Mae rheolau newydd golygu caiff gŵr neu wraig weddw, neu berson sydd wedi colli ei bartner/phartner sifil elwa o hyd at ddwbl lwfans y dreth etifeddu – £624,000 ar unwaith ar gyfer y flwyddyn treth 2008-2009, a fydd yn codi i £700,000 erbyn 2010-11 – yn ogystal â chael yr hawl i'r cymorth llawn ar gyfer gŵr neu wraig.
Dim ond os yw gwerth trethadwy eich ystâd adeg eich marwolaeth yn fwy na £325,000 (blwyddyn dreth 2009-2010) y bydd yn rhaid talu'r Dreth Etifeddu. Gelwir £325,000 cyntaf ystâd person yn fand dim treth y Dreth Etifeddu oherwydd ar hyn o bryd canran sero yw'r swm a godir, felly mae'n ddi-dreth.
Pan fydd asedau'n cael eu trosglwyddo rhwng gwŷr/gwragedd neu bartneriaid sifil, cânt eu heithrio rhag gorfod talu'r Dreth Etifeddu. Gall hyn olygu, os yw'r gŵr/gwraig neu'r partner sifil sy'n marw gyntaf yn gadael eu holl asedau i'r gŵr/gwraig neu'r partner sy'n dal yn fyw, ni ddefnyddir budd y band dim treth i drosglwyddo asedau i aelodau eraill y teulu (y plant fel arfer) yn ddi-dreth.
Pan fydd un person mewn priodas neu bartneriaeth sifil yn marw a ddim yn defnyddio'u band dim treth i roi cymynroddion di-dreth i aelodau eraill y teulu, y gellir trosglwyddo'r swm nas defnyddiwyd i ystâd y person sy'n dal yn fyw, i'w ddefnyddio pan fyddant yn marw.
Dim ond os yw'r person sy'n dal yn fyw yn marw ar 9 Hydref 2007 neu ar ôl hynny mae hyn yn berthnasol.
Felly, rhyngddynt, mae gan wŷr/gwragedd a phartneriaid sifil fand dim treth sy'n werth dwbl swm y band dim treth sy'n berthnasol pan fydd yr un a oroesodd yn marw.
Er enghraifft, os bu farw’r gŵr/gwraig gyntaf ar 5 Ionawr 2008, ac maent yn gadael cymynrodd o £40,000 yr un i dri o blant, codir treth etifeddu ar £120,000. Gan fod y swm yn is na £300,000 (band dim treth y Dreth Etifeddu ar gyfer blwyddyn dreth 2007-08), mae'r cymynroddion yn cael eu trosglwyddo heb dreth a bydd £180,000 (neu 60 y cant) o'r band dim treth heb ei ddefnyddio. Gellir trosglwyddo'r swm hwn nas defnyddiwyd i ystâd y sawl sy'n dal yn fyw. Yna, pan fydd ef neu hi'n marw, os yw'r band dim treth yn £325,000 (band dim treth y Dreth Etifeddu ar gyfer blwyddyn dreth 2009-10), bydd band dim treth y dreth etifeddu ar eu cyfer yn codi 60 y cant i £520,000.
Darllenwch ganllawiau Cyllid a Thollau EM ar y Dreth Etifeddu.
Llinell Gymorth Profiant a Threth Etifeddu: 0845 3020 900 (ar agor rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).