol dros £500 (£1000 o 6 Ebrill 2009 - blwyddyn dreth 2009-10). Bydd pob taliad ar gyfrif yn cyfateb i hanner eich bil treth ar gyfer y flwyddyn flaenorol.

Os ydych chi'n disgwyl y bydd eich incwm am y flwyddyn gyfredol yn wahanol iawn i'r flwyddyn flaenorol, gallwch ofyn am addasu'r taliadau hyn.

Dyddiadau cau ar gyfer ffurflenni treth na ellir eu hanfon ar-lein

Mewn ychydig iawn o achosion ni ellir dychwelyd ffurflenni treth ar-lein ar hyn o bryd - er enghraifft, os ydych chi'n llenwi ffurflen dreth landlord cwmni dibreswyl. Yn yr achosion hyn rhaid i'r ffurflen dreth bapur gyrraedd Cyllid a Thollau EM erbyn 31 Ionawr fan hwyraf neu dri mis ar ôl dyddiad cyflwyno'r ffurflen dreth.

Ffurflenni a ddychwelir yn hwyr a cheisiadau am daliadau

Os yw'ch ffurflen dreth yn hwyr a bod Cyllid a Thollau EM yn meddwl nad ydych wedi talu digon o dreth ar amser gallant amcangyfrif faint o dreth y dylech chi ei thalu. Gelwir hyn yn 'benderfyniad' ynghylch treth sy'n ddyledus.

Yr unig ffordd y gallwch ddiweddaru'r penderfyniad hwn yw drwy lenwi eich ffurflen dreth a'i dychwelyd iddynt. Efallai y bydd angen i chi dalu cosbau a thaliadau ychwanegol hefyd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU