Pan fyddwch yn ffeilio ar-lein cyfrifir eich ffigurau'n awtomatig a byddwch yn gwybod yn syth faint mae angen i chi ei dalu neu faint sy'n ddyledus i chi. Gallwch ddefnyddio meddalwedd Hunanasesu Ar-lein Cyllid a Thollau EM (sydd am ddim) neu feddalwedd gan gyflenwyr eraill (mae ambell un o'r rhain am ddim hefyd). Ni ellir defnyddio gwasanaeth Cyllid a Thollau EM i ffeilio rhai tudalennau atodol, ond fe'u darperir gan feddalwedd gan gyflenwyr eraill.
Gallwch anfon prif Ffurflen Dreth Hunanasesu (SA100) Cyllid a Thollau EM ar-lein am ddim drwy ddefnyddio eu gwasanaeth ar-lein. Gallwch ffeilio'r tudalennau atodol canlynol ar-lein yn awr hefyd:
ac o fis Gorffennaf 2008:
Yn ogystal ag anfon eich ffurflen dreth ar-lein gallwch edrych ar ac/neu addasu eich manylion cyswllt ar-lein a defnyddio e-bost diogel i ofyn cwestiwn i Gyllid a Thollau EM (gweler 'Cymorth ar-lein gan Gyllid a Thollau EM' isod). Gallwch hefyd weld eich Datganiad o Gyfrif diweddaraf a hanes eich cyfrif ar-lein i gael gwybod:
Cofiwch mai dim ond y tudalennau atodol a restrir uchod sy'n cael eu cynnig gan Gyllid a Thollau EM. Os oes arnoch eisiau anfon tudalennau eraill ar-lein bydd angen i chi ddefnyddio meddalwedd gan gyflenwr arall (gweler 'Beth mae meddalwedd gan gyflenwyr eraill yn ei gynnwys' isod).
Gallwch ffeilio'r ffurflenni treth canlynol ar-lein drwy ddefnyddio meddalwedd gan gyflenwyr eraill (gellir cael ambell feddalwedd am ddim a bydd yn rhaid i chi dalu am ambell un):
Bydd y meddalwedd gan ddarparwyr eraill hefyd yn caniatáu i chi ffeilio rhai neu bob un o'r tudalennau atodol canlynol ar-lein:
Dilynwch y ddolen isod i gael rhestr o feddalwedd gan gyflenwyr eraill. Mae Cyllid a Thollau EM wedi profi'r rhain ac maent yn gydnaws â gwasanaeth ffeilio Hunanasesu Ar-lein.
Dydy Cyllid a Thollau EM ddim yn argymell un cynnyrch neu wasanaeth arbennig dros un arall, felly bydd yn rhaid i chi ddewis eich hun. Wrth gymharu cyflenwyr, gallech edrych ar bethau megis y nodweddion ychwanegol a gynigant, pa mor hawdd yw'r rhaglen i'w defnyddio a safon y cymorth a roddir.
Does dim rhaid i chi lenwi eich ffurflen dreth ar-lein i gyd gyda'i gilydd. Gallwch lenwi rhan ohoni, ei harbed a dychwelyd ati'n ddiweddarach. Gallwch ei hargraffu hefyd os dymunwch.
Os byddwch yn defnyddio meddalwedd Cyllid a Thollau EM, bydd eich gwaith yn cael ei arbed ar eu system hwy yn ddiogel. Dim ond chi fydd yn gallu gweld y ffurflen, ni fydd neb arall (y tu mewn na'r tu allan i Gyllid a Thollau EM) yn gallu edrych ar eich ffurflen nes byddwch wedi'i chyflwyno.
Os ydych yn defnyddio meddalwedd trydydd parti, efallai y bydd modd i chi arbed eich gwaith ar eich cyfrifiadur eich hun. Os yw'r nodwedd hon yn bwysig i chi, sicrhewch ei bod ar gael cyn dewis eich meddalwedd.
Pa fath bynnag o feddalwedd a ddewiswch, cyn y gallwch anfon eich ffurflen dreth ar-lein at Gyllid a Thollau EM, bydd angen i chi gofrestru i ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein - caniatewch o leiaf saith niwrnod i wneud hyn.
Bydd angen i chi gael eich Cyfeirnod Trethdalwr Unigryw wrth law (bydd hwn ar eich ffurflen dreth neu ar eich Datganiad o Gyfrif) ynghyd â'ch rhif Yswiriant Gwladol neu eich cod post.
I gael manylion llawn dilynwch y ddolen isod i'r erthygl 'Hunanasesu Ar-lein'. Os ydych chi'n dymuno cofrestru yn awr gallwch ddefnyddio'r ddolen isod.
Ar hyn o bryd, nid oes meddalwedd ar gael i ffeilio'r ffurflenni canlynol:
Ar gyfer y rhain, rhaid i chi anfon ffurflen bapur i Gyllid a Thollau EM. Gan nad oes gwasanaeth ar-lein ar gael, mae'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r ffurflenni papur hyn yr un fath â'r dyddiad cau ar gyfer ffurflenni ar-lein - 31 Ionawr.
Mae'r Ddesg Gymorth Gwasanaethau Ar-lein yn rhoi cymorth gyda meddalwedd Cyllid a Thollau EM (ond nid meddalwedd gan gyflenwyr eraill). Gallwch gysylltu â'r ddesg gymorth drwy ffonio 0845 6055 999 neu drwy ddefnyddio minicom ar 0845 366 7805. Mae ar agor saith niwrnod yr wythnos rhwng 8.00 am ac 8.00 pm (ar gau Ddydd Nadolig, Dydd San Steffan a Dydd Calan). Gallwch hefyd gysylltu â'r ddesg gymorth drwy anfon e-bost i'r cyfeiriad isod: