Os gwelwch na fyddwch yn gallu talu'ch bil treth, y peth pwysicaf yw peidio â'i anwybyddu. Os oes camgymeriad ar y bil, gellir ymchwilio i hynny a'i gywiro. Os na allwch chi dalu'r bil yn syth, efallai y gallwch chi ddod i ryw drefniant.
Os nad ydych yn sicr a yw eich bil yn gywir, mae'n syniad da dechrau drwy fynd drwy'r ffigurau ar eich ffurflen dreth. Os ydych wedi ychwanegu 0 i'ch incwm yn ddamweiniol, bydd gennych fil sy'n fwy o lawer nag y dylai fod.
Gallech hefyd edrych i wneud yn siŵr nad ydych wedi defnyddio ffigurau dros dro ar eich ffurflen - os ydych wedi gwneud hynny, bydd eich bil wedi'i seilio ar y ffigurau hynny. Bydd angen i chi gyflwyno’r ffigurau cywir er mwyn addasu'r bil.
Os yw ffigurau eich ffurflen dreth yn gywir, efallai fod eich bil yn cynnwys cosbau neu daliadau ychwanegol oherwydd i chi anfon eich ffurflen i mewn yn hwyr. Bydd unrhyw daliadau o'r fath yn ymddangos ar eich Datganiad Hunanasesu.
Os yw'r bil yn gywir ond nad ydych yn gallu ei dalu, dylech gysylltu â'r Swyddfa Dreth a anfonodd y cais am daliad atoch ar unwaith. Neu gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Taliadau ar 1274 539 628 rhwng 8.00 am a 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Os byddwch yn anwybyddu eich bil bydd Cyllid a Thollau EM yn eich ffonio beth bynnag. Os byddwch yn parhau i'w anwybyddu, gallant gymryd camau cyfreithiol i gael yr arian. Hyd yn oed os mai nhw sy'n cysylltu â chi yn gyntaf gallwch ofyn iddynt ystyried cytuno ar drefniant talu.
Edrychir ar bob achos yn unigol ond fel arfer:
Bydd Cyllid a Thollau EM yn ystyried unrhyw drefniant talu y byddwch yn ei awgrymu. Os ydych yn meddwl bod Cyllid a Thollau EM wedi'i wrthod heb ei ystyried yn iawn, gallwch gwyno ond chewch chi ddim apelio yn erbyn eu penderfyniad.
Ni fydd Cyllid a Thollau EM yn ystyried unrhyw drefniant talu nes i chi ddychwelyd unrhyw ffurflenni sydd heb eu hanfon ar amser.
Os nad ydych chi wedi dychwelyd eich ffurflen(ni):
Os na fyddwch yn talu ar ôl i Gyllid a Thollau EM eich ffonio, bydd y swyddfa adennill leol yn ysgrifennu atoch. Cewch eich rhybuddio y byddant yn cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn i gasglu'r hyn sydd arnoch chi os ydych yn parhau i beidio â thalu. Gallwch barhau i wneud cynnig i dalu.
Os cytunwch i dalu'r swm llawn o fewn 28 diwrnod, ni fydd angen cymryd camau pellach.
Os cynigiwch amser hwy i dalu, efallai y bydd yn rhaid ichi roi'r canlynol i'r swyddfa adennill:
Bydd rhaid ichi dalu llog ar unrhyw dreth y byddwch yn ei thalu'n hwyr.
Cyngor am ddim os na allwch chi dalu eich bil treth
Os hoffech chi drafod eich bil treth gyda rhywun, gallwch gael cyngor am ddim gan Gyngor Ar Bopeth neu TaxAid, elusen sy'n helpu pobl gyda phroblemau treth nad ydynt yn gallu fforddio talu am gyngor.