Os ydych chi'n teithio i'r DU o dramor, mae faint o rai mathau o nwyddau y gallwch ddod gyda chi i'r wlad a'r tollau a'r dreth y bydd angen i chi eu talu arnynt o bosibl yn dibynnu ar ble y prynwyd y nwyddau a beth ydynt. Gwaherddir rhai nwyddau'n gyfan gwbl.
Wrth ddod â nwyddau o wlad arall, gall y tollau a'r trethi canlynol yn berthnasol:
Ni chewch ddod â rhai nwyddau, megis ifori, i'r DU dan unrhyw amgylchiadau, Mae mathau eraill o nwyddau wedi'u cyfyngu.
Does dim rhaid ichi dalu Toll Ecseis y DU ar nwyddau ecseis (er enghraifft alcohol a thybaco) gyhyd ag y bo'r canlynol i gyd yn berthnasol:
Os ydych yn cario mwy na'r terfynau tybaco ar gyfer y gwledydd uchod, rhaid i chi dalu Treth Ecseis y DU ar y nwyddau hynny. Byddwch yn gwneud hyn drwy fynd trwy'r sianel goch yn yr adran dollau neu drwy ddefnyddio'r ffôn pwynt coch. Os byddwch yn mynd trwy'r sianeli glas neu wyrdd gyda mwy na'r terfynau a ganiateir, mae'n bosibl y bydd yr holl dybaco sydd gennych yn cael ei gymryd oddi arnoch.
Os ydych yn dod â nwyddau tybaco neu alcohol i'r wlad (nid oes ots faint) a bod gan Gyllid a Thollau EM reswm i amau y gallent fod at ddiben masnachol, gallai un o Swyddogion y Tollau eich stopio a gofyn cwestiynau i chi a gwneud archwiliadau.
Mae gan Gyllid a Thollau EM hawl i gymryd y nwyddau oddi arnoch, ynghyd â'r cerbyd a ddefnyddiwyd i'w cludo, os oes ganddynt dystiolaeth eu bod at ddiben masnachol.
Os ydych yn bwriadu dod â nwyddau ecseis yn ôl i'r wlad at ddiben masnachol, rhaid i chi naill ai drefnu i dalu'r Doll Ecseis angenrheidiol cyn dod â'r nwyddau i'r DU, neu wneud trefniadau arbennig i ddod â'r nwyddau i'r wlad gan ddefnyddio dogfennau masnachol a'u rhoi mewn warws cymeradwy.
I gael gwybodaeth am sut i wneud hyn, cysylltwch â Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol Cyllid a Thollau EM ar 0845 010 9000. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Does dim TAW yn daladwy ar nwyddau a ddygir i'r DU o'r UE - ond rhaid i TAW fod yn gynwysedig yn y pris a dalwyd gennych am y nwyddau yng ngwledydd yr UE (gan gynnwys nwyddau ecseis). Os nad yw wedi'i dalu a chithau'n cael eich stopio gan swyddogion y tollau, mae'n debyg y bydd y nwyddau'n cael eu cymryd oddi arnoch.
Wrth deithio o wlad y tu allan i'r UE (gan gynnwys yr Ynysoedd Dedwydd, Ynysoedd y Sianel a Gibraltar), mae cyfyngiadau ar faint o dybaco, alcohol a phersawr y gallwch ddod gyda chi i'r DU at eich defnydd eich hun heb dalu Toll Dramor, Toll Ecseis neu TAW.
Os oes gennych bersawr neu eau de toilette ar ben y lwfansau, bydd rhaid ichi dalu toll tramor a TAW ar yr hyn sy'n ychwanegol i'r lwfans. Gweler yr adran isod: 'Faint o TAW a Tholl Dramor y bydd rhaid i chi ei dalu?'
Hefyd, gallwch ddod â nwyddau eraill hyd at £145 yn eu gwerth heb dalu unrhyw TAW a Tholl Dramor.
Os dowch â nwyddau i'r wlad sydd werth mwy na £145, rhaid ichi dalu Toll Dramor a TAW ar werth llawn yr eitem neu'r eitemau sydd yn mynd â chi dros y trothwy hwnnw. Os oes gennych sawl eitem sy'n dod i fwy na £145, dylech eu datgan i gyd.
Mae'r union swm sy'n daladwy'n amrywio yn dibynnu ar y wlad yr ydych yn dod ohoni a'r eitemau sydd gennych.
I gael syniad faint y bydd angen ichi ei dalu, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol Cyllid a Thollau EM ar 0845 010 9000 neu +44 (0) 208 929 0152 os ydych yn galw o dramor. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Ond cofiwch mai dim ond pan fyddwch yn cyflwyno'r nwyddau yn yr adran dollau y gellir pennu'r union swm y bydd angen ichi ei dalu.
Mae rheolau arbennig yn berthnasol. Darllenwch y manylion ar wefan Cyllid a Thollau EM.
Os oes gennych nwyddau i'w datgan, neu os nad ydych yn sicr beth y dylech ei ddatgan, dylech fynd trwy'r sianel goch neu ddefnyddio'r ffôn pwynt coch pan fyddwch yn cyrraedd adran Tollau'r DU. Dylech roi gwybod i Swyddog y Tollau am bopeth yr ydych yn dod gyda chi i'r wlad. Efallai y bydd y Swyddog yn gofyn am gael edrych yn eich bagiau.
Bydd un o Swyddogion y Tollau yn cyfrifo unrhyw dollau a TAW sy'n ddyledus a dweud wrthych faint i'w dalu. Bydd yn rhoi derbynneb i chi y dylech ei chadw fel prawf eich bod wedi talu.
Yn yr achos hwn, ewch trwy'r sianel werdd ar ôl casglu'ch bagiau. Ond cofiwch fod Swyddogion y Tollau'n gwneud archwiliadau ar deithwyr yn y sianel werdd ac mae cosbau am beidio â datgan nwyddau. Gall y rhain gynnwys cymryd y nwyddau oddi arnoch ac unrhyw gerbyd a ddefnyddiwyd i'w cludo.