Y Dreth Etifeddu yw'r dreth sy'n cael ei thalu ar eich 'ystad'. Yn gyffredinol, golyga hyn bopeth yr ydych yn berchen arno adeg eich marwolaeth, llai eich dyledion. Weithiau mae'n daladwy ar asedau yr ydych wedi'u rhoi i ffwrdd yn ystod eich bywyd. Mae asedau'n cynnwys pethau megis eiddo, eiddo personol, arian a buddsoddiadau.
Nid yw pawb yn talu Treth Etifeddu ar adeg marwolaeth. Mae'n berthnasol dim ond os yw gwerth trethadwy eich ystad adeg eich marwolaeth yn fwy na £312,000 (blwyddyn dreth 2008-2009) ac nid yw'n daladwy ond ar y swm ychwanegol dros y trothwy hwn.
Mae nifer o eithriadau hefyd sy'n gadael i chi drosglwyddo symiau (yn ystod eich oes neu yn eich ewyllys) heb i Dreth Etifeddu fod yn ddyledus, er enghraifft:
Rhaid talu'r Dreth Etifeddu'n syth wrth drosglwyddo asedau i'r rhan fwyaf o ymddiriedolaethau a chwmnïau os byddant dros y trothwy ar gyfer Treth Etifeddu (gan ystyried y rhoddion a'r trosglwyddiadau trethadwy o'r saith mlynedd blaenorol). Darllenwch ein herthygl gysylltiedig - Treth Etifeddu ar drosglwyddiadau i ymddiriedolaethau a chwmnïau. Mae gweddill yr erthygl gyfredol yn ymdrin â Threth Etifeddu ar ystad unigolyn pan fydd yn marw.
Pan fydd Treth Etifeddu'n ddyledus ar ystad person ymadawedig, dyma'r cyfraddau a godir:
| Treth Etifeddu |
Blwyddyn dreth 2008-2009 |
|---|---|
| Trothwy gwerth trethadwy'ch ystad pan ddechreuir codi'r dreth | £312,000 |
| Cyfradd y dreth | 40% |
Y 'cynrychiolydd personol' (y person a enwebir i ddelio gyda materion yr ymadawedig) sy'n trefnu i dalu unrhyw Dreth Etifeddu sy'n ddyledus.
Fel arfer rydych yn enwebu'r cynrychiolydd personol yn eich ewyllys (gallwch enwebu mwy nag un), a chaiff ei alw'n 'ysgutor'. Os byddwch yn marw heb adael ewyllys, gall llys enwebu'r cynrychiolydd personol, a chaiff ei alw'n 'weinyddwr'.
Os ydych wedi cael eich enwebu yn gynrychiolydd personol i rywun, bydd angen ichi brisio'r holl asedau yr oedd yr ymadawedig yn berchen arnynt. Rhaid i'r prisiad adlewyrchu'n gywir y pris y byddai'n rhaid ei dalu o fewn rheswm am yr asedau ar y farchnad agored adeg marwolaeth yr unigolyn.
Yn y rhan fwyaf o achosion, rhaid talu'r Dreth Etifeddu o fewn chwe mis i ddiwedd y mis pryd y bu farw'r ymadawedig, fel arall bydd llog yn cael ei godi ar y swm sy'n ddyledus.
Gellir gohirio treth ar rai asedau, gan gynnwys tir ac adeiladau, a'i thalu mewn rhandaliadau dros 10 mlynedd.
| Y wlad lle roedd yr ymadawedig yn byw | Y ffurflenni gofynnol ar gyfer ystadau eithriedig |
|---|---|
| Lloegr | Ffurflen IHT205 a ffurflen PA1 - cais am brofiant |
| Yr Alban | Ffurflen C1 ('Rhestr eiddo') a ffurflen C5 os bu farw ar neu cyn 6 Ebrill 2004; os bu farw cyn y dyddiad hwn, ffurflen C1 yn unig |
| Gogledd Iwerddon | Ffurflen IH205 yn unig |
Yn yr achos hwn llenwch ffurflen IHT200 ac unrhyw ffurflenni atodol perthnasol (nodir y rhain ar ffurflen IHT200).
Bydd angen llenwi'r canlynol hefyd:
(Yng Ngogledd Iwerddon dim ond mewn cyfweliad y bydd y ffurflen gais am brofiant yn cael ei llenwi.)
Bydd y nodiadau cymorth ar IHT200 yn dweud wrthych lle i anfon y ffurflenni a'r camau nesaf.
Darllenwch ganllawiau Cyllid a Thollau EM ar y Dreth Etifeddu.
Llinell Gymorth Profiant a Threth Etifeddu: 0845 3020 900 (ar agor rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).
Os oes gennych ystad a allai fod yn fawr, dylech gael cyngor proffesiynol. Mae'n syniad da gwneud ewyllys hefyd, gan enwebu rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo i weithredu fel eich cynrychiolydd personol.