Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Deall eich cyfrifiad treth

Mae eich cyfrifiad treth yn dangos faint o Dreth Incwm y mae angen i chi ei dalu - neu faint yn ormod yr ydych wedi'i dalu - am flwyddyn dreth benodol. Bydd y cyfrifiad treth yn dweud wrthych pryd y mae angen i chi dalu unrhyw dreth sy'n ddyledus, neu faint sy'n ddyledus i chi.

Cael eich cyfrifiad treth

Cewch gyfrifiad treth:

  • os gwnaethoch anfon ffurflen dreth bapur a gofyn i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi gyfrifo eich treth
  • os gwnaethoch anfon ffurflen dreth bapur a chyfrifo'r dreth, ond mae Cyllid a Thollau EM yn meddwl eich bod wedi gwneud camgymeriad
  • os gwnaethoch anfon newid i ffurflen dreth ar bapur neu ar-lein

Ni chewch gyfrifiad treth os gwnaethoch lenwi eich ffurflen dreth ar-lein oherwydd bydd ffurflen dreth ar-lein yn cyfrifo'ch ffigurau i chi.

Pam ei bod yn bwysig gwneud yn siŵr bod eich cyfrifiad treth yn gywir

Mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod y ffigurau'n gywir a rhoi gwybod i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi os ydych yn anghytuno â hwy oherwydd byddant:

  • yn sail i ofyn am daliad - eich 'Datganiad Hunanasesu'
  • yn cael eu defnyddio i addasu eich cod treth Talu Wrth Ennill y flwyddyn nesaf os gwnaethoch ofyn am hyn ar eich ffurflen dreth Hunanasesu

Rhowch wybod i Gyllid a Thollau EM am unrhyw ymholiadau sydd gennych cyn 31 Ionawr er mwyn i chi allu talu mewn pryd - neu fe allech orfod dalu cosb a llog.

Llythyr esboniadol eich cyfrifiad treth

Bydd y llythyr esboniadol yn dweud wrthych

  • at ba flwyddyn dreth y mae'r cyfrifiad yn cyfeirio
  • beth yw'r 'Cyfanswm Treth Incwm sy'n ddyledus' - daw hwn o'r dudalen arall sy'n cynnwys y cyfrifiadau
  • sut a phryd i dalu
  • am unrhyw newidiadau yr ydym wedi'u gwneud i'r ffigurau ar eich ffurflen dreth

Os nad ydych yn cytuno â'r ffigurau cysylltwch â Swyddfa Cyllid a Thollau EM drwy ddefnyddio'r rhif ar eich cyfrifiad treth.

Deall y cofnodion ar y tudalennau sy'n cynnwys y cyfrifiad treth

Edrychwch ar bob cofnod yn eich cyfrifiad i wneud yn siŵr eich bod yn eu deall yn iawn.

Incwm a dderbyniwyd (cyn tynnu treth)

Mae hyn yn rhestru eich holl incwm trethadwy am y flwyddyn - gan gynnwys y symiau gros cyn treth ar gyfer pethau fel:

  • llog ar gynilion
  • difidendau - mae'r swm gros yn cynnwys y credyd treth o 10 y cant
  • buddion a threuliau trethadwy a gawsoch drwy'ch gwaith, heb gynnwys unrhyw dreuliau a ganiateir y cewch eu hawlio

Bydd y dreth a dynnir o'ch incwm yn cael ei gosod yn erbyn eich bil treth terfynol.

Cyfanswm yr incwm y mae angen talu treth arno

Dyma'r incwm yr ydych wedi'i gael - fel yr eglurwyd uchod - gyda'ch lwfansau personol di-dreth ac unrhyw lwfansau eraill y mae gennych hawl iddynt wedi eu tynnu ohono.

Sut ydw i wedi cyfrifo'ch Treth Incwm

Trethir gwahanol fathau o incwm ar wahanol gyfraddau. Bydd eich incwm trethadwy i'w weld wedi'i rannu'n dri math gwahanol.
Bydd cyfradd y dreth sy'n berthnasol i bob gwahanol fath o incwm yn amrywio gan ddibynnu ar:

  • faint o bob math gewch chi
  • y gwahanol fandiau treth sy'n berthnasol

Os ydych chi'n talu treth ar y gyfradd uwch (40 y cant) ac i chi roi i elusen drwy ddefnyddio Cymorth Rhodd, dim ond pan wnaethoch roi eich rhodd y cawsoch ad-daliad ar y gyfradd sylfaenol (22 y cant hyd at 5 Ebrill 2008 ac 20 y cant ar ôl hynny). Mae'r cyfrifiad treth yn addasu'r pwynt lle byddwch yn talu treth ar gyfradd uwch i roi'r 18 y cant ychwanegol o ad-daliad i chi.

Treth Incwm a godir

Dyma gyfanswm y Dreth Incwm y gellir ei thynnu o'r incwm yr ydych wedi'i gael yn ystod y flwyddyn dreth ddiwethaf.

Cyfanswm Treth Incwm sy'n ddyledus

Bydd unrhyw dreth a dynnwyd drwy'r system Talu Wrth Ennill neu yn y ffynhonnell yn cael ei thynnu o'r ffigur 'Treth Incwm a godir' i roi'r ffigur ar gyfer cyfanswm y Dreth Incwm sy'n ddyledus.

Cofnodion eraill ar y cyfrifiad

Gallai cofnodion eraill ar y cyfrifiad gynnwys y canlynol:

  • Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 - os ydych chi'n hunangyflogedig
  • Treth Enillion Cyfalaf
  • ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr

Pryd a sut mae talu'r 'swm sy'n ddyledus'?

Bydd y swm sy'n ddyledus ar gyfer y cyfnod i'w weld ar dudalen flaen y llythyr esboniadol a ddaw gyda'r cyfrifiad treth. Ni fydd y ffigur hwn yn cynnwys unrhyw dreth yr ydych eisoes wedi'i thalu 'ar gyfrif' neu unrhyw dreth sy'n ddyledus.

Os yw'r cyfrifiad treth yn berthnasol i dreth y flwyddyn ddiwethaf

Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon Datganiad Hunanasesu ar wahân i chi yn dweud wrthych faint i'w dalu, sut a phryd.

Bydd y ffigur ar y Datganiad Hunanasesu yn ystyried taliadau sydd eisoes wedi'u gwneud a symiau sydd heb eu talu eto.

Ni fydd yn bosib i Gyllid a Thollau EM baratoi Datganiad Hunanasesu i chi erbyn y terfyn amser, sef 31 Ionawr. Os bydd hyn yn digwydd, edrychwch ar eich datganiadau blaenorol i weld pa daliadau yr ydych eisoes wedi'u gwneud at y swm a ddangosir ar y cyfrifiad treth. Bydd angen i chi hefyd weld a oes unrhyw dreth sy'n ddyledus o gyfnodau treth eraill. Yna, gallwch gyfrifo pa dreth sy'n ddyledus gennych a gwneud y taliad cywir.

Cosbau a'r dyddiadau cau ar gyfer anfon eich ffurflen dreth - dod o hyd i'r dyddiadau cyfredol

Os ydych chi wedi cael cyfrifiad treth ar gyfer blwyddyn dreth gynharach, efallai mai'r rheswm am hynny yw bod Cyllid a Thollau EM wedi gweld camgymeriad. Mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi wneud taliad yn syth. Gallwch weld hyn drwy gyfeirio at ddatganiadau diweddar. Os byddwch yn ffeilio ar-lein gallwch weld eich datganiadau ac unrhyw swm sy'n ddyledus.

Os byddwch yn anghytuno â'r cyfrifiadau treth neu'r taliadau ar gyfrif

Os byddwch yn anghytuno â'ch cyfrifiad treth, cysylltwch â'r rhif ar gornel dde uchaf eich cyfrifiad, gan ddyfynnu eich cyfeirnod trethdalwr unigryw (UTR). Os ydych chi'n meddwl bod eich taliad ar gyfrif yn rhy uchel gallwch hawlio gostyngiad drwy ddefnyddio ffurflen SA303.

Ond rhowch wybod i Gyllid a Thollau EM os bydd eich incwm yn cynyddu oherwydd dylai eich taliadau ar gyfrif adlewyrchu hyn - os na fyddwch yn rhoi gwybod iddynt bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosb efallai.

Allweddumynediad llywodraeth y DU