Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd eich ymwneud â Chyllid a Thollau EM yn syml ac ni ddylai achosi unrhyw anawsterau nac anghyfleustra. Fodd bynnag, gall camgymeriadau ac oedi ddigwydd, neu efallai y byddwch yn anhapus gyda'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch achos. Beth bynnag y bo'r broblem, mae gennych hawl i gwyno am wasanaeth gwael.
Beth bynnag y bo natur eich cyswllt â Chyllid a Thollau EM, os ydych wedi cael profiad gwael, gorau po gyntaf i chi roi gwybod iddynt am hynny er mwyn iddynt allu gwneud rhywbeth amdano.
Pa un a yw eich cwyn yn ymwneud ag oedi afresymol, camgymeriad y gellid bod wedi'i osgoi yn eich barn chi, neu sut y cawsoch eich trin, mae Cyllid a Thollau EM yn awyddus i ddysgu o gamgymeriadau ac unioni pethau cyn gynted ag y bo modd.
Fel cam cyntaf, y peth gorau fel arfer yw siarad â rhywun yn eich Swyddfa Dreth, neu yn y porthladd neu'r maes awyr os yw'r mater yn gysylltiedig â thollau tramor. Bydd hyn fel arfer yn ddigon i unioni'r mater, ond os ydych yn dal yn anhapus, mae gan Gyllid a Thollau EM drefn gwyno ffurfiol.
Ysgrifennwch at, neu gofynnwch am gael siarad â'r Rheolwr Cwynion yn y swyddfa neu borthladd/maes awyr dan sylw. Cewch wneud eich cwyn drwy lythyr, dros y ffôn, drwy ffacs neu'n bersonol. Dywedwch wrthynt eich bod yn anhapus ac am gwyno. Os ydych yn ysgrifennu, rhowch y gair 'Cwyn' ar ben eich llythyr neu ffacs.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu, neu'n fodlon rhoi:
Rhowch grynodeb o'r hyn a aeth o'i le yn eich barn chi a beth y dylai Cyllid a Thollau EM ei wneud i unioni'r sefyllfa. Byddant yn edrych ar eich pryderon ac yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl - fel arfer o fewn 15 diwrnod.
Byddai Cyllid a Thollau EM yn disgwyl datrys y rhan fwyaf o gwynion ar y cam hwn.
Os ydych yn anhapus â'r ymateb a gewch, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM edrych ar eich cwyn unwaith eto. Bydd uwch swyddog nad yw wedi bod yn gysylltiedig â'r achos yn:
Os ydych dal yn anfodlon gallwch ofyn i'r Dyfarnwr edrych ar eich cwyn.
Canolwr teg a diduedd yw'r Dyfarnwr. Bydd yn annibynnol ar Gyllid a Thollau EM ac yn darparu ei wasanaeth am ddim.
Swyddfa'r Dyfarnwr
8th Floor
Euston Tower
286 Euston Road
London
NW1 3US
Ffôn: 030 0057 1111 neu 020 7667 1832
Ffacs: 030 0057 1212 neu 020 7667 1830
Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd y deliodd Cyllid a Thollau EM a'r Dyfarnwr gyda'ch cwyn, gallwch ofyn i unrhyw AS gyfeirio'ch achos at yr Ombwdsmon Seneddol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch ar wefan Gwasanaeth yr Ombwdsmon Seneddol neu ffoniwch linell gymorth yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd ar 0845 015 4033. Mae'r llinellau ar agor rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gallwch hefyd anfon ffacs i'r swyddfa ar 020 7217 4000 neu anfon e-bost at phso.enquiries@ombudsman.org.uk
Gallwch hefyd ofyn i'ch AS godi'ch achos gyda Gweinidogion y Trysorlys neu Gyllid a Thollau EM.
Mae Cyllid a Thollau EM yn awyddus i'ch helpu os ydych am gwyno a byddant yn eich trin mewn modd cyfeillgar a phroffesiynol. Byddant:
Efallai y gallwch hawlio costau rhesymol yn ôl, costau yr ydych wedi gorfod eu talu o ganlyniad uniongyrchol i gamgymeriadau neu oedi gan Gyllid a Thollau EM, megis:
Os yw camgymeriadau neu oedi o du Cyllid a Thollau EM wedi peri llawer o boendod neu drallod ichi, efallai y gallant roi tâl bachan yn gydnabyddiaeth ac i ymddiheuro am hyn. Gallant hefyd wneud taliad ychwanegol os ymdriniwyd â'ch cwyn mewn ffordd annerbyniol neu os cymerwyd amser afresymol o hir i ddelio â'ch cwyn.